Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Rhestrau gwaith
Worklists (Rhestrau gwaith)
Mae'r rhan hon o'r porth yn gadael i chi adolygu a diweddaru'r holl geisiadau, ffurflenni Cytundeb Dysgu LCA a phresenoldeb mewn un lle. Gallwch ddefnyddio 3 rhestr waith i wneud hyn.
Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau)
Mae'r rhestr waith hon yn caniatáu ichi weld y ceisiadau a'u statws. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i gael gwared ar fyfyrwyr mewn swmp.
EMA Learning Agreement Worklist (Rhestr Waith Cytundeb Dysgu LCA)
Mae'r rhestr waith hon yn gadael i chi weld a diweddaru pob Cytundeb Dysgu LCA. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i atal neu ohirio Cytundebau Dysgu LCA.
Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb)
Mae'r rhestr waith hon yn gadael i chi gadarnhau presenoldeb ar gyfer pob myfyriwr.
Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r rhestrau gwaith hyn ym mhenodau nesaf y canllaw hwn.