Bwletin ar gyfer Mehefin 2026
Diweddarwyd Diwethaf: 30 Meh 2026
Gwybodaeth am wyliau ar gyfer blwyddyn academaidd (BA) 2026/27
Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, nodwch wybodaeth am wyliau ar gyfer BA 2026/27 ar Borth y LC.
Mae angen i chi nodi'r holl wythnosau y mae eich canolfan ddysgu ar wyliau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan cyn iddi ddechrau ym mis Medi. Mae hyn yn cynnwys gwyliau'r haf ar gyfer 2027.
Ni fyddwch yn gallu cadarnhau presenoldeb ar gyfer BA 2026/27 nes i chi nodi eich gwyliau. Gallai hyn effeithio ar amserlen taliadau i fyfyrwyr.
Mae yna ganllaw ar gofnodi gwyliau eich Canolfan Ddysgu ar wefan Gwasanaethau'r LC.
Gwiriadau sampl
Nodyn i’ch atgoffa na fyddwn bellach yn cynnal gwiriadau sampl incwm aelwydydd ar gyfer CA ym Mehefin na Gorffennaf. Bydd CThEF bellach yn cwblhau gwiriad incwm cartref awtomatig ar gyfer pob cais myfyriwr sy'n dychwelyd. Os bydd myfyrwyr yn pasio'r gwiriad, byddwn yn cymeradwyo eu cais. Os bydd myfyriwr yn methu'r gwiriad incwm cartref, byddwn yn gwrthod y cais. Ni fydd cais aflwyddiannus yn ymddangos ar y porth a byddwn yn hysbysu'r myfyriwr ein bod wedi gwrthod eu cais. Mae hwn yn newid newydd ar gyfer BA 2026/27. Byddai myfyrwyr wedi ymddangos fel 'tystiolaeth ar goll' ar y porth yn flaenorol.
Bydd y gwiriad sampl dibyniaeth ym mis Tachwedd yn parhau fel arfer ar gyfer LCA.
Cytundebau dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27
Anogwch fyfyrwyr sy'n derbyn LCA ac sy'n parhau â'u hastudiaethau gyda chi y flwyddyn academaidd nesaf lofnodi cytundeb dysgu newydd cyn iddynt orffen y tymor. Bydd hyn yn eich helpu yn ystod eich amser prysuraf ym mis Medi gan y byddant yn barod gennych i fewnbynnu i'r porth pan fyddant yn dychwelyd. Bydd hefyd yn eich helpu i gyflawni eich y safon gwasanaeth 10 diwrnod a sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu talu cyn gynted â phosibl ar ddechrau'r flwyddyn.
Tynnu myfyrwyr o'ch porth BA 2026/27
Tynnwch unrhyw fyfyrwyr na fyddant yn dychwelyd i ddysgu ym mlwyddyn academaidd 2026/27 o'r porth.
I dynnu myfyrwyr:
- Ewch i'r Rhestr Waith yna'r Rhestr Waith Ceisiadau o fewn y porth.
- Dewiswch 26/27 o gwymplen y flwyddyn academaidd.
- Dewiswch y blwch ticio Tynnu yn erbyn unrhyw fyfyrwyr na fyddant yn dychwelyd ym mis Medi.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis y gwmplen 26/27. Nid oes rhaid i chi dynnu unrhyw fyfyrwyr o borth 25/26 eleni.
Gallwch adfer myfyriwr rydych eisoes wedi'i dynnu, ond ni allwch adfer unrhyw fyfyrwyr yr ydym wedi'u tynnu. Os oes angen i chi adfer myfyriwr yr ydym wedi'i dynnu, cysylltwch â'r Ddesg Gymorth Partneriaid.
Mae canllawiau pellach ar dynnu myfyrwyr o'r porth ar wefan Gwasanaethau'r LC.
Gwiriadau diwedd blwyddyn academaidd GDLlC
Gan ein bod yn nesáu at ddiwedd y flwyddyn academaidd, mae'n bwysig bod presenoldeb pob myfyriwr yn gyfredol. Rydym wedi cysylltu ag unrhyw un sydd â phresenoldeb heb ei gwblhau. Os ydym wedi bod mewn cysylltiad, gwnewch yn siŵr bod presenoldeb eich myfyrwyr yn gyfredol cyn diwedd y flwyddyn academaidd.
Desg gymorth LCA a GDLlC AB
Mae tîm ein desg gymorth ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd am fyfyrwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a materion system. Gallwch gysylltu â'r desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 6 ar gyfer ymholiadau LCA, opsiwn 5 ar gyfer GDLlC AB) neu e-bostio emainfo@slc.co.uk.