Bwletin ar gyfer Ionawr 2026
Diweddarwyd Diwethaf: 23 Ion 2026
Fforymau Adolygu Gwasanaeth 2025/26
Rydym ar hyn o bryd yn cynllunio ein Fforymau Adolygu Gwasanaethau 2025/26. Mae nifer dda wedi mynychu’r fforymau erioed, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i un o’r digwyddiadau.
Rydym yn bwriadu cynnal fforymau wyneb yn wyneb a rhithwir. Byddwn yn anfon e-bost i ‘nodi’r dyddiad’ yn fuan, felly cadwch lygad amdano.
Deunyddiau 'I ddod yn fuan'
Bydd y deunyddiau 'i ddod yn fuan' ar gyfer blwyddyn academaidd (BA) 2026/27 ar gael i lawrlwytho ar y wefan Gwasanaethau LC ym Mawrth.
Ystyriwch y ffordd orau o rannu'r dogfennau hyn mewn mannau ble bydd eich myfyrwyr yn eu gweld. Gallai hyn gynnwys gwefannau, cyfryngau cymdeithasol neu fyrddau gwybodaeth. Mae'r deunyddiau hyn yn rhan bwysig o hyrwyddo LCA. Byddant yn helpu myfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus am eu haddysg yn y dyfodol.
Diolchwn i chi fel arfer am eich cefnogaeth barhaus i wneud y wybodaeth hon yn hygyrch i fyfyrwyr.
Gweld tystiolaeth goll ar gais myfyriwr
Gallwch nawr weld manylion tystiolaeth a allai fod ar goll o gais myfyriwr.
Rydym wedi cyflwyno hyn yn ddiweddar o adborth a dderbyniwyd yn ystod Fforymau Adolygu Gwasanaethau blaenorol. Gobeithiwn y bydd y newid yn eich cynorthwyo gydag ymholiadau ceisiadau LCA/GDLlC gan eich myfyrwyr.
Gall myfyrwyr wneud cais o hyd ar gyfer BA 2025/26
Nid yw’n rhy hwyr i fyfyrwyr wneud cais am LCA neu GDLlC AB ar gyfer BA 2025/26.
Gall myfyrwyr wneud cais ar-lein neu ar gais papur. Mae'r ddau ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Anogwch unrhyw fyfyrwyr y teimlwch eu bod yn gymwys i wneud cais cyn gynted â phosibl ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Cadarnhad o bresenoldeb
Mae hi cyn bwysiced ag erioed bod myfyrwyr yn cael eu taliadau LCA a GDLlC AB ar amser. I sicrhau bod hyn yn digwydd, cadarnhewch bresenoldeb eich myfyrwyr LCA ar Borth y Ganolfan Ddysgu bob wythnos.
Dylech gyflwyno eich cadarnhad cyn 5pm ar ddydd Mercher ar gyfer yr wythnos flaenorol.
Ar gyfer myfyrwyr GDLlC AB, cadarnhewch eu presenoldeb ar gyfer tymor 2 pan fyddant wedi dychwelyd i astudio a'ch bod yn hapus gyda phresenoldeb tymor 1.
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau gwybodaeth talu ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Mae canllawiau ychwanegol hefyd ar gael ar y wefan Gwasanaethau LC yn:
Cadw tŷ a diogelwch Porth y Ganolfan Ddysgu
Dylech ddod â chyfrifon unrhyw ddefnyddwyr Porth y Ganolfan Ddysgu nad oes angen mynediad i'r system arnynt mwyach i ben. Er enghraifft, efallai eu bod wedi gadael eu swydd neu wedi newid rôl. Mae hyn yn helpu cynnal diogelwch y porth a data y dysgwyr. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar ganllaw defnyddwyr Porth y Ganolfan Ddysgu ar sut i wneud hyn.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol mai dim ond cyfeiriadau e-bost ar y dudalen 'proffiliau' o fewn y porthol fydd yn derbyn ein bwletinau.
Adolygwch a diweddarwch eich rhestr o gysylltiadau i wneud yn siŵr bod yr holl staff angenrheidiol yno.
Desg gymorth LCA a GDLlC AB
Mae tîm ein desg gymorth ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd am fyfyrwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a materion system. Gallwch gysylltu â'r desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 6 ar gyfer ymholiadau LCA, opsiwn 5 ar gyfer GDLlC AB) neu e-bostio emainfo@slc.co.uk.