Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 29 Hyd 2023

Canllawiau cyflym i’ch helpu i reoli’r cynllun LCA yng Nghymru

Canllaw cyflym dilysu


Rydym yn dilysu'r holl alwadau a negeseuon e-bost sy'n dod i mewn i'n Desg Gymorth Partneriaid. Mae hyn yn rhan o'n hadolygiad parhaus o welliant. Mae hefyd yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â gofynion diogelu data.


Gofynion dilysu

Bob tro y byddwch yn cysylltu â ni dros y ffôn neu drwy e-bost, bydd angen 2 o’r canlynol arnom:

  • enw llawn eich Canolfan Ddysgu
  • cyfeirnod eich Canolfan Ddysgu
  • eich enw defnyddiwr ar gyfer Porth y Ganolfan Ddysgu

Beth sydd angen i chi ei wneud

Gwnewch nodyn o gyfeirnod eich Canolfan Ddysgu fel y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer dilysu hyd yn oed os byddwch yn cloi eich hun allan o'ch cyfrif. Sicrhewch eich bod chi a'ch holl gydweithwyr yn gyfarwydd â'r broses ddilysu.


Ble i ddod o hyd i gyfeirnod eich Canolfan Ddysgu

  1. Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu.

  2. Ewch i’r dudalen Home (Hafan) a dewiswch y tab Profiles (Proffiliau).

  3. Mae'r cyfeirnod 7 digid yn y maes External Reference (Cyfeirnod Allanol).


Methu dilysu

Os na allwn ddilysu unrhyw e-byst sy'n dod i mewn, byddwn yn ymateb i ddweud hynny ac yn gofyn am y wybodaeth ddilysu.