Bwletin LCA Cymru a GDLlC AB – Mehefin 2022
Diweddarwyd Diwethaf: 22 Meh 2022
Gwyliau’r haf
Bydd llawer ohonoch ar wyliau'r haf yn ystod yr wythnosau nesaf. Rydym yn agor Porth y Ganolfan Ddysgu yn gynnar ar gyfer ceisiadau yn yr wythnos yn dechrau 11 Gorffennaf. Gallwch gyflwyno presenoldeb LCA o ddydd Llun 11 Gorffennaf. Mae hyn yn golygu bod y dyraniadau yn eu lle cyn i chi gau ar gyfer y gwyliau.
Gwiriwch hefyd eich cofnodion gwyliau 2021/22 ar gyfer Gorffennaf ac Awst. Mae angen i chi nodi'r holl wythnosau pan fyddwch i ffwrdd yn ystod yr haf fel wythnosau gwyliau. Bydd hyn yn nodi bod pob myfyriwr ar wyliau yn awtomatig, sy'n golygu bod y porth yn gyfredol.
Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn gwirio adran wythnosau heb eu cadarnhau y porth. Bydd hyn yn gweinyddu unrhyw daliadau myfyrwyr sy'n ddyledus.
Rhowch eich gwybodaeth gwyliau LCA ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23
Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, rhowch wybodaeth gwyliau ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 ar Borth y Ganolfan Ddysgu.
Mae angen i chi gofnodi gwyliau, gan gynnwys gwyliau haf 2023, am y flwyddyn academaidd gyfan cyn iddi ddechrau ym mis Medi.
Rhaid i chi gofnodi o leiaf 8 wythnos o wyliau. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y 'rheol dau ddiwrnod' ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd a dychwelyd o wyliau yn cael ei hystyried wrth benderfynu pa wythnosau sy'n gymwys fel wythnosau ennill LCA.
Ni fyddwch yn gallu cadarnhau presenoldeb ym mlwyddyn academaidd 2022/23 nes i chi gofnodi eich gwyliau. Gallai hyn effeithio ar amserlen taliadau i fyfyrwyr.
Ceisiadau LCA a GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23
Anogwch unrhyw fyfyrwyr LCA a GDLlC AB newydd i:
- lenwi a llofnodi eu ffurflenni cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23
- ddychwelyd y ffurflenni wedi'u llofnodi i Gyllid Myfyrwyr Cymru cyn gynted ag y gallant
Gall myfyrwyr hefyd lawrlwytho'r ffurflenni cais a'r canllawiau o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Fforymau Adolygu Gwasanaethau LCA a GDLlC AB
Rydym wedi cwblhau ein hamserlen o fforymau adolygu gwasanaeth a oedd yn rhithwir ac wyneb yn wyneb. Bydd y sleidiau cyflwyniad ar gael yn yr adran Digwyddiadau ar y wefan hon yn fuan iawn.
Mynychodd dros 70 o Ganolfannau Dysgu y digwyddiadau. Trwy rannu profiadau a chyfrannu at y drafodaeth fe wnaethoch chi helpu creu y digwyddiadau gwerthfawr a llwyddiannus hyn. Diolch yn fawr.
Gwiriadau sampl LCA
Rydym wedi bod yn anfon llythyrau am wiriad sampl eleni i fyfyrwyr LCA sy'n dychwelyd o 1 Mehefin. Byddwn hefyd yn anfon nodiadau atgoffa atynt ym mis Gorffennaf ac Awst.
Rhaid i fyfyrwyr ddarparu'r dystiolaeth rydym wedi gofyn amdani erbyn 1 Medi. Fel arall, byddant yn cael neges i ddweud na fyddant yn derbyn unrhyw daliadau LCA nes bod gennym y wybodaeth sydd ei hangen arnom.
Gallwch weld pa rai o'ch myfyrwyr sy'n cael eu heffeithio trwy fewngofnodi i Borth y Ganolfan Ddysgu a gwirio'r adroddiad Gwiriad Sampl yn y tab Adroddiadau.