Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Rhestrau gwaith
Learning Agreement Worklist (Rhestr Waith Cytundeb Dysgu)
Gallwch ddefnyddio Learning Agreement Worklist (Rhestr Waith y Cytundeb Dysgu) i:
- ddiweddaru Cytundebau Dysgu LCA
- stopio, atal neu adfer Cytundebau Dysgu LCA
I weld pob cais, ewch i Worklists (Rhestrau Gwaith), agorwch y tab Learning Agreement Worklist (Rhestr Waith Cytundebau Dysgu) a dewiswch Search (Chwilio). Gallwch hefyd ddefnyddio'r meini prawf chwilio canlynol i gyfyngu'r canlyniadau:
- blwyddyn academaidd
- cyfeirnod cwsmer
- enw cyntaf ac olaf
- dyddiad geni
- grwpiau
- dyddiau ers cymeradwyo
- Statws Cytundeb Dysgu
- Cadarnhad Rhan 1
Mae'r cyfenwau yn y canlyniadau chwilio hefyd yn hyperddolenni. Bydd dewis cyfenw yn mynd â chi i gofnod y myfyriwr lle gallwch chi wneud y newidiadau angenrheidiol.
Allgludo Rhestr Waith Cytundeb Dysgu
Mae swyddogaeth allgludo hefyd ar gael o’r sgrin rhestr waith cytundeb dysgu. Mae hyn yn golygu y gallwch allgludo rhestr waith y cytundeb dysgu i'ch systemau lleol eich hun.
Dylech bob amser ddefnyddio'r allgludiad hwn yn unol â'r Cytundeb Rhannu Data a gedwir rhwng y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a'r Canolfannau Dysgu. Mae pob parti yn ymroi i’r llall y bydd yn cydymffurfio, ble fo'n berthnasol, gyda rhwymedigaethau'r Rheolydd dan ddarpariaethau'r GDPR y DU ac yn ymrwymo y bydd yn prosesu Data Personol angenrheidiol i gyflawni ei rwymedigaethau dan y Cytundeb yn unig yn unol â Chyfreithiau Diogelu Data.
Mae hyn yn golygu mai dim ond am gyhyd ag sydd ei angen arnoch y gallwch gadw data personol er mwyn iddo gael ei ddefnyddio at y diben a nodwyd, a dylech bob amser ddileu’r data o restr waith y cytundeb dysgu cyn gynted ag y byddwch wedi’i ddefnyddio yn ôl yr angen.