Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Rhestrau gwaith
Atal Cytundeb Dysgu LCA
Dylech atal Cytundeb Dysgu LCA myfyriwr dros dro os yw i ffwrdd o’ch Canolfan Ddysgu am gyfnod estynedig. Gallai hyn fod oherwydd salwch tymor hir neu gyfnod o LCA anghymwys, megis lleoliad gwaith â thâl.
Dylech hefyd atal myfyriwr os nad ydych yn siŵr beth sydd wedi digwydd ac a fydd yn dychwelyd i’ch Canolfan Ddysgu.
- Agorwch y Learning Agreement Worklist (Rhestr Waith Cytundeb Dysgu) a rhedeg chwiliad i ddod o hyd i'r myfyriwr perthnasol.
- Dewiswch gyfenw'r myfyriwr yn y canlyniadau chwilio i agor ei fanylion Cytundeb Dysgu LCA.
- Dewiswch Suspend (Atal) a nodwch y dyddiad dod i rym.
- Dewiswch Save (Cadw). Bydd hyn yn agor ffenestr naid lle gallwch gadarnhau'r newid.
Bydd Porth y Ganolfan Ddysgu yn dangos pwy sydd wedi atal Cytundeb Dysgu LCA. Os oedd yn rhywun o'n Desg Gymorth Partneriaid, bydd yn dangos fel SLC. Os oedd yn un o ddefnyddwyr eich Canolfan Ddysgu, bydd yn dangos fel LC.