Bwletin ar gyfer Mai 2024

Diweddarwyd Diwethaf: 03 Medi 2024

Sut i baratoi ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25

  • Mae Cytundebau Dysgu bellach ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Trefnwch i'ch myfyrwyr sy'n dychwelyd y flwyddyn nesaf i lofnodi'r rhain cyn gynted â phosibl, bydd hyn yn helpu paratoi ar gyfer mis Medi. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth fanylach am hyn isod.
  • Gallwch nawr hefyd lawrlwytho'r canllawiau gwybodaeth am daliadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 o Borth y Ganolfan Ddysgu.
  • Dylech nodi wythnosau gwyliau ar Borth y Ganolfan Ddysgu nawr. Gallwch wneud hyn drwy fynd i Cynnal a Chadw – Gwyliau – 24/25. Nodwch yr holl wythnosau mae eich ysgol neu goleg ar wyliau.
  • Gall myfyrwyr hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais a'r canllawiau o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.


Rheoli llofnodi ffurflenni Cytundeb Dysgu LCA a GDLlC AB

Mae angen i bob myfyriwr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd gael LCA newydd neu Gytundeb Dysgu GDLlC AB ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd, dyma eu cais ffurfiol am gymorth yn y flwyddyn academaidd honno. Mae hefyd yn cadarnhau eu bod yn bwriadu dilyn telerau'r cynllun LCA neu gynllun GDLlC AB.

Dylech nawr ddechrau annog myfyrwyr LCA a GDLlC AB a fydd yn dychwelyd ym mis Medi i lofnodi eu cytundebau dysgu cyn diwedd y tymor. Gallwch lawrlwytho’r ffurflenni o Borth y Ganolfan Ddysgu.


Gall myfyrwyr lofnodi'r Cytundebau Dysgu LCA neu GDLlC AB yn bersonol ar ffurflen bapur. Gallwch hefyd barhau i e-bostio'r cytundebau i'ch myfyrwyr os yw'n well gennych. Gallwch dderbyn e-byst dychwelyd gan fyfyrwyr fel cadarnhad eu bod yn cytuno i'w telerau LCA neu GDLlC AB. Storiwch yr e-byst hyn mewn ffeil electronig at ddibenion archwilio.


Dosbarthu pecynnau cais LCA a GDLlC AB 2024/25

Rydym bellach wedi cwblhau'r broses o ddosbarthu pecynnau cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25 a dylech fod wedi derbyn eich dyraniad. Ni fydd Canolfannau Dysgu sydd â llai na 10 o Ddysgwyr LCA neu GDLlC AB ar hyn o bryd wedi derbyn danfoniad. Rydym yn eich annog i argraffu ffurflenni cais pan fydd eu hangen arnoch o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Gall myfyrwyr hefyd lawrlwytho'r ffurflen gais a'r canllawiau o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Os oes angen mwy o becynnau cais papur arnoch, anfonwch e-bost atom yn mailto:emainfo@slc.co.uk

 


Ceisiadau ar-lein ar gyfer 2024/25

Bydd opsiwn ymgeisio ar-lein ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25. Disgwyliwn i hwn gael ei lansio yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Cadwch lygad barcud ar fwletinau'r dyfodol am ragor o wybodaeth ac o ba ddyddiad y bydd y gwasanaeth hwn ar gael.

Yn y cyfamser, anogwch fyfyrwyr sydd am wneud cais nawr i wneud cais ar bapur.


Gwefan Gwasanaethau y Ganolfan Ddysgu ar gyfer LCA a GDLlC AB

Cofiwch fod gennym hefyd ein gwefan Gwasanaethau Canolfannau Dysgu i'ch cefnogi gydag unrhyw beth y gallai fod ei angen arnoch ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, gan gynnwys:

  • deunydd cyhoeddusrwydd
  • canllawiau wedi'u diweddaru
  • safonau gwasanaeth
  • newyddion
  • gwybodaeth am ddigwyddiadau SLC ar gyfer Canolfannau Dysgu

Mae dolenni i fewngofnodi i Borth y Ganolfan Ddysgu yn uniongyrchol o'r wefan. Cadwch y ddolen hon fel eich ffefryn newydd: http://www.lcservices.slc.co.uk

Am fersiwn Gymraeg gwefan Gwasanaethau Canolfannau Dysgu ewch i http://www.gcd.slc.co.uk


Dyddiad dechrau blwyddyn academaidd LCA a GDLlC AB

Dyddiad dechrau blwyddyn academaidd LCA a GDLlC AB fydd dydd Llun 9 Medi 2024. Dyma pryd rydym yn dechrau cyfrif y cyfnod o 10 diwrnod gwaith i fyfyrwyr lofnodi eu cytundebau dysgu.

Os yw gwir ddyddiad cychwyn eich blwyddyn academaidd yn gynharach na hyn, byddwch yn dal i allu diweddaru cytundebau dysgu a chadarnhau presenoldeb myfyrwyr cyn 9 Medi.



Porth yn agor yn gynnar ar gyfer hanner tymor

Rydym yn agor Porth y Ganolfan Ddysgu yn gynnar ar gyfer ceisiadau yn yr wythnos yn terfynu 24 Mai.

Mae hyn yn golygu y gallwch gyflwyno presenoldebau o ddydd Llun 20 Mai, a fydd yn sicrhau bod dyraniadau yn eu lle cyn i chi dorri ar gyfer y gwyliau.