Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 29 Hyd 2023
Canllawiau cyflym i’ch helpu i reoli’r cynllun LCA yng Nghymru
Newidiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26
Newidiadau i statws preswyliad sefydlog
Ym mlwyddyn academaidd (BA) 2024/25, i fod yn gymwys am gyllid fel person wedi setlo yn y DU, roedd angen i fyfyriwr fod â statws sefydlog ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf ei gwrs. Roedd hyn oni bai bod ganddynt statws sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS).
O flwyddyn academaidd 2025/26, gall myfyrwyr sydd â statws sefydlog am unrhyw reswm, nid yn unig o dan yr EUSS, ddod yn gymwys i gael cyllid yn ystod eu cwrs. Byddant yn gymwys ar gyfer cyllid o'r dyddiad y byddant yn derbyn statws sefydlog.
Newidiadau i drais neu gam-drin domestig a phartner mewn profedigaeth
Yn flaenorol, dim ond yr unigolion canlynol oedd yn gymwys o dan y categori partneriaid gwarchodedig:
- unigolion (a’u plant) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddynt aros fel dioddefwr trais neu gam-drin domestig
- unigolion (a’u plant) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddynt aros fel partner mewn profedigaeth
Rydym wedi diwygio’r polisi hwn i fod yn gymwys i’r unigolion canlynol:
- unigolion (a’u plant) y rhoddwyd caniatâd iddynt i fynediad neu aros fel dioddefwr trais neu gam-drin domestig
- unigolion (a’u plant) y rhoddwyd caniatâd iddynt i fynediad neu aros fel partner mewn profedigaeth