Digwyddiadau i ddod
Diweddarwyd Diwethaf: 16 Maw 2023
Fforymau Adolygu Gwasanaeth LCA/GDLlC AB 2025 - archebwch eich lle nawr!
Mae cofrestru bellach ar gael ar gyfer Fforymau Adolygu Gwasanaethau LCA a GDLlC AB.
Mae hwn yn gyfle i weinyddwyr canolfannau dysgu drafod gofynion LCA a GDLlC AB mewn grwpiau bach.
Eleni, byddwn yn cynnal amserlen gymysg o fforymau rhithwir ac wyneb yn wyneb.
Yn ystod y fforwm byddwn yn rhoi diweddariad i chi ar ystadegau ceisiadau blwyddyn academaidd 2024/25 ac yn adolygu cyfleoedd ar gyfer arfer gorau yn unol â’n safonau gwasanaeth. Byddwch hefyd yn cael cyfle i rannu adborth ar bob maes o'r ganolfan ddysgu a phartneriaeth SLC ac i gael a rhannu mewnwelediad sector.
Pwy ddylai fynychu?
Bydd y fforymau o fudd i staff a rheolwyr y canolfannau dysgu sy'n gweinyddu'r LCA neu GDLlC AB. Bydd yn hefyd o fudd i'r rhai sy'n gweithio gyda systemau SLC neu mewn rolau sy'n wynebu myfyrwyr.
Mae'r fforymau'n cynnig cyfle hyfforddi a rhannu gwybodaeth, gan gyfrannu at eich datblygiad personol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i siarad â Rheolwyr Cyfrifon AB a rhannu arfer gorau gyda darparwyr eraill.
Y cyfyngiad ar bresenoldeb yw 2 gynrychiolydd i bob canolfan ddysgu, fel y gall cymaint o gynrychiolwyr o wahanol ganolfannau dysgu fynychu.
Dyddiadau a Lleoliadau
Byddwn yn cynnal fforymau wyneb yn wyneb a rhithwir.
Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly cofrestrwch cyn gynted â phosibl i sicrhau eich lle.
Fforymau wyneb yn wyneb
- 1 Ebrill – Caerdydd – Gwesty Clayton, Heol Eglwys Fair, Caerdydd CF10 1GD
- 2 Ebrill – Abertawe – Coleg Gŵyr Abertawe, Heol Tycoch, Sgeti, Abertawe SA2 9EB
- 3 Ebrill – Cyffordd Llandudno – Swyddfa Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno LL31 9RZ
Cynhelir yr holl fforymau wyneb yn wyneb yn y bore gyda chofrestru a chroeso o 9am tan 9:30am, y prif fforwm o 9:30am i 12:00pm, a chinio tra’n gweithio o 12:00pm tan 12:30pm. Byddwn yn darparu te a choffi a chinio ysgafn.
Fforymau rhithwir
- 8 Ebrill – Microsoft Teams
- 9 Ebrill – Microsoft Teams
- 10 Ebrill – Microsoft Teams
Cynhelir yr holl fforymau rhithwir rhwng 9:30am a 11:30am.
Agenda
Bydd pob fforwm yn dechrau gyda chofrestru a chroeso rhwng 9am a 9:30am a byddant yn cael eu rhannu'n ddwy ran, gydag egwyl rhyngddynt.
Ym mhob fforwm, byddwn yn trafod y pynciau canlynol:
Rhan 1:
- dweud eich dweud
- ymholiadau cyffredin
- Taith gwefan Gwasanaethau y Ganolfan Ddysgu
- Gwelliannau i Borth y Ganolfan Ddysgu
- cais ar-lein
Rhan 2:
- ymgeisio a hyrwyddo
- dysgu ffeithiau am gytundebau dysgu
- safonau gwasanaeth
- diweddariad gwasanaeth
- unrhyw fusnes arall
Yna bydd fforymau wyneb yn wyneb yn cloi gyda chinio tra’n gweithio.
Sut i gofrestru
Byddwn yn cadw lleoedd ar sail y cyntaf i'r felin gyda uchafswm o 2 gynrychiolydd fesul canolfan ddysgu. Ni chodir tâl am fynychu fforwm adolygu gwasanaeth.
I archebu lle, e-bostiwch y wybodaeth ganlynol:
- Dyddiad a lleoliad y fforwm:
- Enw cynrychiolydd:
- Enw’r ganolfan ddysgu:
- Cyfeiriad E-bost:
- Rhif ffôn cyswllt:
- Gofynion dietegol (os yn y fforymau wyneb yn wyneb):