Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 15 Chwef 2023
Presenoldeb
Cofnodi a choladu presenoldeb
Cofnodi presenoldeb
Gan fod monitro presenoldeb yn rhan mor hanfodol o'r cynllun LCA, gallwch ddefnyddio neu wella eich systemau presennol i gofnodi presenoldeb.
Mae angen cofnodi pob gwiriad presenoldeb, yn barod i'w goladu ar ddiwedd yr wythnos. Gallwch ddefnyddio unrhyw ddull sy'n addas i'ch Canolfan Ddysgu, gan gynnwys cofnodi â llaw neu ar-lein.
Coladu presenoldeb
Mae angen i chi goladu eich data presenoldeb bob wythnos, gan ei fod yn cael ei ddefnyddio i awdurdodi'r taliad LCA wythnosol. Dyma'r dystiolaeth sy'n gadael i chi benderfynu a yw'r myfyriwr yn bresennol ai peidio.
Dylech ddefnyddio'r prosesau sydd gan eich Canolfan Ddysgu eisoes ar gyfer casglu'r data presenoldeb.
Cadarnhad o bresenoldeb ar ddiwedd y flwyddyn academaidd – Mai, Mehefin a Gorffennaf
Mae 3 opsiwn cadarnhau presenoldeb y gallwch eu defnyddio hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd.
- In Attendance (Yn bresennol) – mae gan fyfyrwyr hawl i LCA tra byddant yn dysgu. Gall hyn gynnwys astudio amser llawn, absenoldeb astudio a dysgu cyfunol.
- Not in attendance (Ddim yn bresennol) – nid yw myfyrwyr yn dysgu ac nid yw eu habsenoldeb wedi'i awdurdodi.
- Holiday (Gwyliau) – mae myfyrwyr yn dal ar gofrestr yr ysgol ond ddim yn ymgymryd â dysgu. Ni ddylent felly dderbyn taliadau. Rydym yn argymell defnyddio'r opsiwn hwn ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn dysgu mwyach. Mae hyn yn golygu na fyddant yn derbyn negeseuon testun taliadau a allai fel arall achosi dryswch a gwaith gweinyddol diangen.
Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gymwys i gael taliad ar yr amod eu bod yn dysgu hyd at eu harholiadau terfynol. Os yw'r flwyddyn academaidd yn ymestyn y tu hwnt i ddyddiad terfynol yr arholiad, rydym yn argymell defnyddio'r opsiwn gwyliau. Y rheswm am hyn yw yn gyffredinol ni fydd unrhyw ddysgu pellach bryd hynny.