Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023

Rhestrau gwaith

Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb)


Gallwch ddefnyddio’r Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb) i gadarnhau presenoldeb mewn swmp neu’n unigol. Gallwch hefyd gadarnhau presenoldeb lluosog ar gyfer myfyriwr sengl.


Cadarnhau presenoldeb pob myfyriwr

  1. Ewch i Worklists (Rhestrau Gwaith) ac agorwch y tab Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb).

  2. Agorwch y gwymplen Week Commencing/Ending (Wythnos yn Dechrau/Diweddu) a dewiswch yr wythnos rydych chi am ei diweddaru.

  3. Dewiswch Search (Chwilio). Bydd hyn yn dod â rhestr i fyny o'r holl fyfyrwyr sydd angen cadarnhad presenoldeb ar gyfer yr wythnos honno.

  4. Os ydych chi am gadarnhau bod pob myfyriwr yn bresennol am yr wythnos honno, dewiswch Confirm All (Cadarnhau Pawb), yna dewiswch Save (Cadw).

Os ydych chi wedi colli wythnos wyliau, gallwch chi hefyd ei diweddaru yma. I wneud hyn, dewiswch Holiday (Gwyliau), yna dewiswch Save (Cadw).


Cadarnhau presenoldeb yn unigol

  1. Ewch i Worklists (Rhestrau Gwaith) ac agorwch y tab Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb).

  2. Agorwch y gwymplen Week Commencing/Ending (Wythnos yn Dechrau/Diweddu) a dewiswch yr wythnos rydych chi am ei diweddaru.

  3. Dewiswch Search (Chwilio). Bydd hyn yn dod â rhestr i fyny o'r holl fyfyrwyr sydd angen cadarnhad presenoldeb ar gyfer yr wythnos honno.

  4. Ewch i'r golofn Attendance Status (Statws Presenoldeb) a dewiswch y botwm radio perthnasol ar gyfer pob myfyriwr. Yr opsiynau yw In Attendance (Presennol), Not In Attendance (Ddim yn Bresennol) ac On Holiday (Ar Wyliau).

  5. Unwaith y byddwch wedi dewis y botymau radio perthnasol ar gyfer pob myfyriwr, dewiswch Save (Cadw).

Cadarnhau presenoldeb lluosog ar gyfer myfyriwr sengl

  1. Ewch i Worklists (Rhestrau Gwaith) ac agorwch y tab Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb).

  2. Agorwch y gwymplen Week Commencing/Ending (Wythnos yn Dechrau/Diweddu) a dewiswch yr wythnos rydych chi am ei diweddaru.

  3. Dewiswch Search (Chwilio). Bydd hyn yn dod â rhestr i fyny o'r holl fyfyrwyr sydd angen cadarnhad presenoldeb ar gyfer yr wythnos honno.

  4. Dewiswch gyfenw’r myfyriwr perthnasol. Bydd hyn yn mynd â chi i'w cyfrif lle gallwch ddewis opsiwn presenoldeb ar gyfer pob wythnos.