Fersiwn 1.0 - Diweddarwyd Diwethaf: 10 Chwef 2023
Canllaw defnyddiwr Porth y Ganolfan Ddysgu
Canllaw i’ch helpu i ddefnyddio Porth y Ganolfan Ddysgu.
Dechrau arni
Sut i gael mynediad at Borth y Ganolfan Ddysgu
Gallwch gael mynediad at Borth y Ganolfan Ddysgu trwy borwr rhyngrwyd. Mae'r porth yn gweithio ar Microsoft Edge, Firefox, Safari a Chrome. Nid yw'n gweithio ar Opera.
I fynd i'r porth, ewch i http://www.learningcentre.uk.com neu dewiswch y botwm Mewngofnodi i Borth y Ganolfan Ddysgu ar frig y dudalen hon.
Sut i fewngofnodi i Borth y Ganolfan Ddysgu
- Ewch i http://www.learningcentre.uk.com neu dewiswch y botwm Mewngofnodi i Borth y Ganolfan Ddysgu ar frig y dudalen hon. Bydd hyn yn agor tudalen mewngofnodi'r porth.
- Rhowch eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair a dewiswch Sign in (Mewngofnodi). Bydd hyn yn mynd â chi i dudalen Home (Hafan) y porth.
Mewngofnodi am y tro cyntaf
Pan fyddwch yn cofrestru fel defnyddiwr Porth y Ganolfan Ddysgu, byddwn yn rhoi enw defnyddiwr a chyfrinair a gynhyrchir gan system i chi. Pan fyddwch yn mewngofnodi i'r porth am y tro cyntaf, bydd angen i chi newid y cyfrinair hwn.
Mae creu cyfrinair newydd sy’n hysbys i chi yn unig yn helpu cadw'ch cyfrif yn ddiogel.
Rhaid i’ch cyfrinair fod yn o leiaf 10 nod o hyd. Mae angen iddo gynnwys:
- o leiaf un rhif
- cymysgedd o lythrennau mawr a bach
- nod arbennig
Sut i ailosod eich cyfrinair
Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, gallwch ei ailosod eich hun cyn belled â'ch bod yn gwybod eich enw defnyddiwr.
- Ewch i http://www.learningcentre.uk.com neu dewiswch y botwm Mewngofnodi i Borth y Ganolfan Ddysgu ar frig y dudalen hon.
- Ar dudalen mewngofnodi Porth y Ganolfan Ddysgu, dewiswch Forgot your password? (Wedi anghofio eich cyfrinair?)
- Rhowch eich enw defnyddiwr a dewiswch Reset my password (Ailosod fy nghyfrinair). Yna byddwch yn cael e-bost yn dweud wrthych sut i ailosod eich cyfrinair.
Hafan
Tudalen hafan y porth
Tudalen hafan y porth yw'r dudalen gyntaf y byddwch chi'n ei gweld ar ôl mewngofnodi.
Ar ochr chwith y dudalen mae bar dewislen. Dewiswch Home (Hafan) o'r bar dewislen i weld y penawdau tudalen hafan canlynol:
- Messages (Negeseuon)
- Downloads (Lawrlwythiadau)
- Reports (Adroddiadau)
- Contacts and links (Cysylltiadau a dolenni)
Dewiswch bob pennawd i'w ehangu.
Mae gwybodaeth fanylach am elfennau'r dudalen hafan ym mhenodau dilynol y canllaw defnyddiwr hwn.
Dangosydd New Approved Applications (Ceisiadau Cymeradwy Newydd)
Ar frig y dudalen hafan, fe welwch y dangosydd New Approved Applications (Ceisiadau Cymeradwy Newydd). Mae hyn yn eich galluogi i ddod o hyd yn gyflym i unrhyw Gytundebau Dysgu LCA sydd angen eu harwyddo.
Os gwelwch rif wrth ymyl y dangosydd, dewiswch y rhif. Bydd hyn yn mynd â chi at restr o fyfyrwyr y mae angen iddynt lofnodi eu Cytundebau Dysgu LCA.
Messages (Negeseuon)
Dewiswch y tab Messages (Negeseuon) ar dudalen hafan y porth i ehangu'r ardal negeseuon. Mae'r negeseuon a ddangosir yma yn cynnwys gwybodaeth bwysig ar gyfer pob Canolfan Ddysgu.
Pan fyddwn yn postio neges newydd sydd angen eich sylw, bydd eicon 'newydd' yn ymddangos wrth ei ymyl.
I ddarllen neges, dewiswch ei theitl a bydd y neges yn dangos yn yr ardal ddisgrifio.
Unwaith y byddwch wedi darllen y neges, gallwch ei harchifo fel nad yw'n dod i fyny bob tro y byddwch chi'n mewngofnodi i'r porth. I wneud hyn, dewiswch y blwch ticio Archive (Archifo) ac yna dewiswch Save (Cadw).
Os ydych chi am ei ddarllen eto yn nes ymlaen, dewiswch Archived messages (Negeseuon wedi'u harchifo).
Downloads (Lawrlwythiadau)
Gallwch lawrlwytho rhai dogfennau sy'n ymwneud â LCA o Borth y Ganolfan Ddysgu. Mae'r rhain yn cynnwys ffurflenni Cytundeb Dysgu LCA a chanllawiau talu.
- Ewch i dudalen Home (Hafan) y porth a dewiswch Downloads (Lawrlwythiadau).
- Agorwch y gwymplen Select a category (Dewiswch gategori) a dewiswch gategori'r ddogfen rydych chi'n edrych amdani.
- Agorwch y gwymplen Select a title (Dewiswch deitl) a dewiswch y ddogfen sydd ei hangen arnoch chi. Bydd hyperddolen i'r ddogfen yn ymddangos o dan y cwymplenni.
- Dewiswch hyperddolen y ddogfen i'w lawrlwytho.
Reports (Adroddiadau)
Yn yr adran hon o Borth y Ganolfan Ddysgu, gallwch redeg adroddiadau ar gyfer eich Canolfan Ddysgu.
- Ewch i dudalen Home (Hafan) y porth a dewiswch Reports (Adroddiadau).
- Agorwch y gwymplen Category (Categori) a dewiswch gategori'r adroddiad.
- Agorwch y gwymplen Title (Teitl) a dewiswch yr adroddiad sydd ei angen arnoch chi. Bydd hyperddolen i'r adroddiad yn ymddangos o dan y cwymplenni.
- Dewiswch yr hyperddolen i lawrlwytho'r adroddiad.
Adroddiadau safon gwasanaeth
Gallwch ddefnyddio adroddiadau safon gwasanaeth i weld sut mae eich Canolfan Ddysgu yn perfformio yn ystod y flwyddyn.
Gallwch hefyd olrhain eich perfformiad dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf a gwirio sut rydych chi'n dod ymlaen o'i gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol.
- Ewch i dudalen Home (Hafan) y porth a dewiswch Reports (Adroddiadau).
- Agorwch y gwymplen Category (Categori) a dewiswch Service Standard Reports (Adroddiadau Safon Gwasanaeth).
- Agorwch y gwymplen Title (Teitl) a dewiswch yr adroddiad sydd ei angen arnoch chi. Bydd hyperddolen i'r adroddiad yn ymddangos o dan y cwymplenni.
- Dewiswch yr hyperddolen i lawrlwytho'r adroddiad.
Contacts and links (Cysylltiadau a dolenni)
Mae'r rhan hon o dudalen hafan Porth y Ganolfan Ddysgu yn dangos gwybodaeth a dolenni defnyddiol.
Er enghraifft, gallwch weld:
- gwybodaeth gyswllt Desg Gymorth ein Partneriaid
- gwybodaeth gyswllt eich Rheolwr Cyfrif LCA
- y cyfeiriad post i anfon ffurflenni cais LCA
Bar dewislen
Mae'r bar dewislen ar ochr chwith ffenestr Porth y Ganolfan Ddysgu. Bydd y dolenni yma yn mynd â chi i holl feysydd y porth:
- Mae Home (Hafan) yn mynd â chi i dudalen Hafan y porth
- Mae Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) yn gadael i chi chwilio am fyfyrwyr unigol
- Mae Worklists (Rhestrau Gwaith) yn gadael i chi chwilio am eich holl fyfyrwyr a dangos trosolwg o'r gweithredoedd gweinyddol sydd heb eu cyflawni ar eu cyfer
- Mae Maintenance (Cynnal a Chadw) yn gadael i chi ddiweddaru grwpiau, gwyliau, defnyddwyr neu broffiliau
- Mae User Profile (Proffil Defnyddiwr) yn gadael i chi weld eich proffil defnyddiwr, gan gynnwys eich enw defnyddiwr, rolau mynediad, enw'r Ganolfan Ddysgu a llawer mwy
- Mae Settings (Gosodiadau) yn gadael i chi newid sut rydych chi'n edrych ar Borth y Ganolfan Ddysgu
- Mae Logout (Allgofnodi) yn eich allgofnodi o'r porth
Mae gwybodaeth fanylach am yr opsiynau bar dewislen hyn ym mhenodau canlynol y canllaw hwn.
Os ydych chi am leihau'r bar dewislen, dewiswch logo'r goeden yn ei gornel chwith uchaf. I ehangu'r bar dewislen, dewiswch logo'r goeden eto.
Chwiliad cwsmeriaid
Customer search (Chwiliad cwsmeriaid)
Mae ardal Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) y porth yn gadael i chi ddod o hyd i fyfyrwyr unigol a gweinyddu eu cyfrifon.
Gallwch ei ddefnyddio i weld manylion un myfyriwr ar y tro, yn hytrach na chynnal chwiliad swmp ar gyfer pob myfyriwr. Os ydych chi'n rhedeg chwiliad swmp mewn rhan arall o'r porth, gallwch chi hefyd agor y sgrin Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) os byddwch chi'n dewis cyfenw myfyriwr yn y canlyniadau chwiliad swmp.
Mae gan yr ardal Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) 3 tab:
- view application details (gweld manylion y cais)
- maintain learning agreement (cynnal cytundeb dysgu)
- confirm attendance (cadarnhau presenoldeb)
Bydd chwilio am fyfyriwr yma nid yn unig yn adfer eu gwybodaeth ymgeisio ond hefyd yn llenwi'r holl dabiau hyn.
Tab View Application Details (Gweld Manylion Cais)
Mae'r tab View Application Details (Gweld Manylion Cais) yn gadael i chi ddod o hyd i fyfyrwyr sydd wedi cyflwyno cais am LCA. Gallwch hefyd weld statws eu cais yma.
- I ddod o hyd i fyfyriwr, dewiswch y flwyddyn berthnasol yn gyntaf o'r gwymplen Academic Year (Blwyddyn Academaidd).
- Nesaf, nodwch rif cyfeirnod cwsmer y myfyriwr neu ei enw cyntaf ac olaf a dyddiad geni.
- Dewiswch Search (Chwilio) a bydd y system yn dod â chofnod y myfyriwr perthnasol i fyny.
Bydd y tab hwn yn dangos statws cais y myfyriwr i chi, gan gynnwys a yw'n fyfyriwr treigl awtomatig. Mae'r dangosydd Auto rollover (Treigl awtomatig) yn weithredol pan fydd myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo'n awtomatig i'r flwyddyn academaidd newydd. Yn nodweddiadol, bydd hyn yn berthnasol i fyfyrwyr yr ail neu'r drydedd flwyddyn.
Os oes angen, gallwch ychwanegu nodiadau at gyfrif myfyriwr ar y tab hwn. Gallwch hefyd dynnu myfyriwr unigol yma. Fodd bynnag, dim ond myfyrwyr nad ydynt eto wedi llofnodi eu Cytundeb Dysgu LCA y dylech chi eu dileu.
Meini prawf chwilio
Customer reference number (Cyfeirnod cwsmer)
Mae'r maes hwn yn ymddangos ar bob tab ac yn cynnwys un canlyniad chwilio yn unig.
Surname and forenames (Cyfenw ac enwau blaen)
Os oes gennych fwy nag un myfyriwr â'r un enw, efallai y bydd eich chwiliad yn dod â mwy nag un canlyniad.
Academic year, AY (Blwyddyn academaidd)
Gallwch weld ceisiadau o flwyddyn academaidd flaenorol, ond ni allwch gyflwyno cadarnhad ar eu cyfer.
Date of birth (Dyddiad Geni)
Gallwch chwilio yn ôl dyddiad geni myfyriwr ochr yn ochr â’i gyfenw a’i enw cyntaf. Rhowch y dyddiad mewn fformat dd/mm/bbbb.
Tab Maintain Learning Agreement (Cynnal Cytundeb Dysgu)
Mae'r tab Maintain Learning Agreement (Cynnal Cytundeb Dysgu) ar gyfer cynnal Cytundeb Dysgu LCA.
Gallwch ei ddefnyddio i:
- adolygu pan fydd y cytundeb wedi'i lofnodi
- diweddaru ffurflen Cytundeb Dysgu LCA newydd
- agor ffurflen Cytundeb Dysgu LCA sy'n bodoli eisoes
- stopio, atal ac ail-ysgogi Cytundebau Dysgu LCA
- neilltuo myfyrwyr i grwpiau
Diweddaru manylion Cytundeb Dysgu LCA
- Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu.
- Dewiswch Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) o'r bar dewislen.
- Rhedwch chwiliad i ddod o hyd i'r myfyriwr yr ydych am ddiweddaru ei gytundeb.
- Agorwch y tab Maintain Learning Agreement (Cynnal Cytundeb Dysgu) ac ewch i'r adran Agreement Details (Manylion Cytundeb).
- O dan Part 1 Confirmation (Cadarnhad Rhan 1), dewiswch y botwm radio Yes (Do) i gadarnhau bod y myfyriwr wedi llofnodi Rhan 1 o Gytundeb Dysgu LCA. Dewiswch No (Na) os yw'r myfyriwr wedi gwrthod ei lofnodi. Peidiwch â dewis y naill na'r llall os na chymerwyd unrhyw gamau ar gyfer Rhan 1 o'r Cytundeb Dysgu LCA.
Os dewiswch No (Na), ni fydd y myfyriwr yn ymddangos yn y tab Cadarnhau Presenoldeb. Os dewiswch Yes (Do), bydd y maes Date (Dyddiad) yn dangos dyddiad cadarnhau Rhan 1 y cytundeb.
- Unwaith y byddwch wedi nodi'r holl wybodaeth berthnasol, dewiswch Save (Cadw).
Dylid llofnodi cytundebau dysgu cyn i chi dorri ar gyfer gwyliau'r haf. Y dyddiad cau ar gyfer eu llofnodi yw diwedd y flwyddyn academaidd. Os na all y myfyriwr wneud hyn oherwydd rhesymau personol cymhellol, rhaid iddo lofnodi erbyn diwedd mis cyntaf (Medi) y flwyddyn academaidd nesaf fan bellaf.
Dyddiad dechrau’r cwrs
Rhaid i chi nodi dyddiad cychwyn cwrs y myfyriwr cyn iddynt lofnodi eu Cytundeb Dysgu LCA neu i chi gadarnhau eu presenoldeb.
Dyddiad dechrau’r cwrs sy’n pennu pryd y daw’r myfyriwr yn gymwys i gael taliadau LCA.
Unwaith y byddwch wedi nodi'r dyddiad hwn, ni fyddwch yn gallu ei newid.
Y dyddiad dechrau sy’n pennu pryd y daw’r myfyriwr yn gymwys i gael LCA, ac a yw’n gymwys i gael unrhyw daliadau wedi’u hôl-ddyddio. Bydd y dyddiad hwn yn cael ei gysylltu â 'dyddiad derbyn cais' y myfyriwr. Os yw’r myfyriwr wedi gwneud cais o fewn 13 wythnos i ddechrau ei gwrs, efallai y bydd ganddo hawl i gael hyd at 13 wythnos o daliadau wedi’u hôl-ddyddio.
Enghraifft
Dyddiad dechrau’r cwrs: 8 Medi 2024
Dyddiad dechrau myfyriwr: 4 Hydref 2024
Dyddiad Derbyn y cais: 1 Tachwedd 2024
Efallai y bydd gan y myfyriwr hawl i daliadau wedi’u hôl-ddyddio o 4 Hydref (tua 4 wythnos) gan ei fod wedi gwneud cais o fewn 13 wythnos i ddechrau ei gwrs.
Math o gwrs
Rhaid i chi hefyd ddewis y cwrs y mae'r myfyriwr yn ei astudio o'r gwymplen Course Type (Math o Gwrs). Rydym wedi rhagddiffinio’r cyrsiau yn y gwymplen hon mewn ymgynghoriad â Chanolfannau Dysgu yng Nghymru.
Amgylchiadau esgusodol
Gall myfyrwyr amlygu eu bod yn profi amgylchiadau esgusodol ar eu Cytundeb Dysgu LCA.
Gallwch ddewis y botwm radio Extenuating Circumstances (Amgylchiadau esgusodol) i gofnodi hyn ar y tab Maintain Learning Agreement (Cynnal Cytundeb Dysgu).
Cofnodi caniatâd i rannu
Os bydd myfyriwr yn rhoi caniatâd i chi drafod ei LCA gyda’i riant neu warcheidwad ar ei Gytundeb Dysgu LCA, gallwch gofnodi hyn ar dab Cytundeb Dysgu’r porth.
Dewiswch y botwm radio Consent to share (Caniatâd i rannu) pan fyddwch yn cadarnhau bod y myfyriwr wedi llofnodi ei Gytundeb Dysgu LCA.
Cofnodi dewis iaith y myfyriwr
Gall pob myfyriwr ddewis Cymraeg neu Saesneg fel eu dewis iaith ar y ffurflen gais. Bydd y Ffurflen Cytundeb Dysgu LCA hefyd yn gofyn yr un cwestiwn.
Pan fydd y myfyriwr yn cadarnhau ei ddewis iaith, bydd angen i chi gofnodi hyn ar y tab Maintain Learning Agreement (Cynnal Cytundeb Dysgu), ynghyd â'r wybodaeth arall yn ei Gytundeb Dysgu LCA. Bydd hyn yn gadael i ni anfon negeseuon testun i fyfyrwyr am eu taliadau LCA yn eu dewis iaith.
Tab Confirm Attendance (Cadarnhau Presenoldeb)
Gallwch ddefnyddio’r tab Confirm Attendance (Cadarnhau Presenoldeb) i brosesu cadarnhad presenoldeb wythnosol myfyriwr unigol. Gallwch hefyd weld eu hanes presenoldeb ar gyfer yr wythnosau blaenorol.
Sut i gadarnhau presenoldeb
- Mewngofnodwch i Borth y Ganolfan Ddysgu.
- Dewiswch Customer Search (Chwiliad Cwsmeriaid) o'r bar dewislen a rhedwch chwiliad i ddod o hyd i'r myfyriwr perthnasol.
- Agorwch y tab Confirm Attendance (Cadarnhau Presenoldeb).
- Dewiswch y botwm radio In Attendance (Yn Bresennol) neu Not In Attendance (Ddim yn Bresennol) ar gyfer yr wythnos berthnasol.
- Dewiswch Save (Cadw). Bydd hyn yn agor ffenestr naid sy'n cadarnhau bod eich gwaith wedi'i gadw.
Os byddwch yn cadarnhau bod myfyriwr yn bresennol yn ystod wythnos wyliau, bydd angen i chi nodi nodyn presenoldeb. Bydd hyn yn dweud wrthym pam y dylai'r myfyriwr dderbyn LCA am yr wythnos honno. Y dewisiadau yw:
- summer course (cwrs haf)
- work experience (profiad gwaith)
- study class (dosbarth astudio)
- Prince’s Trust (Ymddiriedolaeth y Tywysog)
- other (arall)
Os dewiswch other (arall), bydd angen i chi gynnwys nodyn i ddweud wrthym pam fod y myfyriwr yn bresennol.
Cadarnhad SLC
Efallai y byddwch yn gweld SLC yn achlysurol yn y golofn Confirmed by (Cadarnhawyd gan) yn y tab Confirm Attendance (Cadarnhau Presenoldeb).
Mae hyn yn golygu ein bod wedi gwneud y cadarnhad ac ni allwch ei ddiystyru ar y porth.
Os oes angen i chi ei newid, bydd angen i chi gysylltu â'n Desg Gymorth Partneriaid a all wneud hyn ar eich rhan.
Dyddiadau cau ar gyfer cadarnhau presenoldeb
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cadarnhad presenoldeb ar gyfer pob wythnos yw 5pm y dydd Mercher canlynol.
Os byddwch yn methu'r dyddiad cau dydd Mercher, efallai y bydd oedi gyda thaliadau. Gallai hyn achosi cwestiynau gan eich myfyrwyr.
Rhestrau gwaith
Worklists (Rhestrau gwaith)
Mae'r rhan hon o'r porth yn gadael i chi adolygu a diweddaru'r holl geisiadau, ffurflenni Cytundeb Dysgu LCA a phresenoldeb mewn un lle. Gallwch ddefnyddio 3 rhestr waith i wneud hyn.
Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau)
Mae'r rhestr waith hon yn caniatáu ichi weld y ceisiadau a'u statws. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i gael gwared ar fyfyrwyr mewn swmp.
EMA Learning Agreement Worklist (Rhestr Waith Cytundeb Dysgu LCA)
Mae'r rhestr waith hon yn gadael i chi weld a diweddaru pob Cytundeb Dysgu LCA. Gallwch hefyd ei ddefnyddio i atal neu ohirio Cytundebau Dysgu LCA.
Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb)
Mae'r rhestr waith hon yn gadael i chi gadarnhau presenoldeb ar gyfer pob myfyriwr.
Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r rhestrau gwaith hyn ym mhenodau nesaf y canllaw hwn.
Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau)
I weld pob cais, ewch i Worklists (Rhestrau Gwaith), agorwch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau) a dewiswch Search (Chwilio).
Gallwch hefyd ddefnyddio'r meini prawf chwilio canlynol i gyfyngu'r canlyniadau:
- cyfeirnod cwsmer
- enw cyntaf ac olaf
- dyddiad geni
- grwpiau
- statws cais
- dyddiau ers cymeradwyo
Gallwch weld ceisiadau sydd ar y camau canlynol:
- yn aros am wybodaeth
- yn cael ei brosesu
- wedi’i gymeradwyo
- diddymwyd
- cymeradwywyd – Cytundeb Dysgu heb ei gwblhau
Mae ceisiadau yn y camau canlynol wedi'u heithrio:
- yn aros am wrthodiad
- gwrthodwyd
Mae'r cyfenwau yn y canlyniadau chwilio hefyd yn hyperddolenni. Bydd dewis cyfenw yn mynd â chi at gofnod y myfyriwr.
O bryd i'w gilydd, efallai y bydd eich chwiliad yn dod ag enw nad ydych yn ei adnabod fel myfyriwr yn eich Canolfan Ddysgu. Mae'n bosibl bod y myfyriwr wedi tynnu'n ôl ac ymuno â Chanolfan Ddysgu arall heb ddweud wrthym. Efallai y byddan nhw hefyd wedi gadael Canolfan Ddysgu arall ac wedi cofrestru yn eich un chi heb i chi gael gwybod.
Allgludo Rhestr Waith Ceisiadau
Mae swyddogaeth allgludo hefyd ar gael o’r sgrin rhestr waith cytundeb dysgu. Mae hyn yn golygu y gallwch allgludo rhestr waith y cytundeb dysgu i'ch systemau lleol eich hun.
Dylech bob amser ddefnyddio'r allgludiad hwn yn unol â'r Cytundeb Rhannu Data a gedwir rhwng y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a'r Canolfannau Dysgu. Mae pob parti yn ymroi i’r llall y bydd yn cydymffurfio, ble fo'n berthnasol, gyda rhwymedigaethau'r Rheolydd dan ddarpariaethau'r GDPR y DU ac yn ymrwymo y bydd yn prosesu Data Personol angenrheidiol i gyflawni ei rwymedigaethau dan y Cytundeb yn unig yn unol â Chyfreithiau Diogelu Data.
Mae hyn yn golygu mai dim ond am gyhyd ag sydd ei angen arnoch y gallwch gadw data personol er mwyn iddo gael ei ddefnyddio at y diben a nodwyd, a dylech bob amser ddileu’r data o restr waith y cytundeb dysgu cyn gynted ag y byddwch wedi’i ddefnyddio yn ôl yr angen.
Days since approval (Dyddiau ers cymeradwyo)
Gallwch ddefnyddio'r opsiwn Days since approval (Dyddiau ers cymeradwyo) i gyfrifo pryd y bydd y cyfnod o 10 diwrnod gwaith i lofnodi Cytundeb Dysgu LCA yn dechrau.
Mae gan fyfyrwyr 10 diwrnod gwaith i lofnodi eu cytundeb. Rydym yn dechrau cyfrif hyn o'r diwrnod y caiff eu cais ei gymeradwyo neu'r diwrnod y bydd blwyddyn academaidd LCA yn dechrau, p'un bynnag sydd hwyraf. Byddwn yn dweud wrthych beth yw dyddiad dechrau blwyddyn academaidd LCA, fel arfer ym mis Awst, cyn i'r flwyddyn academaidd ddechrau. Rydym hefyd wedi ychwanegu’r opsiwn Days since approval (Dyddiau ers cymeradwyo) i’r porth i’ch helpu i gyrraedd y safon gwasanaeth 10 diwrnod.
Mae nifer y dyddiau yn y canlyniadau chwilio hefyd yn hyperddolen. Bydd dewis hwn yn mynd â chi’n syth at Gytundeb Dysgu LCA y myfyriwr.
Auto Rollover (Treiglo Awtomatig)
Mae'r dangosydd Auto Rollover (Treigl Awtomatig) yn dangos pan fydd myfyriwr sy’n dychwelyd cymwys wedi'i drosglwyddo'n awtomatig i'r flwyddyn academaidd newydd.
Byddwn yn trosglwyddo unrhyw fyfyrwyr cymwys sy'n dychwelyd yn awtomatig, ond gallwch ddileu ac adfer ceisiadau yn ôl yr angen.
Dileu ac adfer myfyrwyr
Gallwch ddefnyddio'r tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu i:
- ddileu myfyrwyr nad ydynt bellach yn eich Canolfan Ddysgu
- adfer myfyrwyr sydd wedi dychwelyd
Unwaith y byddwch wedi dileu myfyriwr, ni fydd angen i chi gadarnhau ei Gytundeb Dysgu LCA na’i bresenoldeb. Ni ddylech ddileu myfyrwyr sydd wedi cael Cytundeb Dysgu LCA gweithredol.
Dileu myfyrwyr
- Agorwch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau) a rhedwch chwiliad i ganfod y myfyrwyr rydych chi am eu dileu.
- Yn y canlyniadau chwilio, dewiswch y blwch ticio Remove (Dileu) ar gyfer unrhyw fyfyrwyr y mae angen i chi eu tynnu. Bydd hyn yn actifadu'r botwm Remove (Dileu).
- Dewiswch y botwm Remove (Dileu). Bydd hyn yn agor ffenestr naid yn gofyn ichi gadarnhau'r rhai i’w dileu.
- Dewiswch Confirm (Cadarnhau) i ddileu'r myfyrwyr a ddewiswyd neu Cancel (Canslo) i ddychwelyd i'r wedd flaenorol.
Adfer myfyrwyr
- Agorwch y tab Application Worklist (Rhestr Waith Ceisiadau).
- Agorwch y gwymplen Application Status (Statws Cais) a dewiswch Removed (Wedi'i Ddileu).
- Dewiswch Search (Chwilio) i weld rhestr o geisiadau sydd wedi'u dileu.
- Dewiswch gyfenw’r myfyriwr perthnasol yn y canlyniadau chwilio i agor manylion ei gais.
- Dewiswch Restore (Adfer) a bydd y system yn rhoi'r myfyriwr yn ôl ar eich rhestr arferol o geisiadau.
Er enghraifft, gallwch ddefnyddio'r opsiwn hwn os penderfynodd myfyriwr yn wreiddiol adael eich Canolfan Ddysgu i chwilio am waith ond yna penderfynodd ddychwelyd.
Unwaith y byddwch wedi adfer cais y myfyriwr, gallwch barhau i gadarnhau ei Gytundeb Dysgu LCA a’i bresenoldeb yn ôl yr angen.
Os ceisiwch adael y sgrin hon heb gadw eich gwaith yn gyntaf, bydd y system yn dangos neges rhybudd i chi.
Learning Agreement Worklist (Rhestr Waith Cytundeb Dysgu)
Gallwch ddefnyddio Learning Agreement Worklist (Rhestr Waith y Cytundeb Dysgu) i:
- ddiweddaru Cytundebau Dysgu LCA
- stopio, atal neu adfer Cytundebau Dysgu LCA
I weld pob cais, ewch i Worklists (Rhestrau Gwaith), agorwch y tab Learning Agreement Worklist (Rhestr Waith Cytundebau Dysgu) a dewiswch Search (Chwilio). Gallwch hefyd ddefnyddio'r meini prawf chwilio canlynol i gyfyngu'r canlyniadau:
- blwyddyn academaidd
- cyfeirnod cwsmer
- enw cyntaf ac olaf
- dyddiad geni
- grwpiau
- dyddiau ers cymeradwyo
- Statws Cytundeb Dysgu
- Cadarnhad Rhan 1
Mae'r cyfenwau yn y canlyniadau chwilio hefyd yn hyperddolenni. Bydd dewis cyfenw yn mynd â chi i gofnod y myfyriwr lle gallwch chi wneud y newidiadau angenrheidiol.
Allgludo Rhestr Waith Cytundeb Dysgu
Mae swyddogaeth allgludo hefyd ar gael o’r sgrin rhestr waith cytundeb dysgu. Mae hyn yn golygu y gallwch allgludo rhestr waith y cytundeb dysgu i'ch systemau lleol eich hun.
Dylech bob amser ddefnyddio'r allgludiad hwn yn unol â'r Cytundeb Rhannu Data a gedwir rhwng y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr a'r Canolfannau Dysgu. Mae pob parti yn ymroi i’r llall y bydd yn cydymffurfio, ble fo'n berthnasol, gyda rhwymedigaethau'r Rheolydd dan ddarpariaethau'r GDPR y DU ac yn ymrwymo y bydd yn prosesu Data Personol angenrheidiol i gyflawni ei rwymedigaethau dan y Cytundeb yn unig yn unol â Chyfreithiau Diogelu Data.
Mae hyn yn golygu mai dim ond am gyhyd ag sydd ei angen arnoch y gallwch gadw data personol er mwyn iddo gael ei ddefnyddio at y diben a nodwyd, a dylech bob amser ddileu’r data o restr waith y cytundeb dysgu cyn gynted ag y byddwch wedi’i ddefnyddio yn ôl yr angen.
Atal Cytundeb Dysgu LCA
Dylech atal Cytundeb Dysgu LCA myfyriwr dros dro os yw i ffwrdd o’ch Canolfan Ddysgu am gyfnod estynedig. Gallai hyn fod oherwydd salwch tymor hir neu gyfnod o LCA anghymwys, megis lleoliad gwaith â thâl.
Dylech hefyd atal myfyriwr os nad ydych yn siŵr beth sydd wedi digwydd ac a fydd yn dychwelyd i’ch Canolfan Ddysgu.
- Agorwch y Learning Agreement Worklist (Rhestr Waith Cytundeb Dysgu) a rhedeg chwiliad i ddod o hyd i'r myfyriwr perthnasol.
- Dewiswch gyfenw'r myfyriwr yn y canlyniadau chwilio i agor ei fanylion Cytundeb Dysgu LCA.
- Dewiswch Suspend (Atal) a nodwch y dyddiad dod i rym.
- Dewiswch Save (Cadw). Bydd hyn yn agor ffenestr naid lle gallwch gadarnhau'r newid.
Bydd Porth y Ganolfan Ddysgu yn dangos pwy sydd wedi atal Cytundeb Dysgu LCA. Os oedd yn rhywun o'n Desg Gymorth Partneriaid, bydd yn dangos fel SLC. Os oedd yn un o ddefnyddwyr eich Canolfan Ddysgu, bydd yn dangos fel LC.
Adfer Cytundeb LCA
Gallwch adfer Cytundeb Dysgu LCA wedi'i ohirio os bydd y myfyriwr yn dychwelyd i'ch Canolfan Ddysgu. Er enghraifft, efallai y byddant yn dechrau mynychu eto ar ôl gwella o salwch hirdymor. Os bydd hyn yn digwydd, rhaid i chi adfer eu Cytundeb Dysgu LCA cyn y gall eu taliadau LCA ddechrau eto.
- Agorwch y Learning Agreement Worklist (Rhestr Waith Cytundeb Dysgu).
- Yn y gwymplen Learning Agreement Status (Statws Cytundeb Dysgu), dewiswch Suspended (Wedi'i Atal).
- Dewiswch Search (Chwilio) i ddod o hyd i restr o Gytundebau Dysgu LCA sydd wedi'u hatal.
- Dewiswch gyfenw'r myfyriwr yn y canlyniadau chwilio i agor ei fanylion Cytundeb Dysgu LCA.
- Dewiswch Reinstate (Adfer) a nodwch y dyddiad dod i rym.
- Dewiswch Save (Cadw). Bydd hyn yn agor ffenestr naid lle gallwch gadarnhau'r newid.
Stopio Cytundeb Dysgu LCA
Rhaid i chi nodi dyddiad wythnos yn terfynu pan fyddwch yn stopio Cytundeb Dysgu LCA. Unwaith y byddwch wedi stopio cytundeb, ni allwch ei ail-greu.
Dim ond os yw'r myfyriwr yn tynnu'n ôl o'ch Canolfan Ddysgu yn barhaol y dylech stopio Cytundeb Dysgu LCA. Os nad ydych yn siŵr a yw'r tynnu'n ôl yn barhaol, gadewch y cofnod wedi'i atal hyd nes y gallwch gadarnhau hyn.
Os ydych yn atal y cytundeb oherwydd bod y myfyriwr wedi marw, dywedwch wrth ein Desg Gymorth Partneriaid.
- Agorwch y Learning Agreement Worklist (Rhestr Waith Cytundeb Dysgu) a rhedeg chwiliad i ddod o hyd i'r myfyriwr perthnasol.
- Dewiswch gyfenw'r myfyriwr yn y canlyniadau chwilio i agor ei fanylion Cytundeb Dysgu LCA.
- Dewiswch Stop (Stopio) a nodwch y dyddiad dod i rym.
- Dewiswch Save (Cadw). Bydd hyn yn agor ffenestr naid lle gallwch gadarnhau'r newid.
Bydd Porth y Ganolfan Ddysgu yn dangos pwy sydd wedi stopio Cytundeb Dysgu LCA. Os oedd yn rhywun o'n Desg Gymorth Partneriaid, bydd yn dangos fel SLC. Os oedd yn un o ddefnyddwyr eich Canolfan Ddysgu, bydd yn dangos fel LC.
Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb)
Gallwch ddefnyddio’r Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb) i gadarnhau presenoldeb mewn swmp neu’n unigol. Gallwch hefyd gadarnhau presenoldeb lluosog ar gyfer myfyriwr sengl.
Cadarnhau presenoldeb pob myfyriwr
- Ewch i Worklists (Rhestrau Gwaith) ac agorwch y tab Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb).
- Agorwch y gwymplen Week Commencing/Ending (Wythnos yn Dechrau/Diweddu) a dewiswch yr wythnos rydych chi am ei diweddaru.
- Dewiswch Search (Chwilio). Bydd hyn yn dod â rhestr i fyny o'r holl fyfyrwyr sydd angen cadarnhad presenoldeb ar gyfer yr wythnos honno.
- Os ydych chi am gadarnhau bod pob myfyriwr yn bresennol am yr wythnos honno, dewiswch Confirm All (Cadarnhau Pawb), yna dewiswch Save (Cadw).
Os ydych chi wedi colli wythnos wyliau, gallwch chi hefyd ei diweddaru yma. I wneud hyn, dewiswch Holiday (Gwyliau), yna dewiswch Save (Cadw).
Cadarnhau presenoldeb yn unigol
- Ewch i Worklists (Rhestrau Gwaith) ac agorwch y tab Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb).
- Agorwch y gwymplen Week Commencing/Ending (Wythnos yn Dechrau/Diweddu) a dewiswch yr wythnos rydych chi am ei diweddaru.
- Dewiswch Search (Chwilio). Bydd hyn yn dod â rhestr i fyny o'r holl fyfyrwyr sydd angen cadarnhad presenoldeb ar gyfer yr wythnos honno.
- Ewch i'r golofn Attendance Status (Statws Presenoldeb) a dewiswch y botwm radio perthnasol ar gyfer pob myfyriwr. Yr opsiynau yw In Attendance (Presennol), Not In Attendance (Ddim yn Bresennol) ac On Holiday (Ar Wyliau).
- Unwaith y byddwch wedi dewis y botymau radio perthnasol ar gyfer pob myfyriwr, dewiswch Save (Cadw).
Cadarnhau presenoldeb lluosog ar gyfer myfyriwr sengl
- Ewch i Worklists (Rhestrau Gwaith) ac agorwch y tab Attendance Worklist (Rhestr Waith Presenoldeb).
- Agorwch y gwymplen Week Commencing/Ending (Wythnos yn Dechrau/Diweddu) a dewiswch yr wythnos rydych chi am ei diweddaru.
- Dewiswch Search (Chwilio). Bydd hyn yn dod â rhestr i fyny o'r holl fyfyrwyr sydd angen cadarnhad presenoldeb ar gyfer yr wythnos honno.
- Dewiswch gyfenw’r myfyriwr perthnasol. Bydd hyn yn mynd â chi i'w cyfrif lle gallwch ddewis opsiwn presenoldeb ar gyfer pob wythnos.
Opsiynau presenoldeb
Mae In Attendance (Presennol) yn golygu bod y myfyriwr wedi bodloni rheolau presenoldeb eich ysgol neu goleg, gan gynnwys unrhyw absenoldebau awdurdodedig. Mae gan fyfyrwyr hawl i LCA tra byddant yn dysgu a all gynnwys astudio amser llawn, absenoldeb astudio a dysgu cyfunol.
Mae Not In Attendance (Ddim yn bresennol) yn golygu nad yw’r myfyriwr wedi bodloni rheolau presenoldeb eich ysgol neu goleg, gan gynnwys absenoldebau anawdurdodedig.
Mae On Holiday (Ar wyliau) yn golygu bod eich Canolfan Ddysgu ar gau yn swyddogol am gyfnod estynedig. Mae hyn yn cynnwys wythnosau hanner tymor, gwyliau'r Pasg a'r Nadolig a gwyliau'r haf. Gallwch hefyd osod hwn ymlaen llaw gan ddefnyddio'r tab Holidays (Gwyliau) o dan adran Maintenance (Cynnal a Chadw) y porth.
Ni ddylech ddefnyddio'r opsiwn gwyliau ar gyfer wythnosau sy'n cynnwys diwrnodau hyfforddi staff neu wyliau banc, hyd yn oed os yw eich Canolfan Ddysgu ar gau yn swyddogol. Ar gyfer achosion unigryw o gau yn ystod yr wythnos, caiff y myfyrwyr eu cyfrif fel rhai sy'n bresennol.
Gofynion cadarnhau presenoldeb
Pan fyddwch yn cadarnhau presenoldeb, mae angen i chi:
- gadarnhau yn wythnosol erbyn 5pm dydd Mercher
- gadarnhau In Attendance (Yn Bresennol) a not In Attendance (Ddim yn Bresennol) neu On Holiday (Ar Wyliau)
- ddweud wrth fyfyrwyr os nad ydynt yn mynd i gael eu talu
- fod yn gyson â pholisi presenoldeb eich Canolfan Ddysgu
- fod yn gyson o ran yr hyn sy’n cyfrif fel absenoldeb awdurdodedig ac anawdurdodedig ar gyfer derbynwyr LCA a myfyrwyr eraill
Dangosydd Unconfirmed weeks (wythnosau heb ei gadarnhau)
Mae’r dangosydd Unconfirmed weeks (Wythnosau Heb eu Cadarnhau) yn ymddangos ar y Rhestr Waith Presenoldeb os oes gennych fyfyrwyr o hyd sydd yn dal angen cadarnhau presenoldeb. Dylech bob amser ei ddewis i weld y manylion, yna diweddaru a chadw presenoldeb ar gyfer unrhyw wythnosau sy'n dangos.
Unwaith y bydd cadarnhad presenoldeb yn gyfredol, bydd y blwch hwn yn diflannu tan y dydd Gwener nesaf.
Cynnal a chadw
Maintenance (Cynnal a chadw)
Gallwch ddefnyddio ardal Maintenance (Cynnal a Chadw) Porth y Ganolfan Ddysgu i weld a diweddaru gwybodaeth am y canlynol yn eich Canolfan Ddysgu:
- defnyddwyr
- proffiliau
- grwpiau
- gwyliau
Mae rhagor o wybodaeth am bob un o’r rhain ym mhenodau dilynol y canllaw hwn.
Tab Users (Defnyddwyr)
Gallwch ddefnyddio'r tab Users (Defnyddwyr) yn ardal Maintenance (Cynnal a Chadw) y porth i:
- greu cyfrifon defnyddwyr newydd
- weld cyfrifon defnyddwyr presennol
- ddirwyn hen gyfrifon defnyddwyr i ben
Bydd penodau nesaf y canllaw hwn yn dweud mwy wrthych am rolau defnyddwyr a chynnal a chadw.
Rolau mynediad defnyddiwr
EMA Administrator (Gweinyddwr LCA)
Gall defnyddwyr sydd â'r rôl hon gyrchu pob adran a thab ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Gallant:
- weld ceisiadau a Chytundebau Dysgu LCA
- cadarnhau presenoldeb
- gynnal grwpiau
- gynnal gwyliau
- gynnal defnyddwyr
EMA User (Defnyddiwr LCA)
Gall defnyddwyr sydd â'r rôl hon gyrchu tabiau cyfyngedig ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Gallant:
- weld ceisiadau a Chytundebau Dysgu LCA
- cadarnhau presenoldeb
Creu a dirwyn i ben cyfrifon defnyddwyr
Sut i greu cyfrif defnyddiwr newydd
- Ewch i ardal Maintenance (Cynnal a Chadw) Porth y Ganolfan Ddysgu ac agorwch y tab Users (Defnyddwyr).
- Dewiswch Create new (Creu newydd).
- Rhowch fanylion y defnyddiwr newydd: First name (Enw cyntaf), Surname (Cyfenw), Email (E-bost) a Telephone number (Rhif Ffôn).
- Dewiswch y blwch ticio priodol i ddyrannu rôl mynediad defnyddiwr. Administrator (Gweinyddwr) yw hwn fel arfer.
- Dewiswch Continue (Parhau). Bydd hyn yn agor sgrin gadarnhau lle gallwch adolygu'r manylion.
- Os yw'r holl fanylion yn gywir, dewiswch Submit (Cyflwyno) i orffen creu'r defnyddiwr.
Bydd y system wedyn yn e-bostio'r enw defnyddiwr a chyfrinair dros dro i’r defnyddiwr newydd. Bydd y defnyddiwr yn ymddangos ar y rhestr o ddefnyddwyr yn eich Canolfan Ddysgu.
Gallwch hefyd ddewis copïo manylion y defnyddiwr newydd i'r tab Profiles (Proffiliau). Bydd hyn yn ychwanegu'r defnyddiwr newydd at ein rhestr bostio fel y gallant ddechrau derbyn e-byst gan eich Rheolwr Cyfrif LCA.
Sut i ddirwyn hen gyfrif defnyddiwr i ben
Dylech ddirwyn unrhyw hen gyfrifon i ben unwaith nad oes angen mynediad i'r porth ar y defnyddiwr mwyach.
- Ewch i ardal Maintenance (Cynnal a Chadw) Porth y Ganolfan Ddysgu ac agorwch y tab Users (Defnyddwyr).
- Dewch o hyd i'r cyfrif sydd ei angen arnoch i ddod i ben a dewiswch Edit (Golygu).
- Dewiswch Expire account (Dirwyn i ben cyfrif).
Tab Profiles (Proffiliau)
Dylai fod gan eich Canolfan Ddysgu o leiaf 2 ddefnyddiwr wedi'u rhestru ar y tab Profiles (Proffiliau). Dylai'r rhain fod yn brif ddefnyddwyr Porth y Ganolfan Ddysgu.
Os oes angen, gallwch ychwanegu mwy o ddefnyddwyr. I wneud hyn, dewiswch Additional Contact (Cyswllt Ychwanegol) ac Add Contact (Ychwanegu Cyswllt).
Os oes angen i chi wirio neu newid manylion defnyddiwr presennol, dewiswch Edit (Golygu).
Gwnewch yn siŵr bod y proffiliau yma yn cynnwys y wybodaeth gyswllt gywir. Dim ond defnyddwyr sydd â'u manylion cyswllt ar y tab hwn fydd yn derbyn ein negeseuon e-bost am y cynllun LCA.
Gallwch hefyd ddiweddaru cyfeiriad a rhif ffôn eich Canolfan Ddysgu ar y tab hwn. Mae'n bwysig eich bod yn cadw'r rhain yn gyfredol fel y gallwn ddosbarthu deunyddiau printiedig i chi, fel pecynnau cais a deunyddiau cyn-lansio.
Tab Groups (Grwpiau)
Gallwch ddefnyddio'r tab Groups (Grwpiau) i greu, diwygio neu ddileu grwpiau. Gall sefydlu grwpiau fod yn ddefnyddiol os oes gan eich Canolfan Ddysgu fwy nag un campws, er enghraifft.
Bydd angen mynediad EMA Administrator (Gweinyddwr LCA) arnoch i ddefnyddio'r tab hwn.
I greu grŵp newydd, rhowch enw a disgrifiad grŵp, yna dewiswch Add (Ychwanegu). Unwaith y byddwch wedi sefydlu grŵp, gallwch aseinio myfyrwyr iddo.
Os oes gennych unrhyw grwpiau nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach, gallwch eu harchifo. I wneud hyn, dewiswch y blwch ticio yn y golofn Archive (Archifo), yna dewiswch Save (Cadw).
Os ydych chi am ddileu grŵp yn gyfan gwbl, dewiswch y blwch ticio yn y golofn Delete (Dileu), yna dewiswch Save (Cadw).
Tab Holidays (Gwyliau)
Os yw eich Canolfan Ddysgu ar gau i fyfyrwyr am 4 diwrnod neu fwy yn ystod wythnos, mae hyn yn cael ei gyfrif fel wythnos wyliau. Rhaid i chi nodi eich wythnosau gwyliau ar y tab Holidays (Gwyliau) ar y Porth Canolfannau Dysgu.
Mae angen i chi gael mynediad EMA Administrator (Gweinyddwr LCA) i ddefnyddio'r tab Holidays (Gwyliau).
Mae'n rhaid i chi ychwanegu eich holl wyliau, gan gynnwys gwyliau'r haf, ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod cyn iddi ddechrau ym mis Medi. Gallwch ychwanegu gwyliau o fis Mai. Rhaid i'r gwyliau fod o leiaf 8 wythnos i gyd.
Sut i gofnodi eich gwyliau
- Ewch i adran Maintenance (Cynnal a Chadw) Porth y Ganolfan Ddysgu ac agorwch y tab Holidays (Gwyliau).
- Dewiswch y flwyddyn gywir yn gyntaf o'r gwymplen Academic Year (Blwyddyn Academaidd).
- Dewiswch y blwch ticio Holiday (Gwyliau) ar gyfer pob wythnos sy'n wythnos wyliau.
- Dewiswch Save (Cadw).
Ni allwch gofnodi wythnosau gwyliau ar gyfer grwpiau mwyach. Rydym wedi disodli’r opsiwn hwn gyda’r flwyddyn academaidd yn unig. Mae hyn yn golygu mai dim ond unwaith y flwyddyn y mae angen i chi ddiweddaru gwyliau.
Gallwch ddiystyru'r gofyniad lleiaf o 8 wythnos o wyliau ar lefel myfyriwr os oes eithriadau. Er enghraifft, gallai hyn fod yn berthnasol i fyfyrwyr y mae eu cwrs yn cynnwys lleoliadau yn ystod gwyliau.
Cadarnhad gwyliau ôl-weithredol
Ni waeth pryd y caiff cais myfyriwr ei gymeradwyo, bydd y system yn cymhwyso cadarnhad gwyliau yn ôl-weithredol.
Os caiff cais myfyriwr ei gymeradwyo erbyn y dyddiad cau ôl-ddyddio (13 wythnos o ddyddiad cychwyn y cwrs), bydd y system yn cadarnhau ei fod 'ar wyliau' yn awtomatig yn ystod wythnosau gwyliau eich Canolfan Ddysgu. Ni fydd angen i chi nodi cadarnhad presenoldeb ar gyfer yr wythnosau hynny.
Proffil defnyddiwr a gosodiadau
User profile (Proffil defnyddiwr)
Mae adran User Profile (Proffil Defnyddiwr) Porth y Ganolfan Ddysgu yn dangos eich manylion defnyddiwr. Mae'r rhain yn cynnwys:
- eich enw defnyddiwr
- y cynllun yr ydych yn ei weinyddu
- eich cyfenw
- eich enwau cyntaf
- eich rôl mynediad system
Settings (Gosodiadau)
Gallwch ddefnyddio’r adran Settings (Gosodiadau) ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu i newid lliw’r ardaloedd porth canlynol:
- pennawd
- acordion
- dewislen
- cefndir dewislen
Gallwch hefyd ddewis a ydych am arddangos delwedd yng nghefndir y ddewislen, lleihau'r bar dewislen a newid maint y ffont.
Mae yna hefyd botwm i adfer gosodiadau diofyn.