Bwletin LCA Cymru a GDLlC AB – Tachwedd 2022
Diweddarwyd Diwethaf: 21 Tach 2022
Ceisiadau LCA ar gyfer blwyddyn academaidd 22/23
Atgoffwch eich dysgwyr y gallant barhau i wneud cais am gyllid LCA a GDLlC ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23.
Byddwn yn ôl-ddyddio taliadau LCA i ddechrau'r cwrs cyn belled â'n bod yn derbyn y cais o fewn 13 wythnos i ddyddiad dechrau'r cwrs.
Gall dysgwyr lawrlwytho'r ffurflen gais LCA a'r canllawiau o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Mae ffurflenni cais GDLlC hefyd ar gael ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Proses incwm a throthwyon y flwyddyn gyfredol
Fel arfer byddwn yn defnyddio incwm cartref o flwyddyn dreth 2020-21 i asesu hawl dysgwr ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23. Fodd bynnag, deallwn y gallai incwm aelwydydd fod wedi newid ers hynny.
Os yw incwm y cartref wedi gostwng yn barhaol ers blwyddyn dreth 2020-21, gallwn asesu dysgwyr gan ddefnyddio incwm presennol eu cartref.
Bydd angen iddynt gwblhau'r ffurflen gais o hyd gan ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth blwyddyn dreth 2020-21. Gyda'r ffurflen wedi'i chwblhau, dylent gynnwys llythyr yn nodi eu bod am i'w hasesiad fod ar incwm y flwyddyn gyfredol. Dylent hefyd gynnwys tystiolaeth o'r incwm hwn a phryd y digwyddodd y newid.
Gall myfyrwyr ddod o hyd i ganllawiau ymgeisio ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Dosbarthiad ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23
Rydym yn paratoi ar gyfer archebu a dosbarthu ceisiadau blwyddyn academaidd 2023/24. Sicrhewch fod gennym eich manylion dosbarthu cywir.
Gallwch weld eich manylion ar yr adran Proffiliau ym Mhorth y Ganolfan Ddysgu.
Gwiriwch fod eich manylion cyswllt yn gywir erbyn 9 Rhagfyr.
Porth y Ganolfan Ddysgu yn agor yn gynnar
Bydd y Nadolig gyda ni cyn bo hir ac felly byddwn yn agor Porth y Ganolfan Ddysgu yn gynnar yn yr wythnos yn dechrau 19 Rhagfyr.
Gan y gallwch gyflwyno presenoldebau o 19 Rhagfyr, bydd y dyraniadau yn eu lle cyn i chi dorri ar gyfer y gwyliau. Bydd hyn yn helpu sicrhau bod dysgwyr yn cael unrhyw LCA sy'n ddyledus iddynt.
Mae hefyd yn amser gwych i wirio bod eich canolfan ddysgu wedi nodi’r wythnosau cywir ar gyfer y Nadolig a gwyliau diwedd tymor ar y porth. Bydd hyn yn nodi bod pob myfyriwr ar wyliau yn awtomatig, gan sicrhau bod y porth yn gyfredol.
Gwiriwch hefyd unrhyw wythnosau heb eu cadarnhau i weinyddu unrhyw daliadau sy'n weddill.