Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 15 Chwef 2023

Cadw cofnodion ac apeliadau

Apeliadau


Mae gan fyfyrwyr yr hawl i apelio am:

  • Hawl LCA
  • rheolau'r cynllun
  • taliadau presenoldeb

Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gwestiynau am swm eu hawl i LCA, dylent gysylltu รข Chyllid Myfyrwyr Cymru.

Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gwestiynau am bolisi neu reolau cynllun LCA, dylent anfon e-bost at Lywodraeth Cymru yn isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru.

Eich Canolfan Ddysgu sydd i benderfynu a oes gan fyfyriwr hawl i daliadau LCA wythnosol ar sail presenoldeb ai peidio. Dylai apeliadau am y penderfyniadau hyn ddod atoch chi yn gyntaf felly. Disgwyliwn i chi gael eich proses apelio sefydledig eich hun a gyhoeddir ac sydd ar gael i'ch myfyrwyr.

Dylai unrhyw apeliadau dilynol ynghylch taliadau wythnosol fynd i Gyllid Myfyrwyr Cymru.