Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 15 Chw 2023

Y broses geisio

Ceisiadau myfyrwyr sy'n dychwelyd


Ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd, mae llofnodi eu Cytundeb Dysgu LCA yn gweithredu fel cais ffurfiol am gymorth LCA o dan delerau ac amodau'r flwyddyn academaidd honno. Mae hyn yn disodli'r angen iddynt gwblhau a dychwelyd ffurflen gais newydd.

Byddwn yn gwirio incwm cartref y myfyriwr fel rhan o'r broses hon. Os yw uwchlaw'r trothwy LCA, byddwn yn gwrthod y cais ac ni fydd yn ymddangos ar Borth yr LC. Bydd myfyrwyr yn derbyn llythyr i ddweud wrthynt beth sydd angen iddynt ei wneud os ydynt am apelio yn erbyn y penderfyniad hwn.

Mae cais myfyriwr cymwys sy'n dychwelyd yn cael ei drosglwyddo'n awtomatig i'r flwyddyn academaidd nesaf. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi gadarnhau eich bod chi a'r myfyriwr sy'n dychwelyd wedi llofnodi Cytundeb Dysgu LCA. Bydd hyn yn rhoi gwybod i ni fod y cais yn parhau i fod yn ddilys.

Rhaid i chi ddefnyddio'r templed Cytundeb Dysgu LCA gofynnol ar gyfer eich holl fyfyrwyr. Gallwch lawrlwytho hyn o Borth y Ganolfan Ddysgu.