Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 16 Chwef 2023
Canllawiau cyflym i’ch helpu i reoli’r Cynllun GDLlC AB
Canllaw cyflym dileu ac adfer ceisiadau
Dileu cais myfyriwr unigol
Os ydych yn gwybod nad yw myfyriwr yn dychwelyd i'ch Canolfan Ddysgu, dylech ei dynnu oddi ar Borth y Ganolfan Ddysgu.
Yn gyntaf, gwiriwch nad yw'r myfyriwr wedi llofnodi Cytundeb Dysgu GDLlC AB. Os yw wedi llofnodi'r cytundeb, rhaid i chi dynnu’r cytundeb yn ôl yn hytrach na dileu'r myfyriwr.
- Ewch i ardal Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) Porth y Ganolfan Ddysgu.
- Dewiswch y tab View Application Details (Gweld manylion cais).
- Cynhaliwch chwiliad i ddod o hyd i gofnod y myfyriwr perthnasol.
- Dewiswch y botwm Remove (Dileu). Bydd hyn yn agor ffenestr naid yn gofyn a ydych chi am gael gwared ar y cais.
- Dewiswch Yes (Iawn). Bydd hyn yn dileu'r myfyriwr ac ni fydd yn ymddangos ar eich Rhestr Waith Ceisiadau mwyach.
Dileu mwy nag un cais myfyriwr ar unwaith
Ar ddechrau blwyddyn academaidd, efallai y bydd gennych nifer o fyfyrwyr nad ydynt bellach yn eich Canolfan Ddysgu. Unwaith y byddwch yn gwybod nad ydynt yn dychwelyd, dylech ddilyn y camau hyn i'w tynnu oddi ar Borth y Ganolfan Ddysgu.
Gwiriwch nad oes unrhyw un o'r myfyrwyr wedi llofnodi Cytundeb Dysgu GDLlC AB. Os yw wedi llofnodi'r cytundeb, rhaid i chi dynnu’r cytundeb yn ôl yn hytrach na dileu'r myfyriwr.
- Ewch i ardal Worklists (Rhestrau Gwaith) Porth y Ganolfan Ddysgu.
- Dewiswch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau).
- Agorwch y gwymplen Application Status (Statws Cais) a dewiswch Application Status (Wedi'i Gymeradwyo).
- Dewiswch Search (Chwilio). Bydd hyn yn codi unrhyw fyfyrwyr nad ydynt wedi llofnodi eu Cytundeb Dysgu GDLlC AB eto.
- Ticiwch y blwch ticio Remove (Dileu) ar gyfer pob myfyriwr rydych chi am ei ddileu.
- Dewiswch y botwm Remove (Dileu). Bydd hyn yn agor naidlen gryno sy'n rhestru'r holl fyfyrwyr rydych chi wedi dewis eu dileu.
- Gwiriwch fod y crynodeb yn gywir, yna dewiswch Confirm (Cadarnhau). Bydd hyn yn dileu'r myfyrwyr ac ni fydd yn ymddangos ar eich Rhestr Waith Ceisiadau mwyach.
Adfer cais myfyriwr
Weithiau efallai y bydd angen i chi adfer cais myfyriwr rydych chi wedi'i ddileu’n flaenorol. Dilynwch y camau hyn i'w wneud ar Borth y Ganolfan Ddysgu.
- Ewch i ardal Worklists (Rhestrau Gwaith) Porth y Ganolfan Ddysgu.
- Dewiswch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau).
- Agorwch y gwymplen Application Status (Statws Cais) a dewiswch Removed (Wedi'i Ddileu).
- Dewiswch Search (Chwilio). Bydd hyn yn codi unrhyw fyfyrwyr sydd wedi eu dileu.
- Dewiswch gyfenw'r myfyriwr yr ydych am adfer ei gais. Bydd hyn yn mynd â chi at fanylion ei gais.
- Dewiswch y botwm Restore (Adfer). Bydd hyn yn agor ffenestr naid yn gofyn a ydych chi am adfer y cais.
- Dewiswch Yes (Iawn). Bydd hyn yn rhoi'r myfyriwr yn ôl ar eich Rhestr Waith Ceisiadau er mwyn i chi allu diweddaru ei Gytundeb Dysgu GDLlC AB.
Argraffwch y bennod hon