Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 15 Chwef 2023

Nodiadau cyfarwyddyd ar gyfer Canolfannau Dysgu LCA yng Nghymru

Nodiadau i’ch helpu i reoli’r cynllun LCA yng Nghymru.


Cyflwyniad

Beth yw'r cynllun LCA?

Mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) yn darparu cymorth ariannol i bobl ifanc 16 i 18 oed sy'n parhau â'u haddysg mewn ysgolion cydnabyddedig neu golegau addysg bellach. Mae'n lwfans wythnosol prawf modd, seiliedig ar bresenoldeb, a delir bob 2 wythnos.

Mae LCA yn gontract 'rhywbeth am rywbeth' lle gall myfyrwyr cymwys dderbyn eu lwfans wythnosol drwy fynychu'n llawn.

Mae'r nodiadau canllaw hyn yn rhesymegol yn dilyn camau'r cynllun LCA, o'r cais i'r taliad. Byddant yn rhoi syniad clir i Ganolfannau Dysgu cydnabyddedig o sut mae'r cynllun yn gweithio a sut mae eich rôl bwysig yn cyd-fynd â'r prosesau cyffredinol. Dylech ddarllen y canllawiau hyn ar y cyd â chanllaw defnyddwyr Porth y Ganolfan Ddysgu.

Hyrwyddo LCA

Hyrwyddo'r cynllun LCA

Mae ysgolion a cholegau yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o hyrwyddo'r cynllun LCA. Gofynnwn felly i chi hybu ymwybyddiaeth o'r cymorth ariannol sydd ar gael trwy’r cynllun.

O flwyddyn academaidd 2023/24 gall myfyrwyr ymgeisio ar-lein. Anogwch eich myfyrwyr i ymgeisio ar-lein os yn bosibl a dywedwch wrthynt fod gwybodaeth bwysig a nodiadau canllaw ar gael ar-lein.

Byddwn hefyd yn anfon deunydd cyhoeddusrwydd atoch sy’n cynnwys taflenni, posteri, canllawiau a phecynnau cais. Dosbarthwch y rhain i fyfyrwyr a'u harddangos mewn mannau lle gellir eu gweld yn hawdd.

Gofynnwn i chi hefyd gynnig anogaeth a chyngor ynghylch llenwi a dychwelyd y ffurflen. Gallai hyn fod yn berthnasol i rieni neu warcheidwaid hefyd.

Dywedwch wrth eich myfyrwyr bod Cyllid Myfyrwyr Cymru yn darparu gwasanaeth dwyieithog. Mae'r ffurflen gais LCA a ffurflenni arweiniad eraill i fyfyrwyr a rhieni hefyd ar gael yn Gymraeg. Gallant lawrlwytho'r rhain ar wefan ddwyieithog Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Dylech hefyd hybu ymwybyddiaeth o'r cynllun LCA ar ddiwrnodau gyrfa, nosweithiau rhieni a diwrnodau agored y coleg. Gallwch ddefnyddio'r deunyddiau cyhoeddusrwydd LCA rydyn ni'n eu darparu bob blwyddyn i'w rhannu â'ch myfyrwyr.

Prif negeseuon am LCA

Dyma’r prif nodweddion y gallwch eu hamlygu i hyrwyddo’r cynllun LCA:

  • Mae LCA yn helpu myfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus yn 16, 17 a 18, gan roi cyfle iddynt feddwl am addysg bellach gyda llai o bryderon ariannol

  • Lwfans wythnosol prawf modd o £30 ar sail presenoldeb yw LCA, a delir bob 2 wythnos, yn dibynnu ar incwm y cartref

  • Mae LCA ar gael i fyfyrwyr ar nifer o gyrsiau academaidd a galwedigaethol hyd at lefel 3, er enghraifft TGAU, Lefel A, NVQ, lefel cyn-mynediad, lefel mynediad a chyrsiau sgiliau sylfaenol (nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr)

  • nid yw unrhyw arian y mae myfyrwyr yn ei ennill o swyddi rhan-amser yn effeithio ar LCA

  • Nid yw LCA yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau a delir i deuluoedd, fel Budd-dal Plant, credydau treth, Credyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

  • i wneud cais am LCA, rhaid bod gan fyfyrwyr, neu rhaid eu bod wedi gwneud cais i agor, cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd sy’n derbyn credydau uniongyrchol

  • rhaid i fyfyrwyr wneud cais o fewn 13 wythnos i ddechrau eu cwrs i fod yn gymwys i gael taliadau wedi’u hôl-ddyddio

Cymhwysedd

Incwm cartref

Mae LCA yn lwfans prawf modd. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am drothwyon incwm cartref yn ein canllaw cyflym dyddiadau pwysig a gwybodaeth ar gyfer y flwyddyn academaidd berthnasol.

Rhaid i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth o incwm eu cartref ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol.

Os yw incwm eu cartref wedi gostwng yn barhaol ers y flwyddyn dreth flaenorol, gellir asesu myfyrwyr gan ddefnyddio incwm presennol y cartref. Bydd angen iddynt gwblhau'r ffurflen gais o hyd gan ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth am y flwyddyn dreth flaenorol. Gyda'r ffurflen wedi'i chwblhau, dylent anfon llythyr yn gofyn am gael eu hasesu ar incwm y flwyddyn gyfredol. Dylent hefyd gyflwyno tystiolaeth o incwm y flwyddyn gyfredol a manylion pryd y digwyddodd y newid.

Cyrsiau cymwys

I dderbyn LCA, rhaid i fyfyrwyr fod yn astudio cwrs cymwys. Rhaid i hyn gael ei ddarparu gan neu o fewn darparwr addysg cydnabyddedig.

Yr ysgol neu’r coleg sy’n gyfrifol am gadarnhau bod cwrs y myfyriwr yn ddilys. Gallwch wneud hyn trwy Borth y Ganolfan Ddysgu, fel rhan o’r broses i gadarnhau Cytundeb Dysgu LCA y myfyriwr.


Hyd y cwrs

Rhaid i bob cwrs cymwys fod yn rhaglen addysg academaidd neu alwedigaethol amser llawn gyda:

  • o leiaf 10 wythnos o hyd
  • o leiaf 12 awr cyswllt dan arweiniad yr wythnos

Diffinnir amser llawn fel o leiaf 12 awr cyswllt dan arweiniad yr wythnos. Fodd bynnag, ar gyfer unrhyw gwrs lle mae'r oriau wythnosol yn uwch, rhaid i fyfyrwyr fynychu'r holl oriau a neilltuwyd. Er enghraifft, os oes gan gwrs 20 o oriau cyswllt dan arweiniad, rhaid i fyfyrwyr fynychu pob un o'r 20 awr i fod yn bresennol at ddibenion LCA.


Math o gwrs

Mae meini prawf y cwrs ar gyfer y cynllun LCA yn eang ac yn hyblyg. Rhaid i'r rhain ymwneud â chymwysterau academaidd neu alwedigaethol a gydnabyddir yn genedlaethol.

Mae cymwysterau cymwys hyd at ac yn cynnwys Cymwysterau Cenedlaethol lefel 3, a gyhoeddir gan gorff dyfarnu cydnabyddedig.

Nid yw cyrsiau addysg uwch ar lefel 4 neu uwch yn gymwys.

Rhaid i'r myfyriwr ddangos rhywfaint o gynnydd o'r dechrau i'r diwedd. Cynhwysir cyrsiau academaidd a galwedigaethol.

Elfennau pwysig cwrs cymwys:

  • mae'n rhaglen addysg academaidd neu alwedigaethol amser llawn neu'n rhaglen amser llawn i baratoi ar gyfer bywyd a gwaith

  • hyd y rhaglen addysg academaidd neu alwedigaethol amser llawn yw o leiaf 10 wythnos

  • mae’n cael ei ddarparu gan neu o fewn darparwr addysg cydnabyddedig

  • mae’n arwain at gymwysterau hyd at ac yn cynnwys Cymwysterau Cenedlaethol lefel 3, a gyhoeddir gan gorff dyfarnu cydnabyddedig

  • mae'n arwain at gyflawni rhaglen ddysgu bersonol a ariennir gan Lywodraeth Cymru o dan faes rhaglen Paratoi ar gyfer Bywyd a Gwaith

  • mae’r myfyriwr wedi’i amserlennu i astudio am o leiaf 12 awr yr wythnos

Nid yw myfyrwyr yn gymwys i gael cymorth LCA ar gyfer Barod am Waith, dysgu seiliedig ar waith neu gynlluniau a rhaglenni cyfatebol lle telir lwfans neu debyg.

Os nad ydych yn siŵr a yw cwrs yn gymwys ai peidio, anfonwch e-bost at Lywodraeth Cymru yn isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru.


Cyrsiau cymwys: Rhaglenni Sgiliau Byw'n Annibynnol

I fod yn gymwys ar gyfer LCA, rhaid i fyfyrwyr fod ar gwrs addysg bellach hyd at lefel 3. Mae hyn gyfwerth â Safon Uwch neu NVQ lefel 3, sy'n arwain at gymhwyster gan gorff dyfarnu cydnabyddedig.

O flwyddyn academaidd 2019/20, estynnodd Llywodraeth Cymru gymorth i fyfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau ar raglenni Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) sy’n cynnwys darpariaeth heb ei hachredu.

Mae pob Canolfan Ddysgu sy'n cynnig rhaglenni ILS yn gyfrifol am bennu addasrwydd y myfyrwyr.

Mae rhaglenni ILS yn dilyn amserlen gadarn o brosesau ar gyfer:

  • asesiadau cychwynnol myfyrwyr
  • gosod targedau
  • monitro cyflawniad yn erbyn targed

Mae’r prosesau hyn a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn cyd-fynd â Chytundebau Dysgu LCA cyfredol.

Datblygwyd y cwricwlwm diwygiedig mewn ymateb i argymhellion a nodwyd yn Adroddiad Thematig diweddar Estyn. Mae pob rhaglen newydd wedi'i chynllunio i ddarparu dull ymarferol o ennill a chyfnerthu sgiliau, i baratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd fel oedolion.

O dan y cwricwlwm newydd, mae myfyrwyr ILS yn dilyn rhaglenni unigol wedi’u teilwra sy’n datblygu eu sgiliau ar draws 4 piler dysgu:

  • iechyd a lles
  • cyflogadwyedd
  • byw’n annibynnol
  • cynhwysiant cymunedol

I gefnogi’r datblygiad newydd hwn, mae myfyrwyr ag anawsterau dysgu sy’n cychwyn ar raglen ILS yn gymwys i gael cymorth LCA o flwyddyn academaidd 2019/20. Mae hyn yn amodol ar fodloni'r holl feini prawf cymhwysedd eraill. Mae'r rhain yn cynnwys cymhwyster personol, trothwyon incwm a gofynion preswylio.

Mae'r rhaglen heb ei hachredu. Mae'n arwain at gyflawni rhaglen ddysgu bersonol a ariennir gan Lywodraeth Cymru o dan Paratoi ar gyfer Bywyd a Gwaith.


Astudiaeth gysylltiedig â gwaith

Gall myfyrwyr fod yn gymwys i gael LCA os ydynt:

  • ar leoliad gwaith sy'n rhan annatod o'u rhaglen ddysgu amser llawn
  • nad ydynt yn cael lwfans ar wahân ar gyfer y lleoliad gwaith hwnnw

Nid yw myfyrwyr yn gymwys i gael LCA os ydynt yn cael:

  • lwfans neu rywbeth tebyg ar gyfer rhaglen dysgu seiliedig ar waith a ariennir
  • lwfans neu rywbeth tebyg ar gyfer rhaglen brentisiaeth a ariennir
  • mathau eraill o arian cyhoeddus a bennir gan Weinidogion Cymru

Dysgu o Bell

Nid oes gan reolau cynllun LCA Cymru ddarpariaethau ar gyfer dysgu o bell.

Byddwn yn dyfarnu taliadau dewisol i fyfyrwyr sy'n bodloni holl feini prawf y LCA ac eithrio presenoldeb oherwydd anabledd.

Canolfannau Dysgu Lluosog

Ni all myfyrwyr gofrestru i dderbyn LCA mewn mwy nag un ysgol neu goleg.

Os yw myfyrwyr cymwys yn mynychu mwy nag un Ganolfan Ddysgu, mae LCA yn daladwy drwy'r Ganolfan Ddysgu lle maent yn treulio'r rhan fwyaf o'r wythnos.

Rhaid bod gan y brif Ganolfan Ddysgu brosesau digonol ar waith i gadarnhau bod y myfyrwyr yn bodloni telerau eu Cytundebau Dysgu LCA.

Os nad chi yw prif Ganolfan Ddysgu’r myfyriwr, rhaid bod gennych weithdrefnau yn eu lle i anfon data presenoldeb i’r brif Ganolfan Ddysgu.

Mae rheolau cymhwyster arferol y cwrs yn dal yn berthnasol. Mae'n rhaid i'r cwrs neu raglen astudio mewn un ysgol neu goleg barhau i fod o leiaf 12 awr cyswllt dan arweiniad yr wythnos.


Enghreifftiau

Ddim yn gymwys

Mae'r myfyriwr yn mynychu Cwrs A yn Ysgol A am 6 awr.

Mae'r myfyriwr hefyd yn mynychu Cwrs B yn Ysgol B am 4 awr.

Mae'r myfyriwr yn mynychu am gyfanswm o 10 awr dros 2 gwrs. Gan nad yw'r naill na'r llall o'r cyrsiau yn cynnwys 12 awr cyswllt dan arweiniad yr wythnos, nid yw'r myfyriwr yn gymwys i gael LCA.

Cymwys

Mae'r myfyriwr yn mynychu Cwrs A yng Ngholeg A am 6 awr.

Mae'r myfyriwr hefyd yn mynychu Cwrs A yng Ngholeg B am 6 awr.

Mae'r myfyriwr yn mynychu cyfanswm o 12 awr o'r un cwrs, ond mewn colegau gwahanol. Mae'r myfyriwr yn gymwys i gael LCA.

Gwirio sampl

Nid ydym bellach yn cynnal gwiriad sampl o fyfyrwyr adnewyddu awtomatig yn yr haf cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.   Bydd y broses gwirio incwm ar gyfer y rhai sy'n dychwelyd nawr yn gweithio yr un fath ag ar gyfer myfyrwyr newydd.

Fel rhan o’r broses ‘treiglo’n awtomatig’ ar gyfer y rhai sy’n dychwelyd o flwyddyn academaidd 2025/26, byddwn yn eu hanfon am wiriad incwm fel rhan o’u proses asesu.  Bydd hon yn broses a gynhyrchir gan system.

Pan fyddwn wedi cynnal y gwiriad incwm, bydd cais y myfyriwr yn perthyn i un o ddau senario:

  • Mae'r gwiriad incwm yn cadw incwm y cartref o dan y trothwy gofynnol a bydd y cais yn symud ymlaen yn awtomatig i 'cymeradwywyd'
  • Mae'r gwiriad incwm yn symud incwm y cartref uwchlaw’r trothwy gofynnol , a bydd y cais yn symud ymlaen yn awtomatig i 'angen tystiolaeth'. Yna byddwn yn anfon cais am ddogfennaeth incwm materol.  Mae hyn yn dilyn y llwybr eithriad presennol ar gyfer myfyrwyr newydd.  Ni chaiff unrhyw fyfyrwyr eu gwrthod yn awtomatig heb i ni ofyn am dystiolaeth yn gyntaf

Byddwn hefyd yn gofyn i sampl o fyfyrwyr newydd ddarparu tystiolaeth eu bod yn ddibynnol ar y rhieni neu warcheidwaid a restrwyd ganddynt yn eu cais gwreiddiol.

Byddwn yn eich atgoffa pan fydd y gwiriad sampl yn digwydd bob blwyddyn.

Os na fydd myfyrwyr yn darparu tystiolaeth neu’n methu’r gwiriad sampl, byddwn yn atal taliadau yn y dyfodol ac yn ceisio adennill unrhyw daliadau rydym wedi’u gwneud eisoes.

Dylech barhau i gadarnhau presenoldeb ar Borth y Ganolfan Ddysgu drwy gydol y broses gwirio sampl. Bydd hyn yn gadael i ni ôl-ddyddio unrhyw daliadau yn gyflym unwaith y bydd y myfyrwyr wedi profi eu bod yn gymwys.

Os bydd myfyriwr yn cysylltu â chi i ddweud nad yw wedi derbyn taliadau, gwiriwch eich bod wedi cadarnhau eu presenoldeb ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Os ydych wedi cadarnhau’r presenoldeb, gofynnwch i’r myfyriwr gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru am gymorth.

Person sydd wedi'i eithrio rhag LCA

Gall myfyrwyr gael eu heithrio rhag asesiad prawf modd o incwm y cartref os ydynt:

  • mewn gofal awdurdod lleol, gyda rhieni maeth neu'n gadael gofal

  • yn gyfrifol am eu plentyn eu hunain

  • yn derbyn Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm

  • â hawl i Gredyd Cynhwysol o dan Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013

  • yn y ddalfa neu wedi carcharu o fewn y system cyfiawnder ieuenctid, gan gynnwys Sefydliad Troseddwyr Ifanc, Canolfan Hyfforddi Ddiogel neu Gartref Plant Diogel

Os nad yw myfyrwyr yn siŵr a ydynt wedi’u heithrio, dylent gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru am gyngor.

Y broses geisio

Ceisiadau myfyrwyr newydd

Unwaith y bydd myfyriwr wedi gwneud cais am LCA a chyflwyno'r holl ddogfennaeth berthnasol, byddwn yn asesu ei gais. Yna byddwn yn dweud wrth y myfyriwr beth yw canlyniad yr asesiad. Os ydynt wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer LCA, byddant yn derbyn llythyr dyfarnu.

Ni fydd myfyrwyr cymeradwy yn derbyn unrhyw daliadau nes eu bod wedi llofnodi eu Cytundeb Dysgu LCA yn eu Canolfan Ddysgu. Mae angen i ni dderbyn cadarnhad o hyn, ynghyd â chyflwyno cadarnhad presenoldeb, ar Borth y Ganolfan Ddysgu.

Rhaid i chi ddefnyddio'r templed Cytundeb LCA gofynnol ar gyfer pob myfyriwr. Gallwch lawrlwytho hyn o Borth y Ganolfan Ddysgu.

Ceisiadau myfyrwyr sy'n dychwelyd

Ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd, mae llofnodi eu Cytundeb Dysgu LCA yn gweithredu fel cais ffurfiol am gymorth LCA o dan delerau ac amodau'r flwyddyn academaidd honno. Mae hyn yn disodli'r angen iddynt gwblhau a dychwelyd ffurflen gais newydd.

Mae cais myfyriwr cymwys sy'n dychwelyd yn cael ei drosglwyddo'n awtomatig i'r flwyddyn academaidd nesaf. Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi gadarnhau eich bod chi a'r myfyriwr sy'n dychwelyd wedi llofnodi Cytundeb Dysgu LCA. Bydd hyn yn rhoi gwybod i ni fod y cais yn parhau i fod yn ddilys.

Rhaid i chi ddefnyddio'r templed Cytundeb Dysgu LCA gofynnol ar gyfer eich holl fyfyrwyr. Gallwch lawrlwytho hyn o Borth y Ganolfan Ddysgu.

Myfyrwyr 19 oed

Mae’n bosibl y bydd myfyrwyr sy’n dathlu pen-blwydd yn 19 oed yn ystod y flwyddyn academaidd berthnasol yn gallu gwneud cais am gymorth LCA yn y flwyddyn honno. Mae hyn yn berthnasol os:

  • mae angen blwyddyn arall arnynt i gwblhau eu rhaglen astudio
  • nad ydynt wedi cael mwy na 2 flynedd o gymorth LCA yn y 3 blynedd flaenorol

Mae hyn yn seiliedig ar y tebygolrwydd y bydd pob myfyriwr sydd angen LCA am flwyddyn arall, yn 19 oed, yn debygol o fod ag amgylchiadau esgusodol neu eithriadol.

Os yw myfyriwr sydd wedi derbyn LCA yn y flwyddyn academaidd flaenorol yn 19 oed, bydd ei gais yn cael ei adnewyddu’n awtomatig.

Taliadau lwfans wythnosol wedi'u hôl-ddyddio

Rhaid i fyfyrwyr newydd gyflwyno eu ffurflen gais i ni o fewn 13 wythnos i ddechrau eu cwrs. Rhaid i fyfyrwyr sy'n dychwelyd lofnodi eu Cytundeb Dysgu LCA o fewn 13 wythnos o ddechrau eu cwrs i gael eu taliadau wedi'u hôl-ddyddio. Dechrau'r cwrs yw'r dyddiad yn y maes Dyddiad Dechrau’r Cwrs ar Borth y Ganolfan Ddysgu.

Ar gyfer ymgeiswyr blwyddyn gyntaf LCA, ni fydd y porth yn gofyn i chi nodi'r dyddiad y llofnododd y myfyriwr ei Gytundeb Dysgu. Bydd yn nodi hwn yn awtomatig fel y dyddiad pan fyddwch yn cadw'r cytundeb ar y porth. Yna mae'r system yn defnyddio hwn ynghyd â dyddiad dechrau'r cwrs i benderfynu a yw myfyrwyr LCA blwyddyn gyntaf yn gymwys i gael taliadau ôl-ddyddiedig.

Ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd, bydd y porth yn gofyn i chi nodi'r dyddiad pan wnaethant lofnodi eu Cytundeb Dysgu LCA. Dylech bob amser fynd yn ôl dyddiad y llofnod yn hytrach na’r dyddiad pan fyddwch yn nodi hwn ar y porth. Mae’r system yn defnyddio dyddiad y llofnod ynghyd â dyddiad dechrau’r cwrs i benderfynu a yw’r myfyriwr yn gymwys i gael taliadau wedi’u hôl-ddyddio. Mae'n bwysig iawn felly eich bod yn nodi'r dyddiad hwn yn gywir.

Rhaid i chi osgoi unrhyw oedi diangen wrth gadarnhau Cytundebau Dysgu LCA neu ddyddiadau dechrau cyrsiau, gan y bydd hyn yn effeithio ar daliadau wedi'u hôl-ddyddio.

Cytundebau Dysgu LCA

Beth yw Cytundebau Dysgu LCA?

Mae Cytundebau Dysgu LCA yn ffordd glir a chryno o nodi'n union beth sydd angen i fyfyrwyr ei wneud i dderbyn eu taliadau wythnosol. Cânt eu harwyddo gan y myfyriwr a'r Ganolfan Ddysgu.

Mae angen Cytundeb Dysgu LCA newydd ar bob myfyriwr LCA cymwys ar gyfer pob blwyddyn, boed yn newydd neu'n dychwelyd.

Cynnwys y Cytundeb Dysgu LCA

Mae Cytundeb Dysgu LCA yn nodi cyfrifoldebau'r myfyriwr a'r Ganolfan Ddysgu. Dylai ddiffinio'n glir:

  • presenoldeb derbyniol ar gyfer y cwrs
  • yr hyn a ddisgwylir gan y myfyriwr
  • rôl y Ganolfan Ddysgu

Pan fydd myfyrwyr yn llofnodi eu Cytundebau Dysgu LCA, maent yn ymrwymo i'r meini prawf presenoldeb y mae eu Canolfan Ddysgu wedi'u gosod, yn gyfnewid am daliad LCA wythnosol.

Dylai’r Cytundeb Dysgu LCA gadarnhau’r canlynol fel isafswm:

  • bod y myfyriwr wedi cofrestru ar gwrs dilys
  • bod y myfyriwr wedi cael gwybod yn iawn sut mae ei Ganolfan Ddysgu yn gweinyddu'r cynllun LCA

Dylai Cytundeb Dysgu LCA fod yn:

  • realistig
  • addasadwy i anghenion unigol
  • clir a diamwys
  • heb fod yn gysylltiedig â graddau penodol

Mae templed Cytundeb Dysgu LCA yn cynnwys cwestiwn i nodi dewis iaith y myfyriwr (Cymraeg neu Saesneg). Dylech ddethol y dewis iaith cywir pan fyddwch yn cadarnhau ar Borth y Ganolfan Ddysgu bod y Cytundeb Dysgu LCA wedi'i lofnodi.

Rhaid i chi ddefnyddio'r templed Cytundeb LCA sydd ar gael ar dab Downloads (Lawrlwythiadau) Porth y Ganolfan Ddysgu.

Ffurflen Cytundeb LCA 2025/26

Ffurflen Cytundeb LCA 2025/26 Ffurflen Cytundeb LCA 2025/26

Person Enwebedig Ffurflen Cytundeb Dysgu LCA

Gallwch ddefnyddio Ffurflen Person Enwebedig Cytundeb Dysgu LCA os nad yw myfyriwr yn gallu llofnodi Cytundeb Dysgu LCA. Mae'r ffurflen hon yn gadael i drydydd parti enwebedig ei harwyddo ar eu rhan.

Gallai’r trydydd parti enwebedig fod yn rhiant, gwarcheidwad neu ofalwr sy’n gyfrifol am faterion gweinyddol neu ariannol y myfyriwr.

Mae Ffurflen Cytundeb LCA Person Enwebedig ar gael ar Borth y Ganolfan Ddysgu.

Llofnodi'r Cytundeb Dysgu LCA

Rhaid i bob myfyriwr newydd a myfyriwr sy'n dychwelyd lofnodi Cytundeb Dysgu LCA. Ar gyfer myfyrwyr sy'n dychwelyd, eu llofnod Cytundeb Dysgu LCA yw eu cais ffurfiol i'r cynllun LCA. Am y rheswm hwn, rhaid i chi ddefnyddio'r templed Cytundeb Dysgu LCA gorfodol, a gyhoeddwyd gan Gyllid Myfyrwyr Cymru, ar gyfer myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd.

Gellir llofnodi cytundebau dysgu yn bersonol ar ffurflen bapur. Gallwch hefyd e-bostio'r cytundebau i'ch myfyrwyr os yw cyfarfod yn bersonol yn anodd. Dylech ofyn am e-bost gan y myfyriwr fel cadarnhad ei fod yn cytuno i'w delerau LCA. Storiwch yr e-byst hyn mewn ffeil electronig at ddibenion archwilio.

Dylid llofnodi cytundebau dysgu cyn i chi dorri ar gyfer gwyliau'r haf. Y dyddiad cau ar gyfer eu llofnodi yw diwedd y flwyddyn academaidd. Os na all y myfyriwr wneud hyn oherwydd rhesymau personol cymhellol, rhaid iddo lofnodi erbyn diwedd mis cyntaf (Medi) y flwyddyn academaidd nesaf fan bellaf.

Statws Cytundeb Dysgu LCA

Gweithredol

Mae'r statws hwn yn cael ei osod yn awtomatig gan y system pan fyddwch yn cadarnhau bod myfyriwr wedi llofnodi ei Gytundeb Dysgu LCA.

Os oes angen i chi ddod â Chytundeb Dysgu LCA i ben, mae’r dull i’w ddefnyddio ar gyfer hyn yn dibynnu ar amgylchiadau’r myfyriwr.


Wedi’i atal

Os bydd myfyriwr yn absennol o'ch Canolfan Ddysgu am gyfnod hwy ac nad ydych yn siŵr a fydd yr absenoldeb yn barhaol, dylech atal y Cytundeb Dysgu LCA. Mae hyn yn caniatáu i chi ei ailysgogi os bydd y myfyriwr yn dychwelyd.

Hyd yn oed os yw'n ymddangos na fydd y myfyriwr yn dychwelyd, weithiau mae'n well eu hatal. Ceisiwch osgoi defnyddio'r swyddogaeth Stop (Stopio), oherwydd gall yr ataliad gael ei wrthdroi os ydych chi wedi gwneud camgymeriad neu os yw'r myfyriwr yn newid ei feddwl.

Ni fydd yn rhaid i chi gadarnhau presenoldeb ar gyfer myfyrwyr y mae eu Cytundebau Dysgu LCA wedi'u hatal nes i chi eu hadfer.


Wedi stopio

Os bydd myfyriwr yn gadael eich Canolfan Ddysgu yn barhaol, rhaid i chi stopio ei Gytundeb Dysgu LCA. Mae hyn yn rhoi stop ar gofnod y myfyriwr ac ni fydd angen i chi gadarnhau presenoldeb mwyach.

Dim ond os oes gennych gadarnhad na fydd y myfyriwr yn dychwelyd y dylech atal Cytundeb Dysgu LCA.

Ni ddylech ddefnyddio sgrin View Applications (Gweld ceisiadau) Porth y Ganolfan Ddysgu i ddileu myfyrwyr sydd wedi cael Cytundeb LCA gweithredol yn ystod y flwyddyn academaidd. Dylech atal eu Cytundeb Dysgu LCA yn lle hynny.

Newid amgylchiadau

Myfyrwyr yn newid cyrsiau

Os yw myfyriwr yn aros yn eich Canolfan Ddysgu ond yn trosglwyddo canol blwyddyn i gwrs cymwys gwahanol, rhaid i chi adolygu ei Gytundeb Dysgu LCA. Efallai y bydd angen i chi gytuno ar un newydd os yw'n briodol.

Nid oes angen i chi ddweud wrthym am unrhyw newidiadau canol blwyddyn yn rhaglen astudio myfyriwr.

Rhaid i chi gadw fersiynau hen a diwygiedig o Gytundebau Dysgu LCA am 7 mlynedd at ddibenion archwilio.

Myfyrwyr sy'n newid ysgol neu goleg

Gall Cyllid Myfyrwyr Cymru ond derbyn hysbysiad o newid mewn ysgol neu goleg gan y myfyriwr. Os mai chi yw'r ysgol neu'r coleg gwreiddiol a bod y myfyriwr wedi gadael, rhaid i chi stopio ei Gytundeb Dysgu LCA. Bydd taliadau LCA y myfyriwr wedyn yn dod i ben nes iddo ddweud wrthym ei fod wedi symud i ysgol neu goleg newydd.

Unwaith y byddwn wedi cael y manylion trosglwyddo gan y myfyriwr ac yn gallu cwblhau’r trosglwyddiad, bydd yr ysgol neu’r coleg newydd yn gweld manylion y myfyriwr ar Borth y Ganolfan Ddysgu o’r dydd Llun canlynol.

Rhaid i’r ysgol neu’r coleg newydd gadarnhau bod y myfyriwr ar gwrs LCA cymwys. Rhaid iddynt hefyd sefydlu Cytundeb Dysgu LCA newydd gyda'r myfyriwr.


Myfyrwyr yn newid ysgol neu goleg ganol wythnos

Bydd myfyrwyr sy'n newid ysgol neu goleg yng nghanol yr wythnos yn dal i fod yn gymwys ar gyfer y taliad LCA wythnosol, cyn belled â'u bod wedi mynychu pob dosbarth a drefnwyd yr wythnos honno. Mae'n rhaid i'r ysgol neu'r coleg lle y dechreuodd y myfyriwr yr wythnos gadarnhau presenoldeb ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Dylent weithio gyda'r ysgol neu'r coleg newydd i gadarnhau presenoldeb ar gyfer yr wythnos symud.

Er enghraifft, os bydd myfyriwr yn gadael eich ysgol neu goleg ar ddydd Mercher ac yn dechrau ar un arall ddydd Iau yn yr un wythnos, mae’n gymwys i gael LCA. Rhaid i chi gael gwybod gan yr ysgol neu'r coleg newydd os yw’n mynychu'r dydd Iau a'r dydd Gwener hwnnw. Bydd angen y wybodaeth hon arnoch i gadarnhau presenoldeb yr wythnos honno ar Borth y Ganolfan Ddysgu.

Ailadrodd astudio

Os bydd myfyriwr yn symud i Ganolfan Ddysgu arall neu'n newid ei raglen astudio yn sylweddol yn ystod y flwyddyn academaidd, bydd angen i ni gadarnhau os:

  • yw'r myfyriwr yn ailadrodd ei astudiaethau
  • oes rheswm y tu allan i'w reolaeth dros ailadrodd

Pa un bynnag, i fod yn gymwys ar gyfer LCA, rhaid i'r myfyriwr:

  • fod yn astudio’n amser llawn
  • fod wedi llofnodi Cytundeb Dysgu LCA
  • fod yn astudio cwrs addysg bellach dilys

Gwyliau

Cofnodi gwyliau eich Canolfan Ddysgu

Cyn i chi allu cofnodi unrhyw gadarnhad o bresenoldeb, rhaid i chi nodi gwyliau blynyddol eich Canolfan Ddysgu ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Mae hyn yn sicrhau bod y 'rheol dau ddiwrnod' ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd yn cael ei bodloni wrth benderfynu pa wythnosau sy'n gymwys fel wythnosau dysgu LCA.

Gallwch ddefnyddio'r tab Holidays (Gwyliau) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu i gofnodi eich gwyliau. Mae'n rhaid i chi ychwanegu eich holl wyliau, gan gynnwys gwyliau'r haf, ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod cyn iddi ddechrau ym mis Medi. Gallwch ychwanegu gwyliau o fis Mai.

Rhaid i'r gwyliau fod o leiaf 8 wythnos i gyd. Ni fyddwch yn gallu cadarnhau unrhyw bresenoldeb ar gyfer myfyrwyr hyd nes y byddwch wedi cofnodi hyn.

Gallwch ddiystyru'r isafswm o 8 wythnos ar lefel myfyriwr os oes eithriadau. Er enghraifft, gall hyn fod yn berthnasol i fyfyriwr sy'n mynychu lleoliad yn ystod gwyliau fel rhan o'i gwrs.

Y 'rheol dau ddiwrnod’

Mae'r 'rheol dau ddiwrnod' yn golygu bod yn rhaid i fyfyrwyr gael y cyfle i fynychu'r Ganolfan Ddysgu am o leiaf 2 ddiwrnod o unrhyw wythnos i fod yn gymwys ar gyfer LCA. 

Er enghraifft, os yw'r flwyddyn academaidd neu'r tymor newydd yn dechrau naill ai ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher neu ddydd Iau, mae myfyrwyr sy'n mynychu pob dosbarth a drefnwyd neu sydd ag absenoldeb awdurdodedig yn gymwys i gael LCA am yr wythnos gyntaf. Fodd bynnag, os bydd y tymor newydd yn dechrau ar ddydd Gwener, nid yw myfyrwyr yn gymwys i gael LCA am yr wythnos gyntaf.

Mae myfyrwyr yn gymwys i gael taliadau LCA os yw'r Ganolfan Ddysgu ar agor am 2 ddiwrnod ond dim ond ar gyfer un ohonynt y maent wedi'u hamserlennu. Bydd LCA yn daladwy am yr wythnos honno cyn belled â'u bod wedi mynychu eu dosbarthiadau ar yr amserlen.

Ni fydd myfyrwyr nad ydynt wedi'u hamserlennu i fod i mewn o gwbl yn ystod yr wythnos fyrrach yn gymwys i gael taliad. Mae taliad wythnosol y LCA yn seiliedig ar bresenoldeb ac nid ydynt wedi bod yn bresennol.

Presenoldeb

Presenoldeb

Gallwn ond wneud taliadau LCA i fyfyrwyr os:

  • maent wedi llofnodi eu Cytundeb Dysgu LCA

  • maent wedi bodloni’r meini prawf presenoldeb yr ydych wedi’u nodi (neu fod ganddynt absenoldebau awdurdodedig derbyniol)

  • rydych wedi cadarnhau eu presenoldeb ar Borth y Ganolfan Ddysgu

Os nad yw myfyriwr wedi llofnodi ei Gytundeb Dysgu LCA, ni fydd yn cael taliad LCA wythnosol. Yn yr un modd, os nad yw myfyriwr wedi mynychu pob dosbarth neu sesiwn ddysgu, ni fydd yn derbyn taliad wythnosol oni bai eich bod wedi awdurdodi ei absenoldeb.

Rhaid i chi gadw cofnodion o fonitro presenoldeb a phenderfyniadau talu. Mae hyn yn cynnwys manylion absenoldebau awdurdodedig ac anawdurdodedig.

Dyddiad dechrau’r cwrs

Rhaid i chi nodi dyddiad dechrau cwrs y myfyriwr ar Borth y Ganolfan Ddysgu cyn y gallwch gadarnhau ei Gytundeb Dysgu LCA neu ei bresenoldeb.

Dyddiad dechrau sy’n pennu pryd y daw’r myfyriwr yn gymwys i gael taliadau LCA. Er enghraifft, a gafodd gyfle i fynychu am 2 ddiwrnod neu fwy yn ystod yr wythnos gyntaf? Unwaith y byddwch wedi cofnodi'r dyddiad cychwyn ar y porth, ni allwch ei newid.

Os bydd y cwrs yn dechrau ar ddydd Gwener, ni fydd y myfyriwr yn cael y cyfle i fynychu ar 2 ddiwrnod yn ystod yr wythnos gyntaf. Yn yr achos hwn, ni fydd LCA yn daladwy am yr wythnos honno. Bydd y cadarnhad presenoldeb ar gyfer y myfyriwr yn dechrau ar y dydd Llun canlynol. Fodd bynnag, bydd y myfyriwr yn gymwys i gael taliad LCA os yw'r cwrs yn dechrau ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher neu ddydd Iau. Byddwch yn gallu cadarnhau presenoldeb ar gyfer yr wythnos honno i awdurdodi'r taliad.

Cofnodi a choladu presenoldeb

Cofnodi presenoldeb

Gan fod monitro presenoldeb yn rhan mor hanfodol o'r cynllun LCA, gallwch ddefnyddio neu wella eich systemau presennol i gofnodi presenoldeb.

Mae angen cofnodi pob gwiriad presenoldeb, yn barod i'w goladu ar ddiwedd yr wythnos. Gallwch ddefnyddio unrhyw ddull sy'n addas i'ch Canolfan Ddysgu, gan gynnwys cofnodi â llaw neu ar-lein.


Coladu presenoldeb

Mae angen i chi goladu eich data presenoldeb bob wythnos, gan ei fod yn cael ei ddefnyddio i awdurdodi'r taliad LCA wythnosol. Dyma'r dystiolaeth sy'n gadael i chi benderfynu a yw'r myfyriwr yn bresennol ai peidio.

Dylech ddefnyddio'r prosesau sydd gan eich Canolfan Ddysgu eisoes ar gyfer casglu'r data presenoldeb.


Cadarnhad o bresenoldeb ar ddiwedd y flwyddyn academaidd – Mai, Mehefin a Gorffennaf

Mae 3 opsiwn cadarnhau presenoldeb y gallwch eu defnyddio hyd at ddiwedd y flwyddyn academaidd.

  1. In Attendance (Yn bresennol) – mae gan fyfyrwyr hawl i LCA tra byddant yn dysgu. Gall hyn gynnwys astudio amser llawn, absenoldeb astudio a dysgu cyfunol.

  2. Not in attendance (Ddim yn bresennol) – nid yw myfyrwyr yn dysgu ac nid yw eu habsenoldeb wedi'i awdurdodi.

  3. Holiday (Gwyliau) – mae myfyrwyr yn dal ar gofrestr yr ysgol ond ddim yn ymgymryd â dysgu. Ni ddylent felly dderbyn taliadau. Rydym yn argymell defnyddio'r opsiwn hwn ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn dysgu mwyach. Mae hyn yn golygu na fyddant yn derbyn negeseuon testun taliadau a allai fel arall achosi dryswch a gwaith gweinyddol diangen.

Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gymwys i gael taliad ar yr amod eu bod yn dysgu hyd at eu harholiadau terfynol. Os yw'r flwyddyn academaidd yn ymestyn y tu hwnt i ddyddiad terfynol yr arholiad, rydym yn argymell defnyddio'r opsiwn gwyliau. Y rheswm am hyn yw yn gyffredinol ni fydd unrhyw ddysgu pellach bryd hynny.

Amgylchiadau esgusodol

Mae Cytundeb Dysgu LCA yn cynnwys cwestiwn am amgylchiadau esgusodol. Gall hyn ysgogi trafodaeth rhyngoch chi a’r myfyriwr ynghylch a yw’n profi amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar ei bresenoldeb.

Pwrpas hyn yw cefnogi myfyrwyr bregus sydd mewn perygl o beidio â chymryd rhan mewn addysg. Gall hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gyfrifoldebau gofalu, megis gofalu am aelod o'r teulu sy'n sâl neu'n anabl.

Os yw’r myfyriwr wedi amlygu amgylchiadau esgusodol, gallwch nodi hyn ar Gytundeb Dysgu LCA a Phorth y Ganolfan Ddysgu, ond rhaid i chi gael caniatâd y myfyriwr yn gyntaf. Rydym yn argymell eich bod yn dilyn eich prosesau sefydledig eich hun ar gyfer cefnogi myfyrwyr agored i niwed, yn hytrach na chofnodi’r amgylchiadau ar y Cytundeb Dysgu LCA.

Dylech gydnabod yr amgylchiadau pan fyddwch yn cadarnhau presenoldeb wythnosol. Ystyriwch amgylchiadau eich myfyrwyr fesul achos pan fyddwch yn penderfynu a ddylent dderbyn eu taliadau LCA.

Cyflwyno cadarnhad presenoldeb

Unwaith y byddwch wedi penderfynu a oedd myfyriwr yn bresennol ai peidio, rhaid i chi gyflwyno’r cadarnhad presenoldeb ar Borth y Ganolfan Ddysgu trwy ddewis naill ai In Attendance (Yn Bresennol) neu Not In Attendance (Ddim yn bresennol). Dylech wneud hyn yn wythnosol.

Os nad ydych yn siŵr a yw myfyriwr wedi mynychu, rhaid i chi gyflwyno Not In Attendance (Ddim yn bresennol) ar gyfer yr wythnos honno nes bod gennych gadarnhad o bresenoldeb.

Rhaid i bob wythnos academaidd gael cadarnhad o In Attendance (Yn Bresennol), Not In Attendance (Ddim yn bresennol) neu On Holiday (Ar wyliau). Ni ddylech adael hwn yn wag.

Gallwch gyflwyno cadarnhad presenoldeb ar gyfer wythnos benodol rhwng dydd Gwener yr wythnos honno a dydd Mercher yr wythnos ganlynol (cyn 5pm). Mae hyn yn gadael digon o amser i’r taliadau gyrraedd cyfrifon y myfyrwyr erbyn y dydd Llun canlynol.

Newid cadarnhad presenoldeb

Gallwch newid eich cadarnhad presenoldeb gwreiddiol ar ôl ei gyflwyno os:

  • yw penderfyniad absenoldeb wedi newid o benderfyniad absenoldeb heb awdurdod i awdurdodedig

  • yw penderfyniad absenoldeb wedi newid o benderfyniad absenoldeb awdurdodedig i heb awdurdod

  • mae apêl yn erbyn penderfyniad absenoldeb anawdurdodedig yn llwyddiannus

  • bu oedi wrth gyflwyno data presenoldeb ar ran eich Canolfan Ddysgu

Os nad oes gennych dystiolaeth i awdurdodi absenoldeb, dylech nodi nad oedd y myfyriwr yn bresennol hyd nes y bydd gennych ddigon o dystiolaeth ganddo.

Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylech newid absenoldeb o absenoldeb awdurdodedig i anawdurdodedig ac ar ôl i chi adolygu tystiolaeth ddigonol i wneud hynny.

Dweud wrth fyfyrwyr am benderfyniadau presenoldeb

Os nad yw myfyriwr wedi bodloni’r meini prawf presenoldeb, ni fydd yn cael taliad LCA am yr wythnos honno. Rhaid ichi sicrhau eu bod yn deall y rhesymau dros hynny.

Os yw myfyriwr wedi darparu rhif ffôn symudol, bydd yn cael neges destun bob pythefnos i gadarnhau a yw wedi’i farcio’n bresennol at ddibenion LCA ac a fydd yn derbyn taliad.

Os bydd myfyrwyr yn cysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau am eu presenoldeb, byddwn yn dweud wrthynt am ddod atoch yn lle hynny. Mae hyn oherwydd mai eich disgresiwn chi yw penderfynu a yw myfyrwyr yn bresennol ac i awdurdodi taliadau.

Os bydd problem weinyddol yn achosi oedi wrth gyflwyno data presenoldeb, rhaid i chi sicrhau bod eich myfyrwyr LCA yn gwybod am oedi posibl o ran talu. Dylech hefyd gysylltu â'n Desg Gymorth Partneriaid i roi gwybod i ni.

Absenoldeb

Absenoldeb

Dylech gymhwyso polisi presenoldeb ac absenoldeb cyffredinol eich Canolfan Ddysgu i benderfynu a oedd absenoldeb wedi’i awdurdodi neu heb ei awdurdodi. Dylai eich polisi presenoldeb ac absenoldeb fod yr un fath ar gyfer myfyrwyr LCA a myfyrwyr nad ydynt yn LCA. 

Dylech gyflwyno cadarnhad presenoldeb cadarnhaol ar gyfer absenoldeb awdurdodedig ac un negyddol ar gyfer absenoldeb anawdurdodedig.

Rhaid i'r rhesymau dros awdurdodi neu beidio ag awdurdodi absenoldebau fod yn glir. Mae angen i chi gymhwyso'r holl reolau sy'n llywodraethu'r penderfyniadau hyn yn unffurf i bob myfyriwr yn eich Canolfan Ddysgu. Mae hyn yn helpu sicrhau nad oes unrhyw fyfyrwyr yn amau ​​beth yw'r meini prawf a sut y cânt eu cymhwyso.

Absenoldeb awdurdodedig

Gallai’r enghreifftiau canlynol fod yn rhesymau derbyniol dros awdurdodi absenoldebau:

  • ymweliad â diwrnod agored prifysgol neu gyfweliad yn ymwneud â gyrfa

  • lleoliad gwaith, sy’n rhan annatod o gwrs y myfyriwr ac nad yw’r myfyriwr yn cael tâl amdano

  • mynychu angladd, priodas neu seremoni sifil aelod agos o'r teulu 

  • mynychu cyfarfod gwasanaeth prawf

  • tarfu’n ddifrifol ar ddull teithio myfyriwr sy’n gadael y myfyriwr heb unrhyw ddull o deithio i’r ysgol neu’r coleg

  • gwers yrru (ddim yn ystod dosbarthiadau a addysgir)

  • prawf gyrru

  • argyfwng teuluol, megis yr angen i ofalu am aelod o’r teulu – gall hyn fod yn bwysig i fyfyrwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu, fel gofalwyr sy'n ifanc ac yn oedolion ifanc

  • gweithgareddau allgyrsiol sy'n cynrychioli cyflawniad personol arwyddocaol, megis cymryd rhan mewn chwaraeon ar lefel genedlaethol neu sirol neu waith gwirfoddol

  • apwyntiadau meddygol na ellid eu gwneud y tu allan i oriau ysgol neu goleg

  • ar gyfer gofalwyr sy'n ifanc neu’n oedolion ifanc, mynychu apwyntiadau meddygol ar gyfer y sawl y maent yn gofalu amdano

  • teithiau allgyrsiol a drefnir ac a awdurdodir gan y Ganolfan Ddysgu yn ystod y tymor, er enghraifft teithiau sgïo a diwrnodau allan

  • oedi neu ganslo trafnidiaeth gyhoeddus

  • mynychu apwyntiadau gweld llety neu dai pan nad yw hyn ar gael y tu allan i oriau ysgol

  • llofnodi cytundebau a chontractau llety neu dai pan fo angen gwneud hynny yn ystod oriau ysgol

Enghraifft yw'r rhestr hon ac nid yw'n hollgynhwysfawr. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, holwch ein Desg Gymorth Partneriaid.

Dylech asesu pob absenoldeb yn ôl ei rinweddau ei hun, fel y byddech ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn LCA. Er enghraifft, efallai y byddwch yn ystyried y cwestiynau canlynol:

  • Oedd yr absenoldeb yn rhesymol?

  • A gafodd ei ategu gan dystiolaeth ddilys?

  • A yw'r myfyriwr wedi cael llawer o absenoldebau cyn yr un hwn?

  • A yw'r myfyriwr wedi defnyddio'r un rheswm o'r blaen?

  • A yw’r myfyriwr wedi dweud wrthych ymlaen llaw, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol?

Mae’n bosibl y bydd gan rai myfyrwyr, er enghraifft gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc neu fyfyrwyr ag anableddau, amgylchiadau arbennig a allai effeithio’n anochel ar eu presenoldeb. Dylech ystyried yr holl amgylchiadau pan fyddwch yn penderfynu a yw absenoldeb wedi'i awdurdodi neu heb ei awdurdodi.

Absenoldeb heb ei awdurdodi

Nid yw’r rhesymau canlynol yn dderbyniol ar eu pen eu hunain dros awdurdodi absenoldeb:

  • gwyliau, gan fod disgwyl i fyfyrwyr gymryd y rhain y tu allan i amser tymor

  • gwaith rhan-amser neu amser llawn nad yw'n rhan o'r rhaglen astudio

  • gweithgareddau hamdden

  • penblwyddi neu ddathliadau teuluol (heb gynnwys priodasau neu seremonïau sifil)

  • gwarchod brodyr a chwiorydd (heb gynnwys argyfyngau teuluol)

Nid yw'r rhestr hon yn hollgynhwysfawr ac mae ar gyfer arweiniad yn unig.

Salwch

Gallwch gyfrif cyfnodau unigol o salwch fel absenoldeb awdurdodedig os ydych yn argyhoeddedig bod y salwch yn ddilys. Sicrhewch fod y myfyrwyr yn darparu tystiolaeth briodol. Mae gennych hawl i wrthod cais am awdurdodiad os ydych yn amau ​​nad oedd y rheswm yn ddilys.

Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio gweithdrefnau presennol eich Canolfan Ddysgu ar gyfer absenoldebau salwch at ddibenion LCA. Mae hyn yn unol â'r rheol gyffredinol ar gyfer absenoldebau awdurdodedig. Er enghraifft, efallai y bydd myfyriwr yn hunanardystio absenoldeb am hyd at 5 diwrnod, ond yn ôl eich disgresiwn chi yw faint o ardystiadau 5 diwrnod yr ydych yn eu derbyn. Y tu hwnt i'r cyfnod hwn, rhaid i'r myfyriwr gyflwyno tystiolaeth megis tystysgrif feddygol.

Mae LCA wedi'i gynllunio i helpu gyda chostau mynychu cwrs ôl-orfodol mewn ysgol neu goleg addysg bellach. Am y rheswm hwn, nid yw salwch hirdymor yn rheswm derbyniol dros awdurdodi absenoldebau.

Rhaid i chi adolygu unrhyw absenoldeb meddygol o 3 wythnos neu fwy a phenderfynu a ddylid ei gategoreiddio fel salwch tymor hir.

Mewn achosion eithriadol, efallai na fydd myfyriwr cymwys yn gallu bodloni meini prawf presenoldeb y cynllun LCA oherwydd natur ei anabledd. Os yw'n ymddangos bod myfyriwr yn bodloni'r meini prawf achos eithriadol, dylech gysylltu â'n Desg Gymorth Partneriaid.

Absenoldeb cysylltiedig â mamolaeth a thadolaeth

Dylech ddefnyddio eich polisi presenoldeb ac absenoldeb cyffredinol wrth ymdrin â LCA ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn bresennol am resymau’n ymwneud â beichiogrwydd, mamolaeth neu dadolaeth.

Os ydych yn ystyried bod absenoldeb beichiogrwydd, mamolaeth neu dadolaeth yn cael ei awdurdodi, yna bydd LCA yn daladwy. Dylech ddefnyddio eich disgresiwn ar gyfer absenoldeb cysylltiedig â mamolaeth ac asesu pob achos fel un unigryw yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.

Dylech ddefnyddio'r un dull ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn bresennol am resymau'n ymwneud â thadolaeth.

Dylech gymhwyso'ch polisi absenoldeb ar gyfer mamolaeth a thadolaeth yn gyson i'ch holl fyfyrwyr, p'un a ydynt yn derbyn LCA ai peidio.

Cadw cofnodion ac apeliadau

Cadw cofnodion

Telir am y cynllun LCA gan arian cyhoeddus. O'r herwydd, mae'n destun archwiliadau mewnol ac allanol ar lefelau tebyg i gynlluniau addysg eraill sy'n ymwneud ag arian cyhoeddus.

Gall Swyddfa Archwilio Cymru a Llywodraeth Cymru gynnal arolygiadau dilysu ym mhob Canolfan Ddysgu sy’n cymryd rhan yn y cynllun LCA.

Rhaid i chi gadw holl gofnodion ysgol a choleg yn ymwneud â data ariannol am o leiaf 7 mlynedd. Mae hyn yn cynnwys:

  • data myfyrwyr

  • Cytundebau Dysgu LCA

  • absenoldebau awdurdodedig

  • tystiolaeth presenoldeb

  • gohebiaeth mewn perthynas â LCA

  • dogfennaeth ategol o gymhwysedd, megis cwrs a blwyddyn academaidd

  • gwybodaeth rheoli

Mae hyn yn cynnwys cofnodion electronig a phapur.

Yn unol â Deddf Diogelu Data 2018, rhaid i chi gadw eich cofnodion mewn fformat ac amgylchedd diogel ac addas.

Cyngor archwilio

Mae ein tîm archwilio wedi nodi rhai gwallau cyffredin a wneir bob blwyddyn wrth weinyddu'r cynllun LCA. Dyma grynodeb o'u hargymhellion.


Cofnodion presenoldeb anghyson neu goll

Er mwyn gweinyddu'r LCA yn effeithiol, mae'n hanfodol bod eich data presenoldeb yn cael ei godio a'i fewnbynnu'n gywir ar gyfer pob myfyriwr bob wythnos. Mae hyn yn cynnwys hysbysiadau o absenoldeb yn ogystal â phresenoldeb.

Dim ond os oes gennych bresenoldeb llawn neu absenoldebau a gymeradwywyd yn briodol ar ei gyfer y dylech nodi bod myfyriwr yn bresennol am yr wythnos. Mae unrhyw absenoldebau yn anawdurdodedig oni bai y profir fel arall. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw rhoi rheswm pam y dylid awdurdodi ei absenoldeb.


Cytundebau Dysgu LCA sydd wedi dyddio neu wedi'u cwblhau'n anghywir

Dylech bob amser ddefnyddio'r fersiwn diweddaraf o'r templed Cytundeb Dysgu LCA.

Rhaid i'r Cytundeb Dysgu LCA ddangos bod y myfyriwr yn deall y presenoldeb yr ydych yn ei ddisgwyl ganddo yn gyfnewid am ei LCA.


Polisi absenoldeb awdurdodedig LCA yn aneglur neu'n annigonol

Dylai fod gennych bolisi absenoldeb awdurdodedig ar gyfer LCA sy'n glir ac yn rhesymol.

Dylai fod yn unol â'r canllawiau a ddarperir yma a'ch polisi presenoldeb ac absenoldeb cyffredinol. Dylai'r un rheolau fod yn berthnasol i bob myfyriwr, p'un a ydynt yn derbyn LCA ai peidio.

Fodd bynnag, gan fod LCA yn helpu gyda'r costau sy'n codi wrth fynychu cwrs addysgol, ni ddylid awdurdodi absenoldeb oherwydd salwch hirdymor.


Gordalwyd wythnosau gwyliau

Nid yw'r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy'n cael LCA i dderbyn taliadau dros y Nadolig, hanner tymor a gwyliau'r haf a dylech fod yn effro i hyn. Mewn blynyddoedd blaenorol, roedd y rhan fwyaf o ordaliadau o ganlyniad i fyfyrwyr yn cael eu talu mewn camgymeriad tra ar wyliau.

Apeliadau

Mae gan fyfyrwyr yr hawl i apelio am:

  • Hawl LCA
  • rheolau'r cynllun
  • taliadau presenoldeb

Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gwestiynau am swm eu hawl i LCA, dylent gysylltu â Chyllid Myfyrwyr Cymru.

Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gwestiynau am bolisi neu reolau cynllun LCA, dylent anfon e-bost at Lywodraeth Cymru yn isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru.

Eich Canolfan Ddysgu sydd i benderfynu a oes gan fyfyriwr hawl i daliadau LCA wythnosol ar sail presenoldeb ai peidio. Dylai apeliadau am y penderfyniadau hyn ddod atoch chi yn gyntaf felly. Disgwyliwn i chi gael eich proses apelio sefydledig eich hun a gyhoeddir ac sydd ar gael i'ch myfyrwyr.

Dylai unrhyw apeliadau dilynol ynghylch taliadau wythnosol fynd i Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Dileu data targedig mewn swmp

Fel rhan o’n gwaith i gydymffurfio â Deddf Diogelu Data 2018, byddwn yn dileu rhywfaint o wybodaeth o’n systemau nad oes gennym reswm i’w chadw mwyach.

Mae hyn yn cynnwys dileu ceisiadau a gwybodaeth cwsmeriaid lle:

  • ni wnaed taliad erioed
  • mae sbardunau cadw a chyfnodau y cytunwyd arnynt wedi mynd heibio

Mae rhai eithriadau lle byddwn yn cadw’r data am gyfnod hwy, megis achosion o dwyll.

Y sbardunau cadw arferol yw:

  • Ceisiadau LCA sydd heb eu cymeradwyo – diwedd y flwyddyn academaidd gyfredol (31 Awst)

  • Ceisiadau LCA sydd wedi’u cymeradwyo – diwedd y flwyddyn academaidd ganlynol (31 Awst) os nad oes taliad wedi’i wneud

Y cyfnod cadw ar ôl y sbardun yw 6 mis ar gyfer pob cais.

Crynodeb

Crynodeb o'ch cyfrifoldebau

Y prif dasgau sydd angen i chi eu gwneud yw:

  • hyrwyddo ymwybyddiaeth o LCA i bob myfyriwr presennol a darpar fyfyrwyr
  • sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu hadnabod ar Borth y Ganolfan Ddysgu

  • sicrhau bod eich defnyddwyr Porth y Ganolfan Ddysgu wedi'u hyfforddi'n briodol i weinyddu'r LCA

  • sicrhau bod myfyrwyr cymwys yn gwybod sut mae eich ysgol neu goleg yn gweinyddu LCA

  • cadarnhau ar Borth y Ganolfan Ddysgu bod y myfyriwr yn cofrestru ar gwrs cymwys

  • cadarnhau’r dyddiad y mae’r myfyriwr wedi dechrau ei gwrs ar Borth y Ganolfan Ddysgu

  • cadarnhau ar Borth y Ganolfan Ddysgu eich bod chi a’r myfyriwr cymwys wedi llofnodi Cytundeb Dysgu LCA

  • cadw’r holl gofnodion sy’n ymwneud â LCA, gan gynnwys cofnodion presenoldeb a Chytundebau Dysgu LCA, am 7 mlynedd

  • cyflwyno cadarnhad presenoldeb wythnosol ar Borth y Ganolfan Ddysgu, gan ddangos a yw myfyrwyr cymwys yn bresennol at ddibenion LCA ai peidio

  • sicrhau bod myfyrwyr cymwys yn gwybod am broses apelio sefydledig yn eich ysgol neu goleg

  • sicrhau bod eich proses apelio ar gael os yw myfyrwyr am apelio ynghylch llofnodi eu Cytundebau Dysgu LCA neu ynghylch y cadarnhad presenoldeb wythnosol

  • dywedwch wrthym ar unwaith os byddwch yn dod yn ymwybodol y gallai myfyriwr fod yn cyflawni twyll wrth wneud cais am LCA – gallwch ddod o hyd i ganllawiau twyll ar Borth y Ganolfan Ddysgu
  • sicrhewch fod myfyrwyr yn gwybod y gallant ymgeisio ar-lein ond gallant gael cais papur os oes angen

Gallwch ddefnyddio'r Llythyr Dyfarnu y mae pob myfyriwr LCA yn ei dderbyn i'w helpu i'w hadnabod ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Fodd bynnag, cofiwch fod y llythyr hwn yn cynnwys gwybodaeth bersonol ac ariannol, felly mae gan fyfyrwyr yr hawl i wrthod ei ddangos i chi.