Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023

Rhestrau gwaith

Stopio Cytundeb Dysgu LCA


Rhaid i chi nodi dyddiad wythnos yn terfynu pan fyddwch yn stopio Cytundeb Dysgu LCA. Unwaith y byddwch wedi stopio cytundeb, ni allwch ei ail-greu.

Dim ond os yw'r myfyriwr yn tynnu'n ôl o'ch Canolfan Ddysgu yn barhaol y dylech stopio Cytundeb Dysgu LCA. Os nad ydych yn siŵr a yw'r tynnu'n ôl yn barhaol, gadewch y cofnod wedi'i atal hyd nes y gallwch gadarnhau hyn.

Os ydych yn atal y cytundeb oherwydd bod y myfyriwr wedi marw, dywedwch wrth ein Desg Gymorth Partneriaid.

  1. Agorwch y Learning Agreement Worklist (Rhestr Waith Cytundeb Dysgu) a rhedeg chwiliad i ddod o hyd i'r myfyriwr perthnasol.

  2. Dewiswch gyfenw'r myfyriwr yn y canlyniadau chwilio i agor ei fanylion Cytundeb Dysgu LCA.

  3. Dewiswch Stop (Stopio) a nodwch y dyddiad dod i rym.

  4. Dewiswch Save (Cadw). Bydd hyn yn agor ffenestr naid lle gallwch gadarnhau'r newid.

Bydd Porth y Ganolfan Ddysgu yn dangos pwy sydd wedi stopio Cytundeb Dysgu LCA. Os oedd yn rhywun o'n Desg Gymorth Partneriaid, bydd yn dangos fel SLC. Os oedd yn un o ddefnyddwyr eich Canolfan Ddysgu, bydd yn dangos fel LC.