Bwletin ar gyfer Awst 2025
Diweddarwyd Diwethaf: 02 Medi 2025
Blwyddyn academaidd (BA) 2025/26
Mae angen i chi gwblhau'r tasgau gweinyddol canlynol i baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd:
- Gwnewch yn siŵr bod myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd yn llofnodi Cytundeb Dysgu LCA/GDLlC AB ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Dyddiad cychwyn cynllun LCA/GDLlC AB ar gyfer BA 2025/26 fydd 8 Medi.
- Mewnbynnwch Gytundebau Dysgu wedi'u llofnodi i'r porth. Gwnewch hyn o fewn 10 diwrnod gwaith i gais wedi'i gymeradwyo, neu 8 Medi, pa un bynnag sydd ddiweddaraf. Os yw'ch myfyrwyr yn dychwelyd i astudio'n gynharach ac mae ganddynt Gytundeb Dysgu wedi'i lofnodi, gallwch gadarnhau eu presenoldeb cyn 8 Medi.
- Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, cofiwch nodi eich gwyliau ar gyfer BA 2025/26. Mae dros 75% o Ganolfannau Dysgu eisoes wedi gwneud hyn. Mae rhagor o wybodaeth am sut i nodi eich gwyliau ar wefan Gwasanaethau'r Ganolfan Ddysgu.
- Tynnwch unrhyw fyfyrwyr nad ydynt bellach yn astudio gyda chi o borth blwyddyn academaidd 2025/26 cyn gynted â phosibl.
Newidiadau yn staff gweinyddol LCA yn eich Canolfan Ddysgu
Os bu newid yn y staff sy'n gweinyddu LCA yn eich Canolfan Ddysgu, cysylltwch â mi i drefnu sesiwn hyfforddi naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Ceisiadau myfyrwyr
Myfyrwyr newydd
Dylai myfyrwyr wneud cais ar-lein lle bo modd, a chyn gynted â phosibl. Mae ffurflenni cais papur hefyd ar gael ar wefan CMC i'w hargraffu.
I fod yn gymwys ar gyfer taliadau LCA wedi’u hôl-ddyddio i ddechrau’r flwyddyn academaidd, rhaid i fyfyrwyr wneud cais o fewn 13 wythnos i ddyddiad dechrau’r cwrs. Bydd ceisiadau sy'n dod i law ar ôl y 13 wythnos yn dal yn gymwys ar gyfer tâl ôl-ddyddiedig ond dim ond i'r amser bras y cawsom eu ffurflen gais.
Anogwch fyfyrwyr i wneud cais cyn gynted â phosibl.
Myfyrwyr sy'n dychwelyd
Nid oes angen i fyfyrwyr sy'n dychwelyd gyflwyno cais. Yn lle hynny, mae eu cytundeb LCA BA 2025/26 wedi'i lofnodi yn gweithredu fel eu cais i ail-ymgeisio am gymorth am flwyddyn bellach.
Ysgrifennodd Cyllid Myfyrwyr Cymru at fyfyrwyr sy'n dychwelyd yn ystod y Gwanwyn i roi gwybod iddynt y camau nesaf i'w dilyn ar gyfer BA 2025/26.
Gwefan Gwasanaethau y Ganolfan Ddysgu
Cofiwch fod canllawiau a deunyddiau hyrwyddo ar wefan Gwasanaethau'r Ganolfan Ddysgu.
Mae yna hefyd enghraifft o Gytundeb Dysgu teg a realistig ar gael, os bydd angen diweddaru eich un chi.
Mae Cytundebau Dysgu BA 2025/26 a chanllawiau gwybodaeth talu ar Borth y Ganolfan Ddysgu yn yr adran lawrlwythiadau.
Gwelliannau system
Tynnu'n ôl o GDLlC AB
Rydym wedi gwella Porth y Ganolfan Ddysgu i symleiddio sut rydych chi'n tynnu myfyriwr yn ôl os byddant yn penderfynu peidio â pharhau â'u hastudiaethau yng nghanol y flwyddyn.
Yn flaenorol, roedd angen i chi ddiarddel y myfyriwr cyn eu tynnu'n ôl. Nawr gallwch ddewis yr opsiwn tynnu'n ôl.
Dynodwr amgylchiadau esgusodol
Rydym wedi gwella'r dudalen rhestr waith presenoldeb ar gyfer LCA a GDLlC AB.
Mae dangosydd bellach i helpu nodi myfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol. Bydd hyn yn eich helpu i wneud penderfyniad gwybodus wrth farcio eu presenoldeb.