Home LCS Welsh /
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach /
Canllawiau /
Canllaw defnyddiwr Porth y Ganolfan Ddysgu /
Hafan /
Reports (Adroddiadau)
Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Hafan
Reports (Adroddiadau)
Yn yr adran hon o Borth y Ganolfan Ddysgu, gallwch redeg adroddiadau ar gyfer eich Canolfan Ddysgu.
- Ewch i dudalen Home (Hafan) y porth a dewiswch Reports (Adroddiadau).
- Agorwch y gwymplen Category (Categori) a dewiswch gategori'r adroddiad.
- Agorwch y gwymplen Title (Teitl) a dewiswch yr adroddiad sydd ei angen arnoch chi. Bydd hyperddolen i'r adroddiad yn ymddangos o dan y cwymplenni.
- Dewiswch yr hyperddolen i lawrlwytho'r adroddiad.
Adroddiadau safon gwasanaeth
Gallwch ddefnyddio adroddiadau safon gwasanaeth i weld sut mae eich Canolfan Ddysgu yn perfformio yn ystod y flwyddyn.
Gallwch hefyd olrhain eich perfformiad dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a gwirio sut rydych chi'n dod ymlaen o'i gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol.
- Ewch i dudalen Home (Hafan) y porth a dewiswch Reports (Adroddiadau).
- Agorwch y gwymplen Category (Categori) a dewiswch Service Standard Reports (Adroddiadau Safon Gwasanaeth).
- Agorwch y gwymplen Title (Teitl) a dewiswch yr adroddiad sydd ei angen arnoch chi. Bydd hyperddolen i'r adroddiad yn ymddangos o dan y cwymplenni.
- Dewiswch yr hyperddolen i lawrlwytho'r adroddiad.
Argraffwch y bennod hon