Mae Porth y Ganolfan Ddysgu a’r gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer LCA bellach ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Diweddarwyd Diwethaf: 03 Medi 2024

Bydd Porth y Ganolfan Ddysgu a gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer LCA nawr ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Byddwn mewn cysylltiad yn fuan i roi gwybod i chi pryd y bydd gwasanaeth GDLlC AB, gan gynnwys ceisiadau ar-lein, ar gael.

Anogwch eich myfyrwyr i wneud cais ar-lein lle bo modd. Dylai hyn wneud y daith ymgeisio yn haws ac arwain at gadarnhad cyflymach o ddyfarniad i'r myfyriwr. 

Er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth LCA ar-lein ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, rydym wedi darparu posteri ‘Ymgeisiwch Nawr’ i chi eu harddangos mewn mannau lle bydd myfyrwyr yn eu gweld. Mae'r rhain yn cynnwys cod QR, sy'n ei gwneud hi'n gyflymach ac yn haws i fyfyrwyr wneud cais. Gallwch eu lawrlwytho a'u hargraffu o wefan Gwasanaethau LC.

Gall eich myfyrwyr hefyd lawrlwytho ffurflenni cais a chanllawiau LCA o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Dyddiad dechrau blwyddyn academaidd y LCA a GDLlC AB fydd dydd Llun 08 Medi 2025. Byddwn yn cyfrif y cyfnod o 10 diwrnod i fyfyrwyr lofnodi eu cytundebau dysgu o hynny ymlaen.

Mae ffurflenni cytundeb dysgu LCA a chanllawiau talu ar gael ar Borth y Ganolfan Ddysgu.