Home LCS Welsh /
Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach /
Canllawiau /
Canllaw defnyddiwr Porth y Ganolfan Ddysgu /
Chwiliad Cwsmeriaid /
Ailasesu Cytundeb Dysgu GDLlC AB
Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Chwiliad Cwsmeriaid
Ailasesu Cytundeb Dysgu GDLlC AB
Gallwch ddefnyddio’r opsiwn ailasesu i ddiweddaru cofnod myfyriwr os bydd yn newid ei fanylion academaidd. Er enghraifft, gallai hyn fod yn newid cwrs neu oriau cyswllt.
Gall newid manylion academaidd gael effaith ddifrifol ar gymhwysedd a hawl myfyriwr i GDLlC AB. Er enghraifft, efallai na fydd ganddynt hawl mwyach i dderbyn cymorth GDLlC AB.
Rhaid i chi ond ailasesu myfyriwr os ydych yn sicr bod y newidiadau i'w manylion academaidd yn barhaol. Rhaid i'r newidiadau hefyd gael eu hawdurdodi'n llawn gan yr aelodau staff perthnasol yn eich ysgol neu goleg.
- Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu a dewiswch Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid).
- Cynhaliwch chwiliad i ddod â chofnod y myfyriwr i fyny.
- Agorwch y tab Maintain Course Details (Cynnal Manylion y Cwrs).
- Dewiswch Reassess (Ailasesu). Mae hyn yn agor ffenestr newydd.
- Rhowch set newydd o fanylion cwrs ar gyfer y myfyriwr.
- Unwaith y byddwch wedi nodi'r holl fanylion, dewiswch Save (Cadw).
Argraffwch y bennod hon