Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Cynnal a chadw
Creu a dirwyn i ben cyfrifon defnyddwyr
Sut i greu cyfrif defnyddiwr newydd
- Ewch i ardal Maintenance (Cynnal a Chadw) Porth y Ganolfan Ddysgu ac agorwch y tab Users (Defnyddwyr).
- Dewiswch Create new (Creu newydd).
- Rhowch fanylion y defnyddiwr newydd: First name (Enw cyntaf), Surname (Cyfenw), Email (E-bost) a Telephone number (Rhif Ffôn).
- Dewiswch y blwch ticio priodol i ddyrannu rôl mynediad defnyddiwr. Administrator (Gweinyddwr) yw hwn fel arfer.
- Dewiswch Continue (Parhau). Bydd hyn yn agor sgrin gadarnhau lle gallwch adolygu'r manylion.
- Os yw'r holl fanylion yn gywir, dewiswch Submit (Cyflwyno) i orffen creu'r defnyddiwr.
Bydd y system wedyn yn e-bostio'r enw defnyddiwr a chyfrinair dros dro i’r defnyddiwr newydd. Bydd y defnyddiwr yn ymddangos ar y rhestr o ddefnyddwyr yn eich Canolfan Ddysgu.
Gallwch hefyd ddewis copïo manylion y defnyddiwr newydd i'r tab Profiles (Proffiliau). Bydd hyn yn ychwanegu'r defnyddiwr newydd at ein rhestr bostio fel y gallant ddechrau derbyn e-byst gan eich Rheolwr Cyfrif LCA.
Sut i ddirwyn hen gyfrif defnyddiwr i ben
Dylech ddirwyn unrhyw hen gyfrifon i ben unwaith nad oes angen mynediad i'r porth ar y defnyddiwr mwyach.
- Ewch i ardal Maintenance (Cynnal a Chadw) Porth y Ganolfan Ddysgu ac agorwch y tab Users (Defnyddwyr).
- Dewch o hyd i'r cyfrif sydd ei angen arnoch i ddod i ben a dewiswch Edit (Golygu).
- Dewiswch Expire account (Dirwyn i ben cyfrif).