Home LCS Welsh /
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach /
Canllawiau /
Canllawiau cyflym /
Canllawiau cyflym i’ch helpu i reoli’r Cynllun GDLlC AB /
Newidiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25
Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 16 Chwef 2023
Canllawiau cyflym i’ch helpu i reoli’r Cynllun GDLlC AB
Newidiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25
Bu newidiadau i rai categorïau cymhwyster preswylio o flwyddyn academaidd 2024/25.
Aelodau o deulu Gwladolion Wcráin
O flwyddyn academaidd 2024/25, bydd aelodau teulu deiliaid caniatâd Cynllun Wcráin yn gymwys i wneud cais am gymorth AB.
Aelodau teulu Dinasyddion Afghanistan
O flwyddyn academaidd 2024/25, bydd aelodau teulu’r rhai a gafodd ganiatâd o dan yr ARAP (Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid) neu ACRS (Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan) yn gymwys i wneud cais am gymorth AB heb unrhyw ofyniad iddynt fod wedi cael caniatâd oherwydd llinach.
Parhad cymorth i fyfyrwyr pan fydd caniatâd wedi dod i ben:
- Cynllun yr Wcráin yn dod i ben - Byddwn yn gwneud newidiadau i’n canllawiau i’w gwneud yn glir y gall pobl sydd â chaniatâd Cynllun yr Wcrain barhau i gael cymorth unwaith y daw’r caniatâd gwreiddiol i ben, os oes ganddynt statws mewnfudo cyfreithlon newydd yn y Deyrnas Unedig.
- Dinasyddiaeth Brydeinig/Wyddelig - Byddwn yn gwneud newidiadau i sicrhau nad yw myfyrwyr sy’n caffael dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig yn ystod eu hastudiaethau, yn lle gwneud cais am ganiatâd pellach i aros, yn cael eu heffeithio gan y ddarpariaeth terfynu.
Argraffwch y bennod hon