Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023

Chwiliad cwsmeriaid

Customer search (Chwiliad cwsmeriaid)


Mae ardal Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) y porth yn gadael i chi ddod o hyd i fyfyrwyr unigol a gweinyddu eu cyfrifon.

Gallwch ei ddefnyddio i weld manylion un myfyriwr ar y tro, yn hytrach na chynnal chwiliad swmp ar gyfer pob myfyriwr. Os ydych chi'n rhedeg chwiliad swmp mewn rhan arall o'r porth, gallwch chi hefyd agor y sgrin Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) os byddwch chi'n dewis cyfenw myfyriwr yn y canlyniadau chwiliad swmp.

Mae gan yr ardal Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) 3 tab:

  • view application details (gweld manylion y cais)
  • maintain learning agreement (cynnal cytundeb dysgu)
  • confirm attendance (cadarnhau presenoldeb)

Bydd chwilio am fyfyriwr yma nid yn unig yn adfer eu gwybodaeth ymgeisio ond hefyd yn llenwi'r holl dabiau hyn.