Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 22 Chwef 2023
Cytundebau Dysgu GDLlC AB
Beth yw Cytundebau Dysgu GDLlC AB?
Mae Cytundebau Dysgu GDLlC AB yn ffordd glir a chryno o nodi beth sydd angen i fyfyrwyr ei wneud i dderbyn eu taliadau tymhorol. Maent yn cwmpasu telerau presenoldeb y myfyrwyr.
Rhaid i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd lofnodi Cytundeb Dysgu GDLlC AB. Ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd, eu llofnod Cytundeb Dysgu GDLlC AB yw eu cais ffurfiol i'r cynllun GDLlC AB. Am y rheswm hwn, rhaid i chi ddefnyddio'r templed Cytundeb Dysgu GDLlC AB gorfodol, a gyhoeddwyd gan Gyllid Myfyrwyr Cymru, ar gyfer myfyrwyr newydd a myfyrwyr GDLlC AB sy'n dychwelyd. Gallwch ddod o hyd i hwn ar Borth y Ganolfan Ddysgu.
Gellir llofnodi cytundebau dysgu yn bersonol ar ffurflen bapur. Gallwch hefyd e-bostio'r cytundebau i'ch myfyrwyr os yw cyfarfod yn bersonol yn anodd. Dylech ofyn am e-bost gan y myfyriwr fel cadarnhad ei fod yn cytuno i'w delerau GDLlC AB. Storiwch yr e-byst hyn mewn ffeil electronig at ddibenion archwilio.
Mae'n rhaid i chi a'r myfyriwr lofnodi a chadw copi o Gytundeb Dysgu GDLlC AB. Rhaid i chi gadw copïau o holl gofnodion GDLlC AB am 7 mlynedd at ddibenion archwilio.
Mae templed Cytundeb Dysgu GDLlC AB yn cynnwys cwestiwn i nodi dewis iaith y myfyriwr (Cymraeg neu Saesneg). Dylech ddethol y dewis iaith cywir ar Borth y Ganolfan Ddysgu pan fyddwch yn cadarnhau bod y myfyriwr wedi llofnodi'r cytundeb.
Argraffwch y bennod hon