Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Rhestrau gwaith
Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau)
I weld pob cais, ewch i Worklists (Rhestrau Gwaith), agorwch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau) a dewiswch Search (Chwilio).
Gallwch hefyd ddefnyddio'r meini prawf chwilio canlynol i gyfyngu'r canlyniadau:
- cyfeirnod cwsmer
- enw cyntaf ac olaf
- dyddiad geni
- grwpiau
- statws cais
- dyddiau ers cymeradwyo
Gallwch weld ceisiadau sydd ar y camau canlynol:
- yn aros am wybodaeth
- yn cael ei brosesu
- wedi’i gymeradwyo
- diddymwyd
- cymeradwywyd – Cytundeb Dysgu heb ei gwblhau
Mae ceisiadau yn y camau canlynol wedi'u heithrio:
- yn aros am wrthodiad
- gwrthodwyd
Mae'r cyfenwau yn y canlyniadau chwilio hefyd yn hyperddolenni. Bydd dewis cyfenw yn mynd â chi at gofnod y myfyriwr.
O bryd i'w gilydd, efallai y bydd eich chwiliad yn dod ag enw nad ydych yn ei adnabod fel myfyriwr yn eich Canolfan Ddysgu. Mae'n bosibl bod y myfyriwr wedi tynnu'n ôl ac ymuno â Chanolfan Ddysgu arall heb ddweud wrthym. Efallai y byddan nhw hefyd wedi gadael Canolfan Ddysgu arall ac wedi cofrestru yn eich un chi heb i chi gael gwybod.
Allgludo Rhestr Waith Ceisiadau
Mae swyddogaeth allgludo hefyd ar gael o’r sgrin rhestr waith cytundeb dysgu. Mae hyn yn golygu y gallwch allgludo rhestr waith y cytundeb dysgu i'ch systemau lleol eich hun.
Dylech bob amser ddefnyddio'r allgludiad hwn yn unol â'r Cytundeb Rhannu Data a gedwir rhwng y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a'r Canolfannau Dysgu. Mae pob parti yn ymroi i’r llall y bydd yn cydymffurfio, ble fo'n berthnasol, gyda rhwymedigaethau'r Rheolydd dan ddarpariaethau'r GDPR y DU ac yn ymrwymo y bydd yn prosesu Data Personol angenrheidiol i gyflawni ei rwymedigaethau dan y Cytundeb yn unig yn unol â Chyfreithiau Diogelu Data.
Mae hyn yn golygu mai dim ond am gyhyd ag sydd ei angen arnoch y gallwch gadw data personol er mwyn iddo gael ei ddefnyddio at y diben a nodwyd, a dylech bob amser ddileu’r data o restr waith y cytundeb dysgu cyn gynted ag y byddwch wedi’i ddefnyddio yn ôl yr angen.
Days since approval (Dyddiau ers cymeradwyo)
Gallwch ddefnyddio'r opsiwn Days since approval (Dyddiau ers cymeradwyo) i gyfrifo pryd y bydd y cyfnod o 10 diwrnod gwaith i lofnodi Cytundeb Dysgu LCA yn dechrau.
Mae gan fyfyrwyr 10 diwrnod gwaith i lofnodi eu cytundeb. Rydym yn dechrau cyfrif hyn o'r diwrnod y caiff eu cais ei gymeradwyo neu'r diwrnod y bydd blwyddyn academaidd LCA yn dechrau, p'un bynnag sydd hwyraf. Byddwn yn dweud wrthych beth yw dyddiad dechrau blwyddyn academaidd LCA, fel arfer ym mis Awst, cyn i'r flwyddyn academaidd ddechrau. Rydym hefyd wedi ychwanegu’r opsiwn Days since approval (Dyddiau ers cymeradwyo) i’r porth i’ch helpu i gyrraedd y safon gwasanaeth 10 diwrnod.
Mae nifer y dyddiau yn y canlyniadau chwilio hefyd yn hyperddolen. Bydd dewis hwn yn mynd â chi’n syth at Gytundeb Dysgu LCA y myfyriwr.
Auto Rollover (Treiglo Awtomatig)
Mae'r dangosydd Auto Rollover (Treigl Awtomatig) yn dangos pan fydd myfyriwr sy’n dychwelyd cymwys wedi'i drosglwyddo'n awtomatig i'r flwyddyn academaidd newydd.
Byddwn yn trosglwyddo unrhyw fyfyrwyr cymwys sy'n dychwelyd yn awtomatig, ond gallwch ddileu ac adfer ceisiadau yn ôl yr angen.