Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 15 Chwef 2023
Crynodeb
Crynodeb o'ch cyfrifoldebau
Y prif dasgau sydd angen i chi eu gwneud yw:
- hyrwyddo ymwybyddiaeth o LCA i bob myfyriwr presennol a darpar fyfyrwyr
- sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu hadnabod ar Borth y Ganolfan Ddysgu
- sicrhau bod eich defnyddwyr Porth y Ganolfan Ddysgu wedi'u hyfforddi'n briodol i weinyddu'r LCA
- sicrhau bod myfyrwyr cymwys yn gwybod sut mae eich ysgol neu goleg yn gweinyddu LCA
- cadarnhau ar Borth y Ganolfan Ddysgu bod y myfyriwr yn cofrestru ar gwrs cymwys
- cadarnhau’r dyddiad y mae’r myfyriwr wedi dechrau ei gwrs ar Borth y Ganolfan Ddysgu
- cadarnhau ar Borth y Ganolfan Ddysgu eich bod chi a’r myfyriwr cymwys wedi llofnodi Cytundeb Dysgu LCA
- cadw’r holl gofnodion sy’n ymwneud â LCA, gan gynnwys cofnodion presenoldeb a Chytundebau Dysgu LCA, am 7 mlynedd
- cyflwyno cadarnhad presenoldeb wythnosol ar Borth y Ganolfan Ddysgu, gan ddangos a yw myfyrwyr cymwys yn bresennol at ddibenion LCA ai peidio
- sicrhau bod myfyrwyr cymwys yn gwybod am broses apelio sefydledig yn eich ysgol neu goleg
- sicrhau bod eich proses apelio ar gael os yw myfyrwyr am apelio ynghylch llofnodi eu Cytundebau Dysgu LCA neu ynghylch y cadarnhad presenoldeb wythnosol
- dywedwch wrthym ar unwaith os byddwch yn dod yn ymwybodol y gallai myfyriwr fod yn cyflawni twyll wrth wneud cais am LCA – gallwch ddod o hyd i ganllawiau twyll ar Borth y Ganolfan Ddysgu
- sicrhewch fod myfyrwyr yn gwybod y gallant ymgeisio ar-lein ond gallant gael cais papur os oes angen
Gallwch ddefnyddio'r Llythyr Dyfarnu y mae pob myfyriwr LCA yn ei dderbyn i'w helpu i'w hadnabod ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Fodd bynnag, cofiwch fod y llythyr hwn yn cynnwys gwybodaeth bersonol ac ariannol, felly mae gan fyfyrwyr yr hawl i wrthod ei ddangos i chi.