Cyhoeddwyd: 31/08/2023

Bwletin ar gyfer Awst


Blwyddyn academaidd newydd 2023/24

Mae angen i ddysgwyr newydd a dysgwyr sy'n dychwelyd lofnodi Cytundeb Dysgu LCA/GDLlC newydd ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Dyddiad cychwyn cynllun LCA/GDLlC ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 fydd 11 Medi.

Os yw cais eisoes wedi’i gymeradwyo, rhaid i ddysgwyr lofnodi eu Cytundeb Dysgwr o fewn 10 diwrnod gwaith i’r dyddiad hwn.

Os yw cais yn dal i fynd drwy’r broses weinyddol a chymeradwyo, rhaid i ddysgwyr lofnodi eu Cytundeb Dysgu o fewn 10 diwrnod gwaith i gymeradwyo’r cais.

Efallai y bydd gennych ddysgwyr a fydd yn dychwelyd i astudio'n gynharach a bod gennych Gytundeb Dysgu wedi'i lofnodi yn ei le. Os felly, gallwch gadarnhau eu presenoldeb cyn 11 Medi.

Ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24, gallwch barhau i e-bostio Cytundebau Dysgu at ddysgwyr os yw cyfarfod yn bersonol yn anodd. Dylech gadw pob cadarnhad e-bost at ddibenion archwilio. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am e-bostio yn y nodiadau canllaw ar y wefan Gwasanaethau Dysgu.

Cofiwch hefyd nodi eich gwyliau ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24, os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut i gofnodi eich gwyliau yn y nodiadau canllaw ar wefan Gwasanaethau y Ganolfan Ddysgu.

 

Sut dylai myfyrwyr LCA/GDLlC wneud cais?

Dylai myfyrwyr newydd LCA/GDLlC wneud cais gan ddefnyddio'r ffurflen gais bapur nes bod unrhyw ddiweddariadau pellach yn cael eu darparu i ganolfannau Dysgu ar ddulliau amgen.

Mae’r rhain ar gael yn uniongyrchol o’r canolfannau dysgu neu gellir eu llwytho i lawr o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Nid yw'n ofynnol i fyfyrwyr sy'n dychwelyd gyflwyno cais papur. Yn lle hynny, mae eu Cytundeb LCA 2023/24 neu Gytundeb GDLlC (AB) wedi’i lofnodi yn gweithredu fel eu cais i ailymgeisio am gymorth am flwyddyn arall. Bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru wedi ysgrifennu at fyfyrwyr sy’n dychwelyd yn ystod y Gwanwyn i roi gwybod iddynt am y camau nesaf i’w dilyn ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024.

 

Taliadau wedi'u hôl-ddyddio ar gyfer LCA

Rydym wedi cael adborth cadarnhaol ar fesurau a gyflwynwyd mewn ymateb i reoli COVID-19, mae hyn wedi arwain at rai gwelliannau. Mae’r rhain yn cynnwys ymestyn y cyfnod ymgeisio i fod yn gymwys ar gyfer taliadau LCA wedi’u hôl-ddyddio o 8 wythnos i 13 wythnos a gweithredu llofnodi electronig ar gyfer Cytundebau LCA a GDLlC (AB). 

Bydd y gwelliannau hyn nawr yn dod yn nodweddion safonol o'r cynlluniau. Felly, disgwyliwn i ganolfannau dysgu ddiweddaru a chynnal eu harweiniad a'u polisïau eu hunain.

 

Gwefan Gwasanaethau y Ganolfan Ddysgu

Cofiwch y gallwch ddod o hyd i'n holl ddogfennau canllaw ar gyfer LCA ar wefan Gwasanaethau y Ganolfan Ddysgu.

Gallwch ddod o hyd i Gytundebau Dysgu blwyddyn academaidd 2023/24 a chanllawiau gwybodaeth am daliadau ar borth y Ganolfan Ddysgu o dan yr adran lawrlwythiadau.


Argraffu