Bwletin LCA Cymru a GDLlC AB – Medi 2022
Diweddarwyd Diwethaf: 30 Medi 2022
Nodiadau atgoffa ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd
Arwyddo Cytundebau Dysgu
Rhaid i chi drefnu i fyfyriwr gwblhau a dychwelyd ei Gytundeb Dysgu o fewn 10 diwrnod gwaith i gymeradwyo ei gais.
Wythnosau heb eu cadarnhau
Gweinyddwch unrhyw ‘wythnosau heb eu cadarnhau’ o fewn Porth y Ganolfan Ddysgu. Mae hyn yn osgoi unrhyw oedi mewn taliadau i ddysgwyr.
Dileu (Cytundebau Dysgu dyledus)
Dylech ddileu unrhyw fyfyrwyr nad ydynt yn dychwelyd ym mlwyddyn academaidd 2022/23. Dylech wneud hyn o fewn 10 diwrnod gwaith o'r wythnos lawn gyntaf ar ddechrau'r tymor. Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, dilëwch y myfyrwyr hyn nawr.
Taliadau wedi'u hôl-ddyddio
Rhaid i ddysgwyr wneud cais cyn 30 Medi 2022 i gael taliadau wedi’u hôl-ddyddio i ddechrau’r tymor. Os byddant yn gwneud cais ar ôl y dyddiad hwn, efallai y byddant yn cael taliadau wedi'u hôl-ddyddio i'r dydd Llun ar ôl iddynt ddychwelyd y cais.
Gweithgor Defnyddwyr Gwasanaeth
Mae'r Gweithgor Defnyddwyr Gwasanaeth yn adolygu cynllun a gweithrediad rhyngweithiadau gwasanaeth. Mae'r adolygiad hwn o safbwynt y defnyddiwr ac mae'n cynnwys barn arbenigol. Mae'r adolygiad hefyd yn cynnwys gwybodaeth am bolisi yn y dyfodol, gwella systemau a swyddogaethau adrodd.
Mae'n debyg y bydd y cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd. Byddwn yn cysylltu â chi os gwnaethoch gymryd rhan yn flaenorol. Cysylltwch â'ch Rheolwr Cyfrif os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r grŵp.
Cadw at Safonau Gwasanaeth
Rhaid dilyn y pwyntiau canlynol yn y Safonau Gwasanaeth.
- gwiriwch fod gwybodaeth eich dysgwyr yn gywir cyn cyflwyno eich cadarnhad presenoldeb wythnosol
- rhaid i chi ddychwelyd cadarnhad presenoldeb wythnosol ar gyfer pob myfyriwr. Rhaid i chi wneud hyn os ydynt yn 'bresennol' neu 'ddim yn bresennol’
- rhaid i chi wneud eich cadarnhad presenoldeb wythnosol ar Borth y Ganolfan Ddysgu - rhaid i hwn fod wedi'i gwblhau cyn 5pm ddydd Mercher ar gyfer yr wythnos flaenorol
Rydym yn monitro eich dychweliadau i sicrhau cydymffurfiaeth â'r safonau gwasanaeth. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyflwyno cadarnhad o ddiffyg presenoldeb a hysbysiadau o unrhyw symud mewn da bryd.