Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Rhestrau gwaith
Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau)
I weld pob cais, ewch i Worklists (Rhestrau Gwaith), agorwch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau) a dewiswch Search (Chwilio).
Gallwch hefyd ddefnyddio'r meini prawf chwilio canlynol i gyfyngu'r canlyniadau:
- cyfeirnod cwsmer
- enw cyntaf ac olaf
- dyddiad geni
- grwpiau
- statws cais
- dyddiau ers cymeradwyo
Dewiswch gyfenw myfyriwr i fynd at ei gofnod lle gallwch chi:
- ddiweddaru ei Gytundeb Dysgu GDLlC AB
- dynnu'n ôl, atal neu ailasesu'r myfyriwr
- gadarnhau presenoldeb y myfyriwr
Gallwch hefyd dynnu myfyrwyr lluosog yn syth o'r Rhestr Waith Ceisiadau. I wneud hyn, dewiswch y blwch ticio Remove (Dileu) ar gyfer y myfyrwyr perthnasol, yna dewiswch Save (Cadw).
Days since approval (Dyddiau ers cymeradwyo)
Gallwch ddefnyddio'r opsiwn Days since approval (Dyddiau ers cymeradwyo) i gyfrifo pryd y bydd y cyfnod o 10 diwrnod gwaith i lofnodi Cytundeb Dysgu GDLlC AB yn dechrau.
Mae gan fyfyrwyr 10 diwrnod gwaith i lofnodi eu cytundeb. Rydym yn dechrau cyfrif hyn o'r diwrnod y caiff eu cais ei gymeradwyo neu'r diwrnod y bydd blwyddyn academaidd GDLlC AB yn dechrau, p'un bynnag sydd hwyraf. Byddwn yn dweud wrthych beth yw dyddiad dechrau blwyddyn academaidd GDLlC AB, fel arfer ym mis Awst, cyn i'r flwyddyn academaidd ddechrau. Rydym hefyd wedi ychwanegu’r opsiwn Days since approval (Dyddiau ers cymeradwyo) i’r porth i’ch helpu i gyrraedd y safon gwasanaeth 10 diwrnod.
Mae nifer y dyddiau yn y canlyniadau chwilio hefyd yn hyperddolen. Bydd dewis hwn yn mynd â chi’n syth at Gytundeb Dysgu GDLlC AB y myfyriwr.
Auto Rollover (Treiglo Awtomatig)
Mae'r dangosydd Auto Rollover (Treigl Awtomatig) yn dangos pan fydd myfyriwr sy’n dychwelyd cymwys wedi'i drosglwyddo'n awtomatig i'r flwyddyn academaidd newydd.
Byddwn yn trosglwyddo unrhyw fyfyrwyr cymwys sy'n dychwelyd yn awtomatig, ond gallwch ddileu ac adfer ceisiadau yn ôl yr angen.
Argraffwch y bennod hon