Bwletin ar gyfer Tachwedd 2023
Diweddarwyd Diwethaf: 03 Medi 2024
Ceisiadau LCA ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24
Atgoffwch eich dysgwyr y gallant barhau i wneud cais am eu cyllid LCA a GDLlC AB ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24.
Byddwn yn ôl-ddyddio taliadau LCA i ddechrau'r cwrs cyn belled â'n bod yn derbyn y cais o fewn 13 wythnos i ddyddiad dechrau'r cwrs.
Ar gyfer GDLlC AB, rhaid i ddysgwyr newydd wneud cais o fewn 9 mis i ddechrau eu cwrs, a rhaid i ddysgwyr sy’n dychwelyd lofnodi eu cytundeb fewn 9 mis i ddechrau eu cwrs.
Mae’r gwasanaeth LCA ar-lein ar gael yn Gymraeg a Saesneg i ddysgwyr ymgeisio yma.
Gall dysgwyr lawrlwytho'r ffurflenni cais a chanllawiau LCA a GDLlC AB o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Dosbarthiad ceisiadau ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25
Rydym yn dechrau'r broses drefnu ar gyfer ceisiadau, ond yn gyntaf mae angen i ni sicrhau bod gennym eich manylion dosbarthu cywir.
Gallwch weld y manylion sydd gennym ar y tab Cynnal Proffiliau ar Borth y Ganolfan Ddysgu. Dyma hefyd lle gallwch chi eu diweddaru os ydyn nhw'n anghywir.
Gwiriwch fod eich manylion cyswllt yn gyfredol erbyn 8 Rhagfyr.
Porth y Ganolfan Ddysgu yn agor yn gynnar
Rydym yn agor Porth y Ganolfan Ddysgu yn gynnar ar gyfer ceisiadau yn yr wythnos yn terfynu 22 Rhagfyr. Mae hyn yn golygu y gallwch gyflwyno presenoldebau o 18 Rhagfyr, felly bydd y dyraniadau yn eu lle cyn i chi dorri ar gyfer y gwyliau.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi'r wythnosau canlynol fel gwyliau:
- pob wythnos pan mae eich Canolfan Ddysgu ar gau ar gyfer gwyliau
- pob wythnos pan mae eich Canolfan Ddysgu ar agor am ddim ond un diwrnod
Bydd hyn yn marcio pob dysgwr yn awtomatig fel ar wyliau, gan sicrhau bod y porth yn gyfredol.
Gwnewch yn siŵr hefyd eich bod yn gwirio adran Wythnosau heb eu Cadarnhau y porth i weinyddu unrhyw daliadau myfyrwyr sy'n ddyledus.
Cadarnhad presenoldeb GDLlC
Wrth i ni agosáu at fis olaf tymor 1, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cadarnhau presenoldeb holl fyfyrwyr GDLlC cymwys ar gyfer tymor 1 erbyn 22 Rhagfyr.
Desg gymorth LCA a GDLlC
Mae ein tîm desg gymorth ar gael i ateb unrhyw gwestiynau gweithredol o ddydd i ddydd sydd gennych. Mae hyn yn cynnwys ymholiadau am ddysgwyr unigol, prosesu ceisiadau, taliadau a'r Porth Canolfan Ddysgu.
Gallwch gyrraedd ein desg gymorth ar 0300 200 4050 (opsiwn 5 ar gyfer GDLlC, opsiwn 6 ar gyfer LCA) neu drwy e-bostio emainfo@slc.co.uk.
Ceisiwch ddefnyddio'r holl adnoddau sydd ar gael cyn i chi gyfeirio'r mathau hyn o ymholiadau at y tîm Rheoli Cyfrifon.