Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 15 Chwef 2023
Cadw cofnodion ac apeliadau
Dileu data targedig mewn swmp
Fel rhan o’n gwaith i gydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018, byddwn yn dileu rhywfaint o wybodaeth o’n systemau nad oes gennym reswm i’w chadw mwyach.
Mae hyn yn cynnwys dileu ceisiadau a gwybodaeth cwsmeriaid lle:
- ni wnaed taliad erioed
- mae sbardunau cadw a chyfnodau y cytunwyd arnynt wedi mynd heibio
Mae rhai eithriadau lle byddwn yn cadw’r data am gyfnod hwy, megis achosion o dwyll.
Y sbardunau cadw arferol yw:
- Ceisiadau LCA sydd heb eu cymeradwyo – diwedd y flwyddyn academaidd gyfredol (31 Awst)
- Ceisiadau LCA sydd wedi’u cymeradwyo – diwedd y flwyddyn academaidd ganlynol (31 Awst) os nad oes taliad wedi’i wneud
Y cyfnod cadw ar ôl y sbardun yw 6 mis ar gyfer pob cais.