Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 22 Chwef 2023
Presenoldeb
Salwch
Gallwch gyfrif cyfnodau unigol o salwch fel absenoldeb awdurdodedig os ydych yn argyhoeddedig bod y salwch yn ddilys. Sicrhewch fod y myfyrwyr yn darparu tystiolaeth briodol. Mae gennych hawl i wrthod cais am awdurdodiad os ydych yn amau nad oedd y rheswm yn ddilys.
Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio gweithdrefnau presennol eich Canolfan Ddysgu ar gyfer absenoldebau salwch at ddibenion GDLlC AB. Mae hyn yn unol â'r rheol gyffredinol ar gyfer absenoldebau awdurdodedig. Er enghraifft, efallai y bydd myfyriwr yn hunanardystio absenoldeb am hyd at 5 diwrnod, ond yn ôl eich disgresiwn chi yw faint o ardystiadau 5 diwrnod yr ydych yn eu derbyn. Y tu hwnt i'r cyfnod hwn, rhaid i'r myfyriwr gyflwyno tystiolaeth megis tystysgrif feddygol.
Gall y GDLlC AB helpu gyda chostau mynychu ysgol neu goleg. Am y rheswm hwn, nid yw salwch hirdymor yn rheswm derbyniol dros awdurdodi absenoldebau.
Rhaid i chi adolygu unrhyw absenoldeb meddygol o 3 wythnos neu fwy a phenderfynu a ddylid ei gategoreiddio fel salwch tymor hir.
Dylech wneud eich meini prawf ar gyfer awdurdodi absenoldebau yn glir ac yn gyson. Mae'n helpu i sicrhau bod pob myfyriwr yn gwybod beth yw'r meini prawf a sut y cânt eu cymhwyso.
Argraffwch y bennod hon