Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 16 Chwef 2023
Ymosodiadau seiber: Cyfrifoldebau
Eich cyfrifoldebau chi a'n cyfrifoldebau ni mewn achos o ymosodiad seiber neu ddigwyddiad diogelwch
Ymosodiadau seiber
Mae ymosodiadau seiber neu ddigwyddiadau diogelwch yn dod yn fwy cyffredin yn y sector addysg. Gall rhai o'r rhain arwain at golli ein data neu gyfyngu ar fynediad i'n systemau. Gall hyn effeithio ar ein gallu i wneud taliadau i'n cwsmeriaid.
Rydym wedi creu’r canllawiau hyn i sicrhau ein bod yn barod i ymateb i’r ymosodiadau hyn. Mae'n nodi'r rolau a'r cyfrifoldebau i ni ac i chi fel darparwr addysg. Bydd hyn yn helpu lleihau unrhyw ganlyniadau ac yn sicrhau y gallwn barhau i dalu ein cwsmeriaid lle bo modd.
Eich cyfrifoldebau
Os oes ymosodiad seiber neu ddigwyddiad diogelwch sy'n effeithio ar eich system data myfyrwyr rhaid i chi gysylltu â'ch Rheolwr Cyfrif GDLlC AB yn syth a beth bynnag o fewn 24 awr i ddod yn ymwybodol o'r digwyddiad.
Dylech wirio'r wybodaeth ganlynol a'i rhannu â'ch rheolwr cyfrif.
- A yw eich sianeli cyswllt yn ddiogel? Er enghraifft, a allwch chi ddefnyddio'ch e-byst, llinellau ffôn, Microsoft Teams neu lwyfannau cyfathrebu eraill?
- Ydych chi'n gwybod a yw data cyllid myfyrwyr wedi'i beryglu?
- Pa systemau ydych chi'n dal i gael mynediad iddynt?
- Allwch chi ddal i fewnbynnu data ar Borth y Ganolfan Ddysgu? Er enghraifft, a allwch chi gadarnhau presenoldeb o hyd neu gofnodi Cytundebau Dysgu?
Ein cyfrifoldebau
Bydd eich rheolwr cyfrif yn adrodd am yr ymosodiad seiber neu ddigwyddiad diogelwch i'n tîm Rheoli Digwyddiadau. Yna bydd y tîm Rheoli Digwyddiadau yn rhoi ein Protocol Ymosodiad Seiberddiogelwch ar waith.
Bydd ein tîm diogelwch yn cysylltu â chi i drafod manylion y digwyddiad diogelwch a bydd yn nodi lefel y risg.
Bydd eich rheolwr cyfrif yn:
- gweithredu fel pwynt cyswllt rhyngoch chi, ein Gweithredwr GDPR a’r tîm Rheoli Digwyddiadau
- trefnu cyfarfodydd cadw mewn cysylltiad (KIT) rheolaidd gyda chi yn ystod yr ymchwiliad a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi
- creu cynllun gweithredu gyda chi sy'n cynnwys amserlenni ar gyfer cwblhau gwaith
- gwirio gyda'n tîm diogelwch i weld a oes angen i ni gloi eich cyfrifon defnyddwyr ac ailosod eich cyfrineiriau
- cynnal cyfarfod adolygu terfynol gyda chi unwaith y byddwch chi a ninnau yn barod i ddychwelyd i fusnes fel arfer
- dweud wrth y tîm Rheoli Digwyddiadau unwaith y byddwch wedi cwblhau eich cynllun gweithredu