Home LCS Welsh /
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach /
Canllawiau /
Nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer Canolfannau Dysgu GDLlC AB /
Presenoldeb /
Absenoldeb awdurdodedig
Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 22 Chwef 2023
Presenoldeb
Absenoldeb awdurdodedig
Gallai’r enghreifftiau canlynol fod yn rhesymau derbyniol dros awdurdodi absenoldebau:
- ymweliad â diwrnod agored prifysgol neu gyfweliad yn ymwneud â gyrfa
- lleoliad gwaith, sy’n rhan annatod o gwrs y myfyriwr ac nad yw’r myfyriwr yn cael tâl amdano
- mynychu angladd, priodas neu seremoni sifil aelod agos o'r teulu
- mynychu cyfarfod gwasanaeth prawf
- tarfu’n ddifrifol ar ddull teithio myfyriwr sy’n gadael y myfyriwr heb unrhyw ddull o deithio i’r ysgol neu’r coleg
- gwers yrru (ddim yn ystod dosbarthiadau a addysgir)
- prawf gyrru
- argyfwng teuluol, megis yr angen i ofalu am aelod o’r teulu – gall hyn fod yn bwysig i fyfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu, fel gofalwyr sy'n ifanc ac yn oedolion ifanc
- gweithgareddau allgyrsiol sy'n cynrychioli cyflawniad personol arwyddocaol, megis cymryd rhan mewn chwaraeon ar lefel genedlaethol neu sirol neu waith gwirfoddol
- apwyntiadau meddygol na ellid eu gwneud y tu allan i oriau ysgol neu goleg
- ar gyfer gofalwyr sy'n ifanc neu’n oedolion ifanc, mynychu apwyntiadau meddygol ar gyfer y sawl y maent yn gofalu amdano
- teithiau allgyrsiol a drefnir ac a awdurdodir gan y Ganolfan Ddysgu yn ystod y tymor, er enghraifft teithiau sgïo a diwrnodau allan
- oedi neu ganslo trafnidiaeth gyhoeddus
- mynychu apwyntiadau gweld llety neu dai pan nad yw hyn ar gael y tu allan i oriau ysgol
- llofnodi cytundebau a chontractau llety neu dai pan fo angen gwneud hynny yn ystod oriau ysgol
Enghraifft yw'r rhestr hon ac nid yw'n hollgynhwysfawr. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, holwch ein Desg Gymorth Partneriaid.
Dylech asesu pob absenoldeb yn ôl ei rinweddau ei hun. Er enghraifft, efallai y byddwch yn ystyried y cwestiynau canlynol:
- Oedd yr absenoldeb yn rhesymol?
- A gafodd ei ategu gan dystiolaeth ddilys?
- A yw'r myfyriwr wedi cael llawer o absenoldebau cyn yr un hwn?
- A yw'r myfyriwr wedi defnyddio'r un rheswm o'r blaen?
- A yw’r myfyriwr wedi dweud wrthych ymlaen llaw, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol?
Mae’n bosibl y bydd gan rai myfyrwyr, er enghraifft gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc neu fyfyrwyr ag anableddau, amgylchiadau arbennig a allai effeithio’n anochel ar eu presenoldeb. Dylech ystyried yr holl amgylchiadau pan fyddwch yn penderfynu a yw absenoldeb wedi'i awdurdodi neu heb ei awdurdodi.
Argraffwch y bennod hon