Digwyddiadau i ddod


Fforymau Adolygu Gwasanaeth LCA/GDLlC AB 2025 - archebwch eich lle nawr!

Mae cofrestru bellach ar gael ar gyfer Fforymau Adolygu Gwasanaethau LCA a GDLlC AB.

Mae hwn yn gyfle i weinyddwyr canolfannau dysgu drafod gofynion LCA a GDLlC AB mewn grwpiau bach.

Eleni, byddwn yn cynnal amserlen gymysg o fforymau rhithwir ac wyneb yn wyneb.

Yn ystod y fforwm byddwn yn rhoi diweddariad i chi ar ystadegau ceisiadau blwyddyn academaidd 2024/25 ac yn adolygu cyfleoedd ar gyfer arfer gorau yn unol â’n safonau gwasanaeth. Byddwch hefyd yn cael cyfle i rannu adborth ar bob maes o'r ganolfan ddysgu a phartneriaeth SLC ac i gael a rhannu mewnwelediad sector.

Pwy ddylai fynychu?

Bydd y fforymau o fudd i staff a rheolwyr y canolfannau dysgu sy'n gweinyddu'r LCA neu GDLlC AB. Bydd yn hefyd o fudd i'r rhai sy'n gweithio gyda systemau SLC neu mewn rolau sy'n wynebu myfyrwyr.

Mae'r fforymau'n cynnig cyfle hyfforddi a rhannu gwybodaeth, gan gyfrannu at eich datblygiad personol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i siarad â Rheolwyr Cyfrifon AB a rhannu arfer gorau gyda darparwyr eraill.

Y cyfyngiad ar bresenoldeb yw 2 gynrychiolydd i bob canolfan ddysgu, fel y gall cymaint o gynrychiolwyr o wahanol ganolfannau dysgu fynychu.

Dyddiadau a Lleoliadau

Byddwn yn cynnal fforymau wyneb yn wyneb a rhithwir.

Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly cofrestrwch cyn gynted â phosibl i sicrhau eich lle.

Fforymau wyneb yn wyneb

  • 1 Ebrill – Caerdydd – Gwesty Clayton, Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1GD
  • 2 Ebrill – Abertawe – Coleg Gŵyr Abertawe, Heol Tycoch, Sgeti, Abertawe SA2 9EB
  • 3 Ebrill – Cyffordd Llandudno – Swyddfa Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno LL31 9RZ

Cynhelir yr holl fforymau wyneb yn wyneb yn y bore gyda chofrestru a chroeso o 9am tan 9:30am, y prif fforwm o 9:30am i 12:00pm, a chinio tra’n gweithio o 12:00pm tan 12:30pm. Byddwn yn darparu te a choffi a chinio ysgafn.

Fforymau rhithwir

  • 8 Ebrill – Microsoft Teams
  • 9 Ebrill – Microsoft Teams
  • 10 Ebrill – Microsoft Teams

Cynhelir yr holl fforymau rhithwir rhwng 9:30am a 11:30am.

Agenda

Bydd pob fforwm yn dechrau gyda chofrestru a chroeso rhwng 9am a 9:30am a byddant yn cael eu rhannu'n ddwy ran, gydag egwyl rhyngddynt.

Ym mhob fforwm, byddwn yn trafod y pynciau canlynol:

Rhan 1:

  • dweud eich dweud
  • ymholiadau cyffredin
  • Taith gwefan Gwasanaethau y Ganolfan Ddysgu
  • Gwelliannau i Borth y Ganolfan Ddysgu
  • cais ar-lein

Rhan 2:

  • ymgeisio a hyrwyddo
  • dysgu ffeithiau am gytundebau dysgu
  • safonau gwasanaeth
  • diweddariad gwasanaeth
  • unrhyw fusnes arall

Yna bydd fforymau wyneb yn wyneb yn cloi gyda chinio tra’n gweithio.

Sut i gofrestru

Byddwn yn cadw lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin gyda uchafswm o 2 gynrychiolydd fesul canolfan ddysgu. Ni chodir tâl am fynychu fforwm adolygu gwasanaeth.

I archebu lle, e-bostiwch y wybodaeth ganlynol:

  • Dyddiad a lleoliad y fforwm:
  • Enw cynrychiolydd:
  • Enw’r ganolfan ddysgu:
  • Cyfeiriad E-bost:
  • Rhif ffôn cyswllt:
  • Gofynion dietegol (os yn y fforymau wyneb yn wyneb):

i emainfo@slc.co.uk


Argraffu