Bwletin LCA Cymru a GDLlC AB – Chwefror 2023
Diweddarwyd Diwethaf: 27 Chwef 2023
Mae bron yn amser i gofrestru – mae’r fforymau blynyddol ar gyfer LCA a GDLlC AB yn dychwelyd ar gyfer 2023!
Bydd cofrestru ar gael yn fuan iawn ar gyfer ein fforymau adolygu gwasanaeth.
Mae hwn yn gyfle i Ganolfannau Dysgu gymryd rhan mewn grwpiau bach i drafod gofynion gweinyddol y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a Grant Dysgu Addysg Bellach Llywodraeth Cymru (GDLlC AB). Eleni, byddwn yn cynnal amserlen gymysg o ddigwyddiadau rhithwir ac wyneb yn wyneb.
Mae digwyddiadau wyneb yn wyneb i gyd yn sesiynau boreol rhwng 9.30am a 12pm. Byddwn yn darparu te a choffi.
- 19 Ebrill – Canolfan Gynadledda Halliwell, Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin SA31 3EP
- 20 Ebrill – Coleg Gŵyr Abertawe, Heol Tycoch, Sgeti, Abertawe SA2 9EB
- 21 Ebrill – Gwesty Clayton, Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1GD
- 02 Mai – Swyddfa Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, LL31 9RZ
- 05 Mai – Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam LL11 2AW
Bydd digwyddiadau rhithwir yn cael eu cynnal ar Microsoft Teams:
- 02 Mai – sesiwn prynhawn o 1pm tan 3pm
- 03 Mai – sesiwn y bore o 9.30am tan 11.30am
- 04 Mai – sesiwn y bore o 9.30am tan 11.30am
- 04 Mai – sesiwn prynhawn o 1pm tan 3pm
Deunyddiau LCA a GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24
Eleni, byddwn yn dosbarthu’r Llyfr Bach LCA ddechrau mis Mawrth. Rydym yn bwriadu cadw cyn lleied â phosibl o gopïau papur, felly dim ond i golegau mwy y byddwn yn dosbarthu'r rhain i helpu gyda diwrnodau agored a digwyddiadau eraill.
Mae gan bob ysgol a choleg eisoes fynediad at ddeunyddiau 2023/24 ar ffurf PDF. Lawrlwythwch y rhain a'u rhannu gyda myfyrwyr, rhieni a gwarcheidwaid trwy e-bost neu unrhyw ddull arall sydd orau gennych:
- Deunyddiau LCA ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24
- Deunyddiau GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24
Negeseuon Atgoffa
Gyda'r cynnydd diweddar mewn costau byw, mae mor bwysig ag erioed bod myfyrwyr yn cael unrhyw arian sy'n ddyledus iddynt ar amser bob pythefnos.
Gwiriwch fod eich cyflwyniadau ar Borth y Ganolfan Ddysgu 100% yn gyfredol.
Wythnosau heb eu cadarnhau
Gwiriwch am unrhyw bresenoldeb nad yw wedi ei gadarnhau. I wneud hyn, ewch i Worklists (Rhestrau Gwaith) a dewiswch Attendance worklist (Rhestr waith Presenoldeb). Os bydd y dangosydd Unconfirmed weeks (Wythnosau heb eu cadarnhau) yn ymddangos, dewiswch ef i weld rhagor o fanylion.
Presenoldeb
Rhaid i chi gyflwyno cadarnhad wythnosol ar gyfer pob myfyriwr, p'un a yw'n bresennol ai peidio. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cadarnhad ar gyfer pob wythnos yw 5pm y dydd Mercher canlynol.
Gwyliau
Gwiriwch am wyliau’r Pasg sydd i ddod eich bod wedi nodi’r wythnosau canlynol fel gwyliau ar Borth y Ganolfan Ddysgu:
- pob wythnos pan mae eich Canolfan Ddysgu ar gau
- pob wythnos pan mae eich Canolfan Ddysgu ar agor am ddim ond un diwrnod
Bydd hyn yn nodi bod pob myfyriwr ar wyliau yn awtomatig, gan sicrhau bod y porth yn gyfredol.
Tab Maintain Profile (Cynnal Proffil) Porth y Ganolfan Ddysgu
Rydym yn defnyddio'r manylion cyswllt ar dab Maintain Profile (Cynnal Proffil) Porth y Ganolfan Ddysgu i anfon gwybodaeth bwysig am wasanaethau a diweddariadau rheolaidd atoch. Gwiriwch fod eich gwybodaeth yn gyfredol yno fel nad ydych yn colli unrhyw e-byst pwysig oddi wrthym.