Bwletin ar gyfer Mehefin 2025

Diweddarwyd Diwethaf: 24 Meh 2025

Gwybodaeth am wyliau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, nodwch wybodaeth am wyliau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 ar Borth y Ganolfan Ddysgu.

Mae angen i chi nodi'r holl wythnosau y mae eich canolfan ddysgu ar wyliau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan cyn iddi ddechrau ym mis Medi. Mae hyn yn cynnwys gwyliau'r haf ar gyfer 2026.

Ni fyddwch yn gallu cadarnhau presenoldeb ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 nes i chi nodi eich gwyliau. Gallai hyn effeithio ar amserlen taliadau i fyfyrwyr.

Fforymau adolygu gwasanaethau

Diolch i'r rhai a lwyddodd i fynychu ein fforymau adolygu gwasanaethau ar-lein ac wyneb yn wyneb. Gallwch weld sleidiau'r cyflwyniad a'r cwestiynau ac atebion o'r fforymau ar wefan Gwasanaethau'r Ganolfan Ddysgu.

Gwiriadau sampl

Ni fyddwn bellach yn cynnal y gwiriad sampl incwm cartref arferol ar gyfer LCA ym mis Mehefin neu fis Gorffennaf. Bydd CThEF bellach yn cwblhau gwiriad incwm cartref awtomatig ar gyfer pob cais myfyriwr sy'n dychwelyd.

Os bydd myfyrwyr yn pasio'r gwiriad, bydd eu cais yn cael ei gymeradwyo.

Os bydd myfyrwyr yn methu'r gwiriad, byddwn yn ysgrifennu atynt i'w hysbysu, a bydd statws eu cais yn dychwelyd i ‘Aros am Wybodaeth’.

Bydd y gwiriad sampl dibyniaeth ym mis Tachwedd yn parhau fel arfer ar gyfer LCA a GDLlC.

Ceisiadau LCA a GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Parhewch i annog unrhyw fyfyrwyr LCA a GDLlC AB newydd i wneud cais ar-lein ar gyfer y flwyddyn nesaf cyn gynted â phosibl.

Hyd yn hyn, mae 84% o'r ceisiadau a dderbyniwyd gennym ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 wedi bod ar-lein ac mae'r rhan fwyaf eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth.

Gall myfyrwyr hefyd lawrlwytho'r ffurflenni cais a'r canllawiau o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Cytundebau dysgu ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26

Gofynnwch i unrhyw fyfyrwyr sydd ar hyn o bryd yn derbyn LCA neu GDLlC ac sy'n parhau â'u hastudiaethau gyda chi y flwyddyn academaidd nesaf lofnodi cytundeb dysgu newydd cyn iddynt orffen y tymor.

Bydd hyn yn eich helpu yn ystod eich amser prysuraf ym mis Medi a byddant wedyn yn barod i fewnbynnu i'r porth pan fyddant yn dychwelyd.

Bydd hefyd yn eich helpu i gyflawni eich safon gwasanaeth o 10 diwrnod a sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu talu cyn gynted â phosibl ar ddechrau'r flwyddyn.