Bwletin LCA Cymru a GDLlC AB – Awst 2022
Diweddarwyd Diwethaf: 23 Awst 2022
I mewn i'r flwyddyn academaidd newydd
Mae angen i fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd gael LCA newydd neu Gytundeb Dysgu GDLlC AB ar gyfer pob blwyddyn academaidd. Dyddiad cychwyn cynllun LCA a GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23 fydd 12 Medi.
Os yw cais eisoes wedi’i gymeradwyo, rhaid i’r Cytundeb Dysgu gael ei lofnodi o fewn 10 diwrnod gwaith i’r dyddiad hwn.
Os yw cais yn dal i fynd drwy’r broses weinyddol a chymeradwyo, rhaid arwyddo’r Cytundeb Dysgu o fewn 10 diwrnod i gymeradwyo’r cais.
Mae’n bosibl bod gennych fyfyrwyr sydd wedi dychwelyd i astudio’n gynharach a’ch bod eisoes wedi sefydlu Cytundeb Dysgu. Os felly, gallwch gadarnhau eu presenoldeb cyn 12 Medi.
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23, gallwch barhau i e-bostio Cytundebau Dysgu at fyfyrwyr os yw cyfarfod yn bersonol yn anodd. Dylech gadw pob cadarnhad e-bost at ddibenion archwilio. Mae rhagor o wybodaeth am e-bostio’r Cytundeb Dysgu yn y nodiadau canllaw.
Cofiwch hefyd nodi eich gwyliau LCA ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23, os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes. Mae rhagor o wybodaeth am sut i gofnodi eich gwyliau yn y nodiadau canllaw.
Newidiadau i bolisi preswylio LCA a GDLlC AB: Cynlluniau Wcráin
Mae'r polisi preswylio ar gyfer LCA a GDLlC AB wedi newid yn ddiweddar. O 24 Gorffennaf 2022, gall myfyrwyr sydd wedi cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros o dan Gynllun Wcráin fod yn gymwys i gael cymorth LCA a GDLlC AB.
Rydym wedi cyhoeddi diweddariadau i'r Ffurflen Gais LCA a’r Ffurflen Gais GDLlC AB. Maent yn cynnwys gwybodaeth cymhwysedd ar gyfer myfyrwyr yn y categori hwn. Os oes gennych unrhyw fyfyrwyr a wnaeth gais cyn 24 Gorffennaf, helpwch nhw i lenwi adran newydd y ffurflen. Dylech hefyd ei roi i unrhyw fyfyrwyr sy'n defnyddio'r pecyn cais papur.
Gall myfyrwyr nad ydynt wedi gwneud cais eto lawrlwytho'r pecynnau cais llawn wedi'u diweddaru gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Gwefan Gwasanaethau y Ganolfan Ddysgu
Gellir dod o hyd i'n holl ddogfennau canllaw ar y wefan hon nawr. Cyfarwyddwch eich hun â’r dyluniad.
Gellir dod o hyd i Gytundebau Dysgu blwyddyn academaidd 2022/23 a chanllawiau gwybodaeth talu ar y porth o hyd o dan yr adran lawrlwythiadau.
Fforymau adolygu gwasanaethau LCA
Diolch eto i bawb a fynychodd fforymau 2022 yn rhithwir neu wyneb yn wyneb.
Mae sleidiau'r cyflwyniadau nawr ar gael i'w gweld ar y dudalen Digwyddiadau, ynghyd â'r Cwestiynau Cyffredin.