Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Chwiliad Cwsmeriaid
Tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs)
Yn y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs) rydych chi’n diweddaru Cytundeb Dysgu GDLlC AB y myfyriwr ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.
Rhaid i chi nodi gwybodaeth am y cwrs y mae'r myfyriwr arno. Rhaid i’r manylion gynnwys:
- dyddiad cychwyn y cwrs
- dyddiad gorffen y cwrs
- hyd y cwrs
- blwyddyn astudio
- pwnc
- cymhwyster
- proffil astudio
- oriau cyswllt
- os yw'r myfyriwr yn symud ymlaen
- os yw'r cwrs wedi'i ddynodi
- os yw'r myfyriwr yn cael lwfans hyfforddi
- amgylchiadau esgusodol
- caniatâd i rannu
Unwaith y byddwch wedi llenwi’r holl wybodaeth hon, gallwn adolygu cais y myfyriwr.
Gallwch hefyd ddefnyddio'r tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion Cwrs) i ailasesu, atal, adfer a thynnu Cytundebau Dysgu GDLlC AB yn ôl. Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r opsiynau hyn ym mhenodau dilynol y canllaw hwn.
Amgylchiadau esgusodol
Gall myfyrwyr amlygu eu bod yn profi amgylchiadau esgusodol ar eu Cytundeb Dysgu GDLlC AB.
Gallwch ddewis y botwm radio Extenuating Circumstances (Amgylchiadau esgusodol) i gofnodi hyn ar y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs).
Cofnodi dewis iaith y myfyriwr
Gall pob myfyriwr ddewis Cymraeg neu Saesneg fel eu dewis iaith ar y ffurflen gais. Bydd y Ffurflen Cytundeb Dysgu GDLlC AB hefyd yn gofyn yr un cwestiwn.
Pan fydd y myfyriwr yn cadarnhau ei ddewis iaith, bydd angen i chi gofnodi hyn ar y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs), ynghyd â'r wybodaeth arall yn ei Gytundeb Dysgu GDLlC AB.
Argraffwch y bennod hon