Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 15 Chwef 2023
Newid amgylchiadau
Ailadrodd astudio
Os bydd myfyriwr yn symud i Ganolfan Ddysgu arall neu'n newid ei raglen astudio yn sylweddol yn ystod y flwyddyn academaidd, bydd angen i ni gadarnhau os:
- yw'r myfyriwr yn ailadrodd ei astudiaethau
- oes rheswm y tu allan i'w reolaeth dros ailadrodd
Pa un bynnag, i fod yn gymwys ar gyfer LCA, rhaid i'r myfyriwr:
- fod yn astudio’n amser llawn
- fod wedi llofnodi Cytundeb Dysgu LCA
- fod yn astudio cwrs addysg bellach dilys