Bydd Porth y Ganolfan Ddysgu a’r gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer GDLlC AB ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26 yn fuan

Diweddarwyd Diwethaf: 27 Mai 2025

Bydd Porth y Ganolfan Ddysgu GDLlC AB a gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gyfer GDLlC AB ar gael o 2 Mehefin ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26.

Anogwch eich myfyrwyr i wneud cais ar-lein lle bo modd. Dylai hyn wneud y daith ymgeisio yn haws ac arwain at dderbyn cadarnhad cyflymach o ddyfarniad i.

I hyrwyddo’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26, mae posteri ‘I Ddod yn Fuan’ ar gael ar y wefan Gwasanaethau LC. Gallwch eu harddangos mewn ardaloedd ble bydd myfyrwyr yn eu gweld.

Byddwn yn darparu posteri ‘ymgeisiwch nawr’ yn agosach at y dyddiad lansio. Bydd y rhain yn cynnwys cod QR, sy'n ei gwneud hi'n gyflymach ac yn haws i fyfyrwyr wneud cais.

Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu lawrlwytho ffurflenni cais ac arweiniad GDLlC AB o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Rhowch wybod i fyfyrwyr am y cyfraddau newydd i'w helpu i wneud penderfyniad gwybodus am eu hastudiaethau. Byddwn yn diweddaru'r ffurflen gais ar-lein a'r ffurflen gais y gellir ei lawrlwytho gyda'r cyfraddau newydd.

Cyfraddau newydd ar gyfer myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau ar gyfer BA 2025/26

Incwm blynyddol y cartref

Rhan-amser (275 – 499 awr gyswllt)

Llawn-amser (500+ awr gyswllt)

Hyd at £6,120

£959

£1,919

£6,121 – £12,235

£576

£959

£12,236 – £18,370

£384

£576

£18,371 ac uwch

£0

£0

Bydd gan unrhyw ffurflenni printiedig yr ydym eisoes wedi'u hanfon atoch yr hen gyfraddau. Pan fydd y ffurflenni hyn yn cael eu prosesu, byddwn yn eu hasesu gan ddefnyddio'r cyfraddau newydd.