Bwletin LCA Cymru a GDLlC AB – Rhagfyr 2022
Diweddarwyd Diwethaf: 14 Rhag 2022
Porth y Ganolfan Ddysgu yn agor yn gynnar cyn y Nadolig
Bydd Porth y Ganolfan Ddysgu yn agor yn gynnar ar gyfer cadarnhad presenoldeb LCA ar gyfer yr wythnos yn diweddu dydd Gwener 23 Rhagfyr. Gallwch gyflwyno eich cadarnhad o ddydd Llun 19 Rhagfyr fel eu bod yn eu lle cyn i'r cyfnod gwyliau ddechrau.
Er mwyn bodloni'r safonau gwasanaeth, rhaid i chi ddychwelyd cadarnhad presenoldeb wythnosol ar gyfer pob myfyriwr, p'un a yw'n bresennol ai peidio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn diweddaru eich gwybodaeth porth cyn i chi adael ar gyfer gwyliau'r Nadolig.
Mae hefyd yn amser da iawn i wirio am unrhyw bresenoldebau heb eu cadarnhau o'r wythnosau blaenorol. Gallwch wneud hyn trwy wirio a oes blwch wythnosau heb ei gadarnhau yn ardal rhestr waith presenoldeb eich porth.
Os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, gwiriwch eich bod wedi nodi eich gwyliau Nadolig fel gwyliau yn adran cynnal a chadw'r porth. Gwnewch yn siŵr bod yr wythnosau canlynol yn cael eu nodi fel gwyliau:
- unrhyw wythnosau mae eich Canolfan Ddysgu ar gau am wyliau
- unrhyw wythnosau mae eich Canolfan Ddysgu ar agor am ddim ond un diwrnod
Bydd hyn yn nodi bod pob myfyriwr ar wyliau yn awtomatig, gan sicrhau bod y porth yn gyfredol.
Cyhoeddi Hysbysiad Gwybodaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru 10/2022
Mae’r hysbysiad gwybodaeth hwn yn ymdrin ag amgylchiadau esgusodol ar gyfer y cynlluniau Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru Addysg Bellach (GDLlC AB). Gallwch weld Hysbysiad Gwybodaeth CMC 10/22 ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Desg gymorth LCA a GDLlC AB – oriau’r Nadolig
Mae tîm ein desg gymorth ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd am fyfyrwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a materion system. Dros gyfnod y Nadolig eu horiau agor yw:
- Dydd Gwener 23 Rhagfyr i ddydd Mawrth 27 Rhagfyr – ar gau
- Dydd Mercher 28 Rhagfyr i ddydd Iau 29 Rhagfyr – ar agor 10am tan 4pm
- Dydd Gwener 30 Rhagfyr i ddydd Mawrth 3 Ionawr – ar gau
Bydd y ddesg gymorth yn dychwelyd i fusnes fel arfer ar 4 Ionawr 2023.