Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 15 Chwef 2023
Cadw cofnodion ac apeliadau
Cadw cofnodion
Telir am y cynllun LCA gan arian cyhoeddus. O'r herwydd, mae'n destun archwiliadau mewnol ac allanol ar lefelau tebyg i gynlluniau addysg eraill sy'n ymwneud ag arian cyhoeddus.
Gall Swyddfa Archwilio Cymru a Llywodraeth Cymru gynnal arolygiadau dilysu ym mhob Canolfan Ddysgu sy’n cymryd rhan yn y cynllun LCA.
Rhaid i chi gadw holl gofnodion ysgol a choleg yn ymwneud â data ariannol am o leiaf 7 mlynedd. Mae hyn yn cynnwys:
- data myfyrwyr
- Cytundebau Dysgu LCA
- absenoldebau awdurdodedig
- tystiolaeth presenoldeb
- gohebiaeth mewn perthynas â LCA
- dogfennaeth ategol o gymhwysedd, megis cwrs a blwyddyn academaidd
- gwybodaeth rheoli
Mae hyn yn cynnwys cofnodion electronig a phapur.
Yn unol â Deddf Diogelu Data 2018, rhaid i chi gadw eich cofnodion mewn fformat ac amgylchedd diogel ac addas.