Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Chwiliad cwsmeriaid
Diweddaru manylion Cytundeb Dysgu LCA
- Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu.
- Dewiswch Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) o'r bar dewislen.
- Rhedwch chwiliad i ddod o hyd i'r myfyriwr yr ydych am ddiweddaru ei gytundeb.
- Agorwch y tab Maintain Learning Agreement (Cynnal Cytundeb Dysgu) ac ewch i'r adran Agreement Details (Manylion Cytundeb).
- O dan Part 1 Confirmation (Cadarnhad Rhan 1), dewiswch y botwm radio Yes (Do) i gadarnhau bod y myfyriwr wedi llofnodi Rhan 1 o Gytundeb Dysgu LCA. Dewiswch No (Na) os yw'r myfyriwr wedi gwrthod ei lofnodi. Peidiwch â dewis y naill na'r llall os na chymerwyd unrhyw gamau ar gyfer Rhan 1 o'r Cytundeb Dysgu LCA.
Os dewiswch No (Na), ni fydd y myfyriwr yn ymddangos yn y tab Cadarnhau Presenoldeb. Os dewiswch Yes (Do), bydd y maes Date (Dyddiad) yn dangos dyddiad cadarnhau Rhan 1 y cytundeb.
- Unwaith y byddwch wedi nodi'r holl wybodaeth berthnasol, dewiswch Save (Cadw).
Dylid llofnodi cytundebau dysgu cyn i chi dorri ar gyfer gwyliau'r haf. Y dyddiad cau ar gyfer eu llofnodi yw diwedd y flwyddyn academaidd. Os na all y myfyriwr wneud hyn oherwydd rhesymau personol cymhellol, rhaid iddo lofnodi erbyn diwedd mis cyntaf (Medi) y flwyddyn academaidd nesaf fan bellaf.
Dyddiad dechrau’r cwrs
Rhaid i chi nodi dyddiad cychwyn cwrs y myfyriwr cyn iddynt lofnodi eu Cytundeb Dysgu LCA neu i chi gadarnhau eu presenoldeb.
Dyddiad dechrau’r cwrs sy’n pennu pryd y daw’r myfyriwr yn gymwys i gael taliadau LCA.
Unwaith y byddwch wedi nodi'r dyddiad hwn, ni fyddwch yn gallu ei newid.
Y dyddiad dechrau sy’n pennu pryd y daw’r myfyriwr yn gymwys i gael LCA, ac a yw’n gymwys i gael unrhyw daliadau wedi’u hôl-ddyddio. Bydd y dyddiad hwn yn cael ei gysylltu â 'dyddiad derbyn cais' y myfyriwr. Os yw’r myfyriwr wedi gwneud cais o fewn 13 wythnos i ddechrau ei gwrs, efallai y bydd ganddo hawl i gael hyd at 13 wythnos o daliadau wedi’u hôl-ddyddio.
Enghraifft
Dyddiad dechrau’r cwrs: 8 Medi 2024
Dyddiad dechrau myfyriwr: 4 Hydref 2024
Dyddiad Derbyn y cais: 1 Tachwedd 2024
Efallai y bydd gan y myfyriwr hawl i daliadau wedi’u hôl-ddyddio o 4 Hydref (tua 4 wythnos) gan ei fod wedi gwneud cais o fewn 13 wythnos i ddechrau ei gwrs.
Math o gwrs
Rhaid i chi hefyd ddewis y cwrs y mae'r myfyriwr yn ei astudio o'r gwymplen Course Type (Math o Gwrs). Rydym wedi rhagddiffinio’r cyrsiau yn y gwymplen hon mewn ymgynghoriad â Chanolfannau Dysgu yng Nghymru.
Amgylchiadau esgusodol
Gall myfyrwyr amlygu eu bod yn profi amgylchiadau esgusodol ar eu Cytundeb Dysgu LCA.
Gallwch ddewis y botwm radio Extenuating Circumstances (Amgylchiadau esgusodol) i gofnodi hyn ar y tab Maintain Learning Agreement (Cynnal Cytundeb Dysgu).
Cofnodi caniatâd i rannu
Os bydd myfyriwr yn rhoi caniatâd i chi drafod ei LCA gyda’i riant neu warcheidwad ar ei Gytundeb Dysgu LCA, gallwch gofnodi hyn ar dab Cytundeb Dysgu’r porth.
Dewiswch y botwm radio Consent to share (Caniatâd i rannu) pan fyddwch yn cadarnhau bod y myfyriwr wedi llofnodi ei Gytundeb Dysgu LCA.
Cofnodi dewis iaith y myfyriwr
Gall pob myfyriwr ddewis Cymraeg neu Saesneg fel eu dewis iaith ar y ffurflen gais. Bydd y Ffurflen Cytundeb Dysgu LCA hefyd yn gofyn yr un cwestiwn.
Pan fydd y myfyriwr yn cadarnhau ei ddewis iaith, bydd angen i chi gofnodi hyn ar y tab Maintain Learning Agreement (Cynnal Cytundeb Dysgu), ynghyd â'r wybodaeth arall yn ei Gytundeb Dysgu LCA. Bydd hyn yn gadael i ni anfon negeseuon testun i fyfyrwyr am eu taliadau LCA yn eu dewis iaith.