Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 22 Chwef 2023
Cymhwysedd
Cyrsiau cymwys
I dderbyn GDLlC AB, rhaid i fyfyrwyr fod yn astudio cwrs dynodedig. Rhaid i'r cwrs gael ei ddarparu gan neu mewn ysgol neu goleg cydnabyddedig.
Yr ysgol neu’r coleg sy’n gyfrifol am gadarnhau bod cwrs y myfyriwr yn ddilys ar gyfer cyllid GDLlC AB. Gallwch wneud hyn trwy Borth y Ganolfan Ddysgu, fel rhan o’r broses i gadarnhau Cytundeb Dysgu GDLlC AB y myfyriwr.
Oriau cyswllt
Rhaid i bob myfyriwr ddilyn neu fwriadu dilyn cwrs dynodedig sydd ag o leiaf 275 o oriau cyswllt. At ddibenion GDLlC, rhaid i gyrsiau dynodedig AB cymwys fod â:
- 500 neu fwy o oriau cyswllt os ydynt yn llawn amser
- 275 i 499 o oriau cyswllt os ydynt yn rhan amser
Mae cynllun GDLlC AB yn gadael rhywfaint o le i ddehongli oriau cyswllt. Dyma’r amser pan fydd myfyriwr cymwys yn cael ei addysgu neu ei oruchwylio yn ystod cyfnodau astudio neu ymarfer.
Yn gyffredinol, dylai hyn gynnwys unrhyw amser pan fo aelod o staff y Ganolfan Ddysgu yn bresennol i roi arweiniad penodol tuag at y gweithgaredd dysgu. Gall hefyd fod yn aelod o staff sefydliad sydd wedi'i is-gontractio.
Gall oriau cyswllt gynnwys darlithoedd, tiwtorialau ac astudio dan oruchwyliaeth yn y gweithle. Gallant hefyd gynnwys amser cyswllt gyda staff sy'n asesu cyflawniadau'r myfyriwr, er enghraifft, asesu cymhwysedd.
Mae’n rhaid i chi sicrhau bod nifer yr oriau cyswllt sydd gan y cwrs yn bodloni’r gofynion ar gyfer cymorth GDLlC AB. Rhaid i chi hefyd sicrhau y gallwch gofnodi presenoldeb at ddibenion gweinyddu ac archwilio.
Math o gwrs
Mae meini prawf cwrs cymwys wedi'u nodi yng nghynllun GDLlC AB. Rhaid i gwrs dynodedig cymwys:
- gael ei ariannu’n gyhoeddus
- ofyn am bresenoldeb gyda darparwr addysg cydnabyddedig
Rhaid i gyrsiau fod yn gymwysterau cydnabyddedig hyd at a chan gynnwys Cymwysterau Cenedlaethol lefel 3.
Gofyniad pwysig yw bod yn rhaid i'r cwrs ddangos rhywfaint o gynnydd ar gyfer y myfyriwr o'r dechrau i'r diwedd. Cynhwysir cyrsiau academaidd a galwedigaethol.
Dim ond cyrsiau addysg bellach sy'n ddilys ar gyfer GDLlC AB. Nid yw cyrsiau addysg uwch (lefel 4 ac uwch) yn gymwys.
Mathau o gyrsiau cymwys
Lefel Mynediad:
- paratoi ar gyfer cymwysterau lefel 1
- Ymgysylltiad Hyfforddeiaeth
Lefel sylfaen 1:
- BTEC lefel 1
- NVQ lefel 1
- Hyfforddeiaeth lefel 1
- City & Guilds lefel 1
- VRQ lefel 1
Lefel ganolradd 2:
- BTEC lefel 2
- NVQ lefel 2
- TGAU
- City & Guilds lefel 2
- VRQ lefel 2
Lefel uwch 3:
- Safon Uwch
- Mynediad at Addysg Uwch
- BTEC lefel 3
- NVQ lefel 3
- VRQ lefel 2
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gymwysterau a sut i brosesu'r rhain yng nghanllaw defnyddwyr Porth y Ganolfan Ddysgu.
Os nad ydych yn siŵr a yw cwrs yn ddilys ai peidio, dylech anfon e-bost at Lywodraeth Cymru yn isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru.
Cyrsiau cymwys – rhaglenni Sgiliau Byw'n Annibynnol
Ar gyfer y cynllun GDLlC (AB), rhaid i fyfyrwyr cymwys fod yn cyflawni cwrs addysg bellach hyd at lefel 3. Mae hyn gyfwerth â Safon Uwch neu NVQ lefel 3, sy'n arwain at gymhwyster a gyhoeddir gorff dyfarnu cydnabyddedig.
O flwyddyn academaidd 2019/20, estynnodd Llywodraeth Cymru gymorth i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau ar raglenni Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) sy’n cynnwys darpariaeth heb ei hachredu.
Mae pob Canolfan Ddysgu sy'n cynnig rhaglenni ILS yn gyfrifol am bennu addasrwydd y myfyrwyr.
Mae rhaglenni ILS yn dilyn amserlen gadarn o brosesau ar gyfer:
- asesiadau cychwynnol myfyrwyr
- gosod targedau
- monitro cyflawniad yn erbyn targed
Mae’r prosesau hyn a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn cyd-fynd â chytundebau GDLlC AB cyfredol.
Datblygwyd y cwricwlwm diwygiedig mewn ymateb i argymhellion a nodwyd yn Adroddiad Thematig diweddar Estyn. Mae pob rhaglen newydd wedi'i chynllunio i ddarparu dull ymarferol o ennill a chyfnerthu sgiliau, i baratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd fel oedolion.
O dan y cwricwlwm newydd, mae myfyrwyr ILS yn dilyn rhaglenni unigol wedi’u teilwra sy’n datblygu eu sgiliau ar draws 4 piler dysgu:
- iechyd a lles
- cyflogadwyedd
- byw’n annibynnol
- cynhwysiant cymunedol
I gefnogi’r datblygiad newydd hwn, mae myfyrwyr ag anawsterau dysgu sy’n cychwyn ar raglen ILS yn gymwys i gael cymorth GDLlC AB o flwyddyn academaidd 2019/20. Mae hyn yn amodol ar fodloni'r holl feini prawf cymhwysedd eraill. Mae'r rhain yn cynnwys cymhwyster personol, trothwyon incwm a gofynion preswylio.
Mae'r rhaglen heb ei hachredu. Mae'n arwain at gyflawni rhaglen ddysgu bersonol a ariennir gan Lywodraeth Cymru o dan Paratoi ar gyfer Bywyd a Gwaith.
Astudiaeth gysylltiedig â gwaith
Nid yw myfyrwyr sy'n mynychu ysgol neu goleg fel rhan o brentisiaeth neu astudiaeth gysylltiedig â gwaith yn gymwys i gael GDLlC AB.
Os yw lleoliad gwaith gorfodol yn rhan o gwrs y myfyriwr, bydd hyn yn cyfrif tuag at yr oriau cyswllt cyffredinol ar gyfer GDLlC AB.
Os yw lleoliadau yn elfen orfodol o gwrs, mae’n bwysig nad oes cyllid dwbl. Gallai hyn ddigwydd os yw myfyrwyr yn cael lwfans dysgu seiliedig ar waith (DSW).
Dysgu o Bell
Nid oes gan reolau cynllun GDLlC ddarpariaethau ar gyfer dysgu o bell. Gallwn ddyfarnu taliadau dewisol i fyfyrwyr na allant fynychu sesiynau dysgu personol mewn canolfan ddysgu oherwydd anabledd. Rhaid nodi hyn yn eu cytundeb dysgu.
Argraffwch y bennod hon