Bwletin LCA Cymru a GDLlC AB – Ionawr 2023
Diweddarwyd Diwethaf: 24 Ion 2023
Fforymau Adolygu Gwasanaethau LCA a GDLlC AB 2022/23
Rydym yn cynllunio ein Fforymau Adolygu Gwasanaethau 2022/23. Mae nifer dda wedi mynychu’r fforymau erioed ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i un o’r digwyddiadau. Byddwn yn anfon e-bost i nodi’r dyddiad yn fuan felly cadwch lygad amdano.
Yn dod yn fuan
Bydd y deunyddiau 'i ddod yn fuan' ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 ar gael ar y wefan hon yn ystod mis Chwefror.
Ystyriwch y ffordd orau o rannu'r dogfennau hyn mewn mannau ble bydd eich myfyrwyr yn eu gweld. Gallai hyn gynnwys gwefannau gwybodaeth, cyfryngau cymdeithasol neu fyrddau gwybodaeth.
Mae'r deunyddiau hyn yn rhan bwysig iawn o hyrwyddo LCA a GDLlC AB. Byddant yn helpu myfyrwyr i wneud dewisiadau gwybodus am eu haddysg yn y dyfodol.
Diolchwn i chi fel arfer am eich cefnogaeth barhaus i wneud y wybodaeth hon yn hygyrch i fyfyrwyr.
Cadarnhad o bresenoldeb
Wrth i'r argyfwng costau byw barhau, mae hi cyn bwysiced ag erioed bod myfyrwyr yn cael eu taliadau LCA a GDLlC AB ar amser.
Er mwyn sicrhau bod hyn yn digwydd, cadarnhewch bresenoldeb eich myfyrwyr LCA ar borth y Ganolfan Ddysgu bob wythnos. Dylech gyflwyno eich cadarnhad cyn 5pm ar ddydd Mercher ar gyfer yr wythnos flaenorol.
Ar gyfer myfyrwyr GDLlC AB, dylech gadarnhau eu presenoldeb ar gyfer tymor 2 unwaith y byddwch yn fodlon eu bod wedi dychwelyd i astudio.
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau gwybodaeth talu ar Borth y Ganolfan Ddysgu.