Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 29 Hyd 2023
Canllawiau cyflym
Canllawiau cyflym i’ch helpu i reoli’r cynllun LCA yng Nghymru
Dyddiadau pwysig a gwybodaeth ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25
Trothwyon incwm y cartref
Mae LCA yn lwfans prawf modd. Mae’r trothwyon incwm y cartref canlynol yn weithredol yn ystod blwyddyn academaidd 2025/26:
- £23,400 os mai’r myfyriwr yw’r unig blentyn yn y cartref
- £25,974 os oes o leiaf un plentyn dibynnol arall yn gymwys i gael Budd-dal Plant yn y cartref
Dyddiadau pwysig
Dyddiad |
Digwyddiad |
Ebrill 2025 |
Templed Cytundeb Dysgu LCA ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 ar gael ar y Porth Canolfannau Dysgu. |
Haf 2025 |
Gwiriad sampl incwm yn dechrau. |
Haf 2025 |
Porth Canolfan Ddysgu ar gael i symud myfyrwyr nad ydynt yn dychwelyd a chadarnhad o Gytundebau Dysgu LCA ar gyfer y rhai sy'n dychwelyd. |
8 Medi 2025 |
Dechrau blwyddyn academaidd newydd y LCA. |
Tachwedd 2025 |
Gwiriad sampl dibyniaeth yn dechrau. |
Ionawr 2026 |
Cyhoeddi deunyddiau cyhoeddusrwydd 'Yn fuan' ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. |
Mawrth 2026 |
Cyhoeddi llyfr Bach LCA ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. |
Ebrill 2026 |
Cyhoeddi pecynnau cais ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. |
Mai a Mehefin 2026 |
Cyhoeddi Llythyrau Dyfarniad Dychwelwyr ar gyfer myfyrwyr sy'n gymwys i gael LCA ym mlwyddyn academaidd 2026/27. |
31 Awst 2026 |
Y dyddiad cau i ni dderbyn tystiolaeth ategol myfyrwyr ar gyfer ceisiadau blwyddyn academaidd 2026/27. |
Canllaw cyflym diweddaru Cytundebau Dysgu LCA
Gallwch lawrlwytho copi o'r Cytundeb Dysgu LCA o Borth y Ganolfan Ddysgu. Mae hwn ar ffurf PDF, felly gallwch ei gwblhau neu ei gwblhau'n rhannol a'i gadw dros dro. Gallwch gwblhau'r cytundeb ar ffurf copi papur neu'n electronig. Gobeithiwn fod hyn yn helpu arbed amser i chi pan fyddwch chi'n mynd trwy'r broses gyda'ch myfyrwyr.
Ni ddylech newid geiriad na fformat y Cytundeb Dysgu LCA i weddu i'ch Canolfan Ddysgu. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Dewis iaith
Mae’r ffurflen gais LCA a’r ffurflen Cytundeb Dysgu LCA yn gofyn i’r myfyriwr gadarnhau ym mha iaith yr hoffai i ni gysylltu â nhw. Byddwn yn parhau i anfon pob llythyr a dogfen yn y Gymraeg a’r Saesneg at bob myfyriwr. Bydd y dewis iaith yn pennu iaith unrhyw negeseuon testun y byddwn yn eu hanfon atynt.
Unwaith y bydd y dewis hwn wedi'i nodi ar y Cytundeb Dysgu LCA, dylech hefyd ei nodi ar dab Maintain Learning Agreement (Cynnal y Cytundeb Dysgu) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu.
Sut i ddiweddaru Cytundeb Dysgu LCA
Y ffordd gyflymaf o ddod o hyd i unrhyw fyfyrwyr sydd angen cwblhau eu Cytundebau Dysgu LCA yw trwy ddefnyddio'r dangosydd New Approved Applications (Ceisiadau cymeradwy newydd) ar dudalen hafan y porth.
- Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu. Mae'r dangosydd New approved applications (Ceisiadau cymeradwy newydd) ar frig yr Home (Hafan).
- Dewiswch nifer y ceisiadau y mae'r dangosydd yn eu dangos. Mae hyn yn hyperddolen sy'n mynd â chi at restr o fyfyrwyr y mae angen iddynt lofnodi eu Cytundebau Dysgu LCA er mwyn dechrau derbyn taliadau.
- Dewch o hyd i'r myfyriwr rydych chi'n chwilio amdano a dewiswch ei gyfenw. Mae hwn yn hyperddolen a fydd yn mynd â chi i'r tab Maintain Learning Agreement (Cynnal Cytundeb Dysgu) ar gyfer y myfyriwr hwnnw.
- Cwblhewch fanylion Cytundeb Dysgu LCA y myfyriwr, yna dewiswch Save (Cadw).
Y manylion sydd angen i chi eu nodi yw:
- dyddiad cychwyn y cwrs
- math o gwrs
- Cadarnhad Rhan 1
- dewis iaith
- caniatâd i rannu
- amgylchiadau esgusodol os yn berthnasol
Unwaith y byddwch wedi mewnbynnu’r wybodaeth hon, bydd y system yn caniatáu ichi gadarnhau presenoldeb y myfyriwr.
Gallwch hefyd ddiweddaru Cytundebau Dysgu LCA drwy'r adran Worklists (Rhestrau Gwaith) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu.
- Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu.
- Ewch i Worklists (Rhestrau Gwaith) ac agorwch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau).
- Dewiswch y flwyddyn berthnasol o'r gwymplen Academic Year (Blwyddyn Academaidd).
- Ewch i'r gwymplen Application Status (Statws Cais) a dewiswch Approved – outstanding LA (Cymeradwywyd – ALl i gwblhau).
- Dewiswch Search (Chwilio). Bydd hyn yn creu rhestr o fyfyrwyr y mae angen iddynt lofnodi eu Cytundebau Dysgu LCA i ddechrau derbyn taliadau.
Mae’r golofn Days since approval (Dyddiau ers cymeradwyo) yn dangos sawl diwrnod sydd wedi bod ers i ni gymeradwyo cais y myfyriwr. Dylai’r myfyriwr lofnodi ei Gytundeb Dysgu LCA o fewn 10 diwrnod gwaith o’i gymeradwyo neu ddyddiad dechrau’r flwyddyn academaidd rydym wedi dweud wrthych, pa un bynnag sydd hwyraf. - Dewch o hyd i'r myfyriwr rydych chi'n chwilio amdano a dewiswch ei gyfenw. Mae hwn yn hyperddolen a fydd yn mynd â chi i'r tab Maintain Learning Agreement (Cynnal Cytundeb Dysgu) ar gyfer y myfyriwr hwnnw.
- Cwblhewch fanylion Cytundeb Dysgu LCA y myfyriwr, yna dewiswch Save (Cadw).
Dylid llofnodi cytundebau dysgu cyn i chi dorri ar gyfer gwyliau'r haf. Y dyddiad cau ar gyfer eu llofnodi yw diwedd y flwyddyn academaidd. Os na all y myfyriwr wneud hyn oherwydd rhesymau personol cymhellol, rhaid iddo lofnodi erbyn diwedd mis cyntaf (Medi) y flwyddyn academaidd nesaf fan bellaf.
Ffurflen Cytundeb LCA 2025/26


Canllaw cyflym presenoldeb
Gallwch nodi cadarnhad presenoldeb wythnosol rhwng dydd Gwener yr wythnos honno a 5pm ar ddydd Mercher yr wythnos ganlynol.
Rhaid i fyfyrwyr gwblhau a llofnodi eu Cytundebau Dysgu LCA cyn y gallwch gadarnhau eu presenoldeb.
Dylech gymhwyso polisi presenoldeb ac absenoldeb cyffredinol eich Canolfan Ddysgu i unrhyw fyfyrwyr LCA nad ydynt wedi bod yn bresennol. Defnyddiwch y polisi hwn i benderfynu a oedd yr absenoldeb wedi’i awdurdodi neu heb ei awdurdodi.
Os oes gan fyfyriwr absenoldeb awdurdodedig, dylech nodi ei fod yn bresennol ar gyfer yr wythnos ysgol honno.
Gallai absenoldeb awdurdodedig fod yn un o’r canlynol, ond nid yw’n gyfyngedig iddo:
- ymweliad â phrifysgol neu goleg
- mabolgampau ysgol neu gêm
- lleoliad gwaith
- absenoldeb astudio
- argyfwng teuluol
- apwyntiad meddygol
- cau ysgol
Pan fyddwch yn cadarnhau presenoldeb, byddwch yn ymwybodol o unrhyw fyfyrwyr sydd wedi dweud eu bod yn profi amgylchiadau esgusodol ar eu Cytundeb Dysgu LCA. Dylech ystyried yr amgylchiadau hyn i sicrhau nad oes unrhyw fyfyriwr dan anfantais.
Pan edrychwch ar y tab Confirm Attendance (Cadarnhau Presenoldeb) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu, bydd gan y myfyrwyr hyn dic yn y golofn Extenuating Circumstances (Amgylchiadau Esgusodol).
Sut i gadarnhau presenoldeb
- Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu.
- Ewch i'r ardal Worklists (Rhestrau Gwaith).
- Dewiswch Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb).
- Dewiswch yr wythnos rydych am gadarnhau presenoldeb ar ei chyfer.
- Dewiswch Search (Chwilio) i ddod o hyd i’ch rhestr o fyfyrwyr.
- I gadarnhau presenoldeb yn unigol, dewiswch y botwm radio In Attendance (Yn Bresennol), Not In Attendance (Ddim yn Bresennol) neu On Holiday (Ar Wyliau) ar gyfer pob myfyriwr.
- I gadarnhau bod pob myfyriwr yn bresennol, dewiswch Confirm All (Cadarnhau Pawb). Os dewiswch yr opsiwn hwn, nid oes angen i chi drosysgrifo unrhyw fotymau radio Not In Attendance (Ddim yn Bresennol) rydych chi eisoes wedi'u dewis.
- Unwaith y byddwch wedi dewis yr holl opsiynau sydd eu hangen arnoch, dewiswch Save (Cadw).
Os ydych chi wedi colli wythnos wyliau, gallwch ei diweddaru ar y dudalen hon. I wneud hyn, dewiswch y botwm Holiday (Gwyliau) ac yna dewiswch Save (Cadw).
Os ydych chi am gadarnhau presenoldeb lluosog ar gyfer myfyriwr sengl, dewiswch eu cyfenw. Bydd hyn yn mynd â chi i gofnod y myfyriwr lle gallwch chi wneud y newidiadau.
Rhaid i chi gadarnhau presenoldeb bob wythnos. Gall myfyrwyr ddibynnu ar eu taliadau LCA ar gyfer teithio neu gostau eraill sy'n gysylltiedig ag astudio.
Opsiynau statws presenoldeb
Mae In Attendance (Presennol) yn golygu bod y myfyriwr wedi bodloni rheolau presenoldeb eich ysgol neu goleg, gan gynnwys unrhyw absenoldebau awdurdodedig.
Mae Not In Attendance (Ddim yn bresennol) yn golygu nad yw’r myfyriwr wedi bodloni rheolau presenoldeb eich ysgol neu goleg, gan gynnwys absenoldebau anawdurdodedig.
Mae On Holiday (Ar wyliau) yn golygu bod eich Canolfan Ddysgu ar gau yn swyddogol am gyfnod estynedig. Mae hyn yn cynnwys wythnosau hanner tymor, gwyliau'r Pasg a'r Nadolig a gwyliau'r haf. Gallwch osod hwn ymlaen llaw ar dab Holidays (Gwyliau) Porth y Ganolfan Ddysgu.
Newid statws presenoldeb
Bydd dewis cyfenw myfyriwr ar y tab Confirm Attendance (Cadarnhau Presenoldeb) yn mynd â chi at ei hanes presenoldeb blwyddyn academaidd lawn. Gallwch ddiweddaru unrhyw bresenoldeb a farciwyd yn flaenorol yma os oes angen.
Os byddwch yn newid cadarnhad presenoldeb myfyriwr o 'ddim yn bresennol' neu 'ar wyliau' i 'yn bresennol', bydd y myfyriwr yn derbyn taliad wedi’i ôl-ddyddio.
Os byddwch yn newid cadarnhad presenoldeb myfyriwr o 'yn bresennol' i 'ddim yn bresennol' neu 'ar wyliau', bydd y myfyriwr mewn gordaliad. Gall hyn achosi straen i fyfyriwr. Mae'n bwysig iawn felly bod gennych y dystiolaeth, y gofrestr neu'r cadarnhad absenoldeb awdurdodedig cyn i chi nodi bod myfyriwr yn bresennol.
Diweddaru presenoldeb ar wythnos wyliau
Os ydych chi ar y tab Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb) ac yn ceisio newid statws presenoldeb myfyriwr ar wythnos sydd wedi'i nodi fel gwyliau, bydd y system yn rhwystro'r dyraniad.
I ddiweddaru presenoldeb myfyriwr unigol ar wythnos wyliau, dilynwch y camau hyn.
- Ar y tab Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb), dewiswch yr wythnos yr ydych am gadarnhau presenoldeb ar ei chyfer.
- Dewiswch Search (Chwilio) i ddod o hyd i’r rhestr o fyfyrwyr.
- Dewiswch gyfenw’r myfyriwr. Bydd hyn yn agor ei gofnod presenoldeb lle gallwch wneud y newidiadau.
Fel arall, gallwch ddefnyddio'r ardal Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) i chwilio am y myfyriwr ac agor ei gofnod presenoldeb oddi yno.
Os ydych yn cadarnhau bod myfyriwr yn bresennol yn ystod wythnos wyliau, bydd angen i chi nodi nodyn presenoldeb. Bydd hyn yn dweud wrthym pam y dylai'r myfyriwr dderbyn LCA am yr wythnos honno. Y dewisiadau yw:
- summer course (cwrs haf)
- work experience (profiad gwaith)
- study class (dosbarth astudio)
- Prince's Trust (Ymddiriedolaeth y Tywysog)
- other (arall)
Os dewiswch other (arall), bydd angen i chi roi nodyn i ddweud wrthym beth yw'r rheswm penodol.
Canllaw cyflym gwyliau
Rhaid i chi gofnodi gwyliau eich ysgol neu goleg ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod cyn iddo ddechrau ym mis Medi. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y 'rheol dau ddiwrnod' ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd a dychwelyd ar ôl gwyliau yn cael ei hystyried. Mae'n ein helpu i benderfynu pa wythnosau sy'n gymwys fel wythnosau ennill LCA a pha rai sy'n wyliau.
Dechrau'r flwyddyn academaidd a dychwelyd o wyliau swyddogol
I fod yn gymwys am daliad LCA, rhaid i fyfyrwyr fod yn bresennol am o leiaf 2 ddiwrnod yn yr wythnos y maent yn dychwelyd o wyliau neu'n dechrau'r flwyddyn academaidd newydd.
Os bydd y flwyddyn academaidd neu'r tymor newydd yn dechrau ar ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher neu ddydd Iau, mae myfyrwyr yn gymwys i gael taliad LCA am yr wythnos gyntaf. Rhaid iddynt fynychu pob dosbarth ar yr amserlen yn ystod y dyddiau hyn.
Fodd bynnag, os yw'r flwyddyn academaidd neu'r tymor newydd yn dechrau ar ddydd Gwener, nid yw myfyrwyr yn gymwys i gael taliad LCA am yr wythnos gyntaf.
Enghraifft 1
Mae eich ysgol neu goleg yn agor ar ddydd Iau i staff ac ar ddydd Gwener i fyfyrwyr.
Nid yw hon yn wythnos lle gall myfyrwyr fynychu am 2 ddiwrnod neu fwy. Mae hi, felly, yn wythnos wyliau.
Enghraifft 2
Mae eich ysgol neu goleg yn agor ar ddydd Iau i fyfyrwyr. Am resymau gweinyddol, rydych yn gofyn i rai grwpiau blwyddyn ddychwelyd ar y dydd Iau ac eraill ar y dydd Gwener.
Mae myfyrwyr yn cael cyfle i fynychu am 2 ddiwrnod. Felly, mae’n wythnos sy’n ennill LCA.
Nid yw hon yn wythnos wyliau oherwydd ar eich cais chi y dychwelodd rhai grwpiau blwyddyn ar y dydd Gwener yn hytrach na'r dydd Iau.
Enghraifft 3
Cyn gwyliau, dim ond ar 2 ddiwrnod y mae eich ysgol neu goleg ar agor i fyfyrwyr. Nid yw myfyriwr yn mynychu gan nad oes ganddo unrhyw ddosbarthiadau ar y diwrnodau hynny oherwydd ei amserlen arferol.
Gan fod LCA yn seiliedig ar bresenoldeb, ac nad yw'r myfyriwr wedi mynychu yn ystod y 2 ddiwrnod hynny, nid oes ganddo hawl i LCA am yr wythnos honno.
Fodd bynnag, os mai dim ond ar un o'r diwrnodau hynny y mae amserlen y myfyriwr yn gofyn iddo fod yn bresennol, a'i fod yn mynychu, bydd ganddo hawl i LCA am yr wythnos.
Rheolau gwyliau
Rhaid i chi nodi eich gwyliau ar y tab Holidays (Gwyliau) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu.
Mae'n rhaid i chi ychwanegu eich holl wyliau, gan gynnwys gwyliau'r haf, ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod cyn iddi ddechrau ym mis Medi. Gallwch ychwanegu gwyliau o fis Mai. Rhaid i'r gwyliau fod o leiaf 8 wythnos i gyd.
Ni fyddwch yn gallu cadarnhau unrhyw bresenoldeb ar gyfer myfyrwyr hyd nes y byddwch wedi cofnodi hyn.
Gallwch ddiystyru'r isafswm o 8 wythnos ar lefel myfyriwr os oes eithriadau.
Sut i ddiweddaru gwyliau ar Borth y Ganolfan Ddysgu
- Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu.
- Dewiswch Maintenance (Cynnal a Chadw) o'r bar dewislen, yna dewiswch y tab Holidays (Gwyliau).
- Ewch i gwymplen Academic year (Blwyddyn academaidd) a dewiswch y flwyddyn academaidd gyfredol. Gallwch ddiweddaru gwyliau cyn i'r flwyddyn academaidd newydd ddechrau.
- Dewiswch y blwch ticio Holiday (Gwyliau) ar gyfer pob wythnos sy'n wythnos wyliau. Cofiwch mai wythnos wyliau yw pan fydd eich ysgol neu goleg ar gau i fyfyrwyr am 4 diwrnod neu fwy.
- Unwaith y byddwch wedi dewis eich holl wyliau ar gyfer y flwyddyn academaidd, dewiswch Save (Cadw).
Os byddwch yn nodi wythnos fel gwyliau, bydd y system yn nodi presenoldeb holl fyfyrwyr yr wythnos honno yn awtomatig fel On Holiday (Ar wyliau). Nid yw myfyrwyr yn cael taliadau LCA am yr amser y maent ar wyliau.
Neges gwall gwyliau ar y tab Cadarnhau Presenoldeb
Os na fyddwch yn cofnodi o leiaf 8 wythnos o wyliau, ni allwch gadarnhau presenoldeb ar gyfer unrhyw fyfyrwyr. Os ceisiwch gadarnhau presenoldeb heb gofnodi eich gwyliau yn gyntaf, fe gewch y neges gwall hon:
'You cannot confirm attendance as your school or college has not recorded the minimum (eight weeks) number of holidays for the academic year. Click the link below to see more details or correct the issue on the Maintain Holidays screen.'
('Ni allwch gadarnhau presenoldeb gan nad yw eich ysgol neu goleg wedi cofnodi'r isafswm (wyth wythnos) o wyliau ar gyfer y flwyddyn academaidd. Cliciwch ar y ddolen isod i weld mwy o fanylion neu i gywiro'r mater ar y sgrin Cynnal Gwyliau.’)
Canllaw cyflym dileu ac adfer ceisiadau
Dileu cais myfyriwr unigol
Os ydych yn gwybod nad yw myfyriwr yn dychwelyd i'ch Canolfan Ddysgu, dylech ei dynnu oddi ar Borth y Ganolfan Ddysgu.
Yn gyntaf, gwiriwch nad yw'r myfyriwr wedi llofnodi Cytundeb Dysgu LCA. Os yw wedi llofnodi'r cytundeb, rhaid i chi stopio’r cytundeb yn hytrach na dileu'r myfyriwr.
- Ewch i ardal Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) Porth y Ganolfan Ddysgu.
- Dewiswch y tab View Application Details (Gweld manylion cais).
- Cynhaliwch chwiliad i ddod o hyd i gofnod y myfyriwr perthnasol.
- Dewiswch y botwm Remove (Dileu). Bydd hyn yn agor ffenestr naid yn gofyn a ydych chi am gael gwared ar y cais.
- Dewiswch Yes (Iawn). Bydd hyn yn dileu'r myfyriwr ac ni fydd yn ymddangos ar eich Rhestr Waith Ceisiadau mwyach.
Dileu mwy nag un cais myfyriwr ar unwaith
Ar ddechrau blwyddyn academaidd, efallai y bydd gennych nifer o fyfyrwyr nad ydynt bellach yn eich Canolfan Ddysgu. Unwaith y byddwch yn gwybod nad ydynt yn dychwelyd, dylech ddilyn y camau hyn i'w tynnu oddi ar Borth y Ganolfan Ddysgu.
Gwiriwch nad oes unrhyw un o'r myfyrwyr wedi llofnodi Cytundeb Dysgu LCA. Os yw wedi llofnodi'r cytundeb, rhaid i chi stopio’r cytundeb yn hytrach na dileu'r myfyriwr.
- Ewch i ardal Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) Porth y Ganolfan Ddysgu.
- Dewiswch y tab View application details (Gweld manylion cais).
- Agorwch y gwymplen Application Status (Statws Cais) a dewiswch Approved – Outstanding LA (Cymeradwywyd – ALl i Gwblhau).
- Dewiswch Search (Chwilio). Bydd hyn yn codi unrhyw fyfyrwyr nad ydynt wedi llofnodi eu Cytundeb Dysgu LCA eto.
- Ticiwch y blwch ticio Remove (Dileu) ar gyfer pob myfyriwr rydych chi am ei ddileu.
- Dewiswch y botwm Remove (Dileu). Bydd hyn yn agor naidlen gryno sy'n rhestru'r holl fyfyrwyr rydych chi wedi dewis eu dileu.
- Gwiriwch fod y crynodeb yn gywir, yna dewiswch Confirm (Cadarnhau). Bydd hyn yn dileu'r myfyrwyr ac ni fydd yn ymddangos ar eich Rhestr Waith Ceisiadau mwyach.
Adfer cais myfyriwr
Weithiau efallai y bydd angen i chi adfer cais myfyriwr rydych chi wedi'i ddileu’n flaenorol. Dilynwch y camau hyn i'w wneud ar Borth y Ganolfan Ddysgu.
- Ewch i ardal Worklists (Rhestrau Gwaith) Porth y Ganolfan Ddysgu.
- Dewiswch y Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau).
- Agorwch y gwymplen Application Status (Statws Cais) a dewiswch Removed (Wedi'i Ddileu).
- Dewiswch Search (Chwilio). Bydd hyn yn codi unrhyw fyfyrwyr sydd wedi eu dileu.
- Dewiswch gyfenw'r myfyriwr yr ydych am adfer ei gais. Bydd hyn yn mynd â chi at fanylion ei gais.
- Dewiswch y botwm Restore (Adfer). Bydd hyn yn agor ffenestr naid yn gofyn a ydych chi am adfer y cais.
- Dewiswch Yes (Iawn). Bydd hyn yn rhoi'r myfyriwr yn ôl ar eich Rhestr Waith Ceisiadau er mwyn i chi allu diweddaru ei Gytundeb Dysgu LCA.
Canllaw cyflym dilysu
Rydym yn dilysu'r holl alwadau a negeseuon e-bost sy'n dod i mewn i'n Desg Gymorth Partneriaid. Mae hyn yn rhan o'n hadolygiad parhaus o welliant. Mae hefyd yn ein helpu i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â gofynion diogelu data.
Gofynion dilysu
Bob tro y byddwch yn cysylltu â ni dros y ffôn neu drwy e-bost, bydd angen 2 o’r canlynol arnom:
- enw llawn eich Canolfan Ddysgu
- cyfeirnod eich Canolfan Ddysgu
- eich enw defnyddiwr ar gyfer Porth y Ganolfan Ddysgu
Beth sydd angen i chi ei wneud
Gwnewch nodyn o gyfeirnod eich Canolfan Ddysgu fel y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer dilysu hyd yn oed os byddwch yn cloi eich hun allan o'ch cyfrif. Sicrhewch eich bod chi a'ch holl gydweithwyr yn gyfarwydd â'r broses ddilysu.
Ble i ddod o hyd i gyfeirnod eich Canolfan Ddysgu
- Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu.
- Ewch i’r dudalen Home (Hafan) a dewiswch y tab Profiles (Proffiliau).
- Mae'r cyfeirnod 7 digid yn y maes External Reference (Cyfeirnod Allanol).
Methu dilysu
Os na allwn ddilysu unrhyw e-byst sy'n dod i mewn, byddwn yn ymateb i ddweud hynny ac yn gofyn am y wybodaeth ddilysu.
Canllaw cyflym amgylchiadau esgusodol
Mae'r ffurflen Cytundeb Dysgu LCA yn gofyn a yw myfyriwr yn profi 'amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar bresenoldeb'. Mae’r cwestiwn hwn yn helpu amlygu myfyrwyr sy’n agored i niwed fel y gallwch eu cefnogi os yw eu hamgylchiadau’n effeithio’n anochel ar eu presenoldeb.
Gall amgylchiadau esgusodol gynnwys cyfrifoldebau gofalu ac anabledd, ond nid ydynt yn gyfyngedig i'r rhain. Nid oes angen i fyfyrwyr ddarparu tystiolaeth i brofi eu hamgylchiadau esgusodol, ond gallwch ofyn am dystiolaeth os bydd angen.
Os ydych yn cael unrhyw drafodaethau gyda’r myfyriwr am ei amgylchiadau esgusodol, gallwch ychwanegu’r wybodaeth hon i’r maes Notes (Nodiadau) ar y tab Maintain Learning Agreement (Cynnal Cytundeb Dysgu) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu. Cyn y gallwch ychwanegu nodyn, rhaid i chi gael caniatâd y myfyriwr i wneud hynny.
Marcio presenoldeb
Os yw’r myfyriwr wedi dweud ei fod yn profi amgylchiadau esgusodol, bydd y botwm radio Extenuating Circumstances (Amgylchiadau Esgusodol) yn cael ei ddewis ar ei gyfer ar y tab Maintain Learning Agreement (Cynnal Cytundeb Dysgu) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu.
Bydd hyn yn eich atgoffa i ystyried sefyllfa’r myfyriwr pan fyddwch yn marcio presenoldeb. Dylech adolygu amgylchiadau unigol i sicrhau nad yw'r myfyriwr yn cael ei farcio'n ddiangen fel un nad yw'n bresennol.
Fodd bynnag, nid yw myfyriwr yn dewis amgylchiadau esgusodol yn golygu y dylech bob amser eu marcio'n awtomatig fel presennol. Chi sy'n gyfrifol am gyflwyno cadarnhad presenoldeb cywir bob wythnos.
Pan fyddwch yn trafod amgylchiadau esgusodol y myfyriwr, mae’n arfer gorau i ddarganfod a oes unrhyw adnoddau eraill i’w cefnogi.
Gallai ychwanegu nodyn at gofnod y myfyriwr hefyd eich helpu i benderfynu sut i gyflwyno cadarnhad presenoldeb yn y dyfodol.
Canllaw cyflym taliad Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
Mae'r tabl yn dangos pryd y dylai myfyrwyr ddisgwyl taliadau EMA am gyfnodau penodol o bresenoldeb.
Byddwn ond yn gwneud i daliadau ddechrau unwaith y dywedwyd wrthym fod dysgwyr wedi llofnodi eu Cytundeb LCA a'u bod yn bresennol fel y cytunwyd. Ni fydd myfyrwyr yn cael eu talu am unrhyw gyfnod pan nad ydynt yn mynychu eu cwrs gan gynnwys gwyliau.
Canllaw cyflym taliad Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA)
Mynychu yn ystodyr wythnos(au) yngorffen ar |
Dyddiadau talu |
22 Awst 2025 29 Awst 2025 |
08 Medi 2025 |
05 Medi 2025 12 Medi 2025 |
22 Medi 2025 |
19 Medi 2025 26 Medi 2025 |
06 Hydref 2025 |
03 Hydref 2025 10 Hydref 2025 |
20 Hydref 2025 |
17 Hydref 2025 24 Hydref 2025 |
03 Tachwedd 2025 |
31 Hydref 2025 07 Tachwedd 2025 |
17 Tachwedd 2025 |
14 Tachwedd 2025 21 Tachwedd 2025 |
01 Rhagfyr 2025 |
28 Tachwedd 2025 05 Rhagfyr 2025 |
15 Rhagfyr 2025 |
12 Rhagfyr 2025 29 Rhagfyr 2025 |
29 Rhagfyr 2026 |
26 Rhagfyr 2025 02 Ionawr 2026 |
12 Ionawr 2026 |
09 Ionawr 2026 16 Ionawr 2026 |
26 Ionawr 2026 |
23 Ionawr 2026 30 Ionawr 2026 |
09 Chwefror 2026 |
06 Chwefror 2026 13 Chwefror 2026 |
23 Chwefror 2026 |
20 Chwefror 2026 27 Chwefror 2026 |
09 Mawrth 2026 |
06 Mawrth 2026 13 Mawrth 2026 |
23 Mawrth 2026 |
20 Mawrth 2026 27 Mawrth 2026 |
07 Ebrill 2026 |
03 Ebrill 2026 10 Ebrill 2026 |
20 Ebrill 2026 |
17 Ebrill 2026 24 Ebrill 2026 |
05 Mai 2026 |
01 Mai 2026 08 Mai 2026 |
18 Mai 2026 |
15 Mai 2026 22 Mai 2026 |
01 Mehefin 2026 |
29 Mai 2026 05 Mehefin 2026 |
15 Mehefin 2026 |
12 Mehefin 2026 19 Mehefin 2026 |
29 Mehefin 2026 |
26 Mehefin 2026 03 Gorffennaf 2026 |
13 Gorffennaf 2026 |
10 Gorffennaf 2026 17 Gorffennaf 2026 |
27 Gorffennaf 2026 |
24 Gorffennaf 2026 31 Gorffennaf 2026 |
10 Awst 2026 |
Newidiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25
Bu newidiadau i rai categorïau cymhwyster preswylio o flwyddyn academaidd 2024/25.
Aelodau o deulu Gwladolion Wcráin
- O flwyddyn academaidd 2024/25, bydd aelodau teulu deiliaid caniatâd Cynllun Wcráin yn gymwys i wneud cais am gymorth AB.
Aelodau o deulu Dinasyddion Affganistan
- O flwyddyn academaidd 2024/25, bydd aelodau teulu’r rhai a gafoddganiatâd o dan yr ARAP (Polisi Adleoli a Chynorthwyo Affganiaid) neu ACRS (Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan) yn gymwys i wneud cais am gymorth AB heb unrhyw ofyniad iddynt fod wedi cael caniatâd oherwydd llinach.
Parhad cymorth i fyfyrwyr pan fydd caniatâd wedi dod i ben:
- Cynllun yr Wcráin yn dod i ben – Byddwn yn gwneud newidiadau i’n canllawiau i’w gwneud yn glir y gall pobl sydd â chaniatâd Cynllun yr Wcrain barhaui gael cymorth unwaith y daw’r caniatâd gwreiddiol i ben, os oes ganddynt statws mewnfudo cyfreithlon newydd yn y Deyrnas Unedig.
- Dinasyddiaeth Brydeinig/Wyddelig - Byddwn yn gwneud newidiadau i sicrhau nad yw myfyrwyr sy’n caffael dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig yn ystod eu hastudiaethau, yn lle gwneud cais am ganiatâd pellach i aros, yn cael eu heffeithio gan y ddarpariaeth terfynu.
Newidiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26
Newidiadau i statws preswyliad sefydlog
Ym mlwyddyn academaidd (BA) 2024/25, i fod yn gymwys am gyllid fel person wedi setlo yn y DU, roedd angen i fyfyriwr fod â statws sefydlog ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf ei gwrs. Roedd hyn oni bai bod ganddynt statws sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS).
O flwyddyn academaidd 2025/26, gall myfyrwyr sydd â statws sefydlog am unrhyw reswm, nid yn unig o dan yr EUSS, ddod yn gymwys i gael cyllid yn ystod eu cwrs. Byddant yn gymwys ar gyfer cyllid o'r dyddiad y byddant yn derbyn statws sefydlog.
Newidiadau i drais neu gam-drin domestig a phartner mewn profedigaeth
Yn flaenorol, dim ond yr unigolion canlynol oedd yn gymwys o dan y categori partneriaid gwarchodedig:
- unigolion (a’u plant) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddynt aros fel dioddefwr trais neu gam-drin domestig
- unigolion (a’u plant) y rhoddwyd caniatâd amhenodol iddynt aros fel partner mewn profedigaeth
Rydym wedi diwygio’r polisi hwn i fod yn gymwys i’r unigolion canlynol:
- unigolion (a’u plant) y rhoddwyd caniatâd iddynt i fynediad neu aros fel dioddefwr trais neu gam-drin domestig
- unigolion (a’u plant) y rhoddwyd caniatâd iddynt i fynediad neu aros fel partner mewn profedigaeth